Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sarah Beasley 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1       Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.

 

(9:15 - 10:15)

2.

Sesiwn graffu ar Fasnachu mewn Pobl: Steve Chapman, Cydlynydd Atal Masnachu mewn Pobl

Steve Chapman, Cydlynydd Atal Masnachu mewn Pobl

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Steve Chapman, Cydlynydd Atal Masnachu mewn Pobl. 

 

(10:30 - 11:30)

3.

Sesiwn graffu ar Fasnachu mewn Pobl: Cynrychiolwyr o’r Fforwm Rheng Flaen Atal Masnachu mewn Pobl ar gyfer Cyrff Anllywodraethol yng Nghymru

Bernadette Bowen Thomson, Dirprwy Brif Weithredwr, Cymru Ddiogelach

Angelina Rodriques, Dirprwy Brif Weithredwr, BAWSO

Mike Wilkinson, New Pathways

Hannah Wharf, Cyngor Ffoaduriaid Cymru

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o'r Fforwm Rheng Flaen Atal Masnachu mewn Pobl ar gyfer Cyrff Anllywodraethol yng Nghymru.

 

3.2 Cytunodd Hannah Wharf i ddarparu gwybodaeth am y rheswm bod Cyngor Ffoaduriaid Cymru yn teimlo y dylai rôl y Cydlynydd Atal Masnachu mewn Pobl fod yn annibynnol ar y Comisiynydd. 

 

3.3 Yn ogystal, cytunodd Hannah i ddarparu gwybodaeth am rôl a phwerau'r cydlynwyr yn y Ffindir ac yn Norwy.

 

 

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(11:30-11:40)

5.

Trafod llythyr drafft: Ymchwiliad i’r rhwystrau i adeiladu cartrefi yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Ystyriodd y Pwyllgor y llythyr drafft ynghylch yr ymchwiliad i’r rhwystrau i adeiladu cartrefi yng Nghymru.  

 

(11:40-12:10)

6.

Trafod yr adroddiad drafft: Y cynnydd o ran cydweithio ar lefel llywodraeth leol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad drafft ar y cynnydd o ran cydweithio ar lefel llywodraeth leol.

 

(12:10-12:20)

7.

Trafod y papur cwmpasu: Ymchwiliad i Dlodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Ystyriodd y Pwyllgor y papur cwmpasu ar gyfer yr ymchwiliad i dlodi.

 

(12:20-12:30)

8.

Trafod y papur cwmpasu: Ymchwiliad i Lyfrgelloedd Cyhoeddus yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Ystyriodd y Pwyllgor y papur cwmpasu ar gyfer yr ymchwiliad i lyfrgelloedd cyhoeddus yng Nghymru.

 

9.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1. Papurau i’w nodi.