Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sarah Beasley 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

     1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod.

 

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Rhodri Glyn Thomas, Jocelyn Davies a Janet Finch-Saunders. 

 

 

(9:00-11:00)

2.

Y Bil Tai (Cymru): Cyfnod 1 Sesiwn 10 - Gweinidog Tai ac Adfywio

Carl Sargeant, y Gweinidog Tai ac Adfywio

Swyddogion Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y pwyllgor dystiolaeth gan Carl Sargeant, y Gweinidog Tai ac Adfywio.

 

2.2 Cytunodd y Gweinidog i:

 

·       ddarparu gwybodaeth am a ellid cynnwys darpariaethau yn y Bil i ganiatáu awdurdodau lleol a/ neu adrannau perthnasol i rannu data er mwyn eu helpu i ganfod landlordiaid yn y sector rhentu preifat, a helpu i ddod o hyd i achosion o dwyll budd-dal tai;

·       nodi pa gamau pellach y gellid eu cymryd i wella safonau diogelwch o fewn y sector rhentu preifat, yn enwedig diogelwch trydan a nwy, gan dderbyn cyfyngiadau'r Cynulliad o ran cymhwysedd deddfwriaethol mewn perthynas ag iechyd a diogelwch, a sut y mae'n bwriadu bwrw ymlaen â'r gwaith hwn yn y tymor hwy;

·       nodi'r gofynion presennol o ran y cymorth sydd ar gael i garcharorion cyn eu rhyddhau o'r carchar ac ar ôl iddynt gael eu rhyddhau i helpu i fynd i'r afael â'u hanghenion tai, ac i ba raddau y mae'r rhain yn cael eu bodloni;

·       nodi, mewn perthynas â'r uchod, unrhyw feysydd i'w gwella a nodwyd gan y gweithgor ar adsefydlu carcharorion mewn llety a sut y bydd y Bil yn cyfrannu tuag at gyflawni hyn; a

·       darparu manylion am y polisi rhent tai cymdeithasol newydd, sut y mae'n cysylltu â system Cymhorthdal ​​y Cyfrif Budd-dal Tai presennol, a fydd canllawiau ar bennu rhent yn statudol a sut y byddant yn cael eu gorfodi.

 

 

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y canlynol:

(11:00-11:20)

4.

Trafod tystiolaeth gan y Gweinidog Tai ac Adfywio am y Bil Tai (Cymru)

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Tai ac Adfywio am y Bil.  

 

(11:30-12:00)

5.

Gwybodaeth dechnegol: Bil Gwasanaethau Cyhoeddus (Gweithlu) (Cymru) Drafft

Piers Bisson, Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran Diwygio Gwasanaethau Cyhoeddus

Robin Jones, Rheolwr y Bil Gweithlu

 

 http://wales.gov.uk/consultations/improving/supporting-public-service-workforce/?skip=1&lang=cy

 

 

 

Cofnodion:

5.1 Cafodd y Pwyllgor sesiwn briffio technegol ar y Bil drafft. 

 

(12:00-12:15)

6.

Ymchwiliad i lefelau cyfranogiad mewn chwaraeon: trafod yr adroddiad

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft.

 

(12:15-12:25)

7.

Trafod y broses o benodi Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod y broses o benodi Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

 

(12:25-12:30)

8.

Trafod llythyr gan y Gweinidog Tai ac Adfywio ar yr ymchwiliad i rwystrau i adeiladu cartrefi yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod llythyr gan y Gweinidog Tai ac Adfywio ar yr ymchwiliad i rwystrau i adeiladu cartrefi yng Nghymru. 

 

9.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1 Papurau i’w nodi.