Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd
Cyswllt: Polisi: Marc Wyn Jones / Deddfwriaeth: Helen Finlayson
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Rhodri Glyn Thomas a Ken Skates. 1.2 Gan mai Peter Black oedd yr Aelod a oedd yn gyfrifol am y Bil Safleoedd Rheoleiddiedig Cartrefi Symudol (Cymru), roedd Kirsty Williams yn dirprwyo ar ei ran yn ystod yr eitemau lle y trafodwyd y Bil hwnnw. |
||
(9:00 - 10:30) |
Bil Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru): sesiwn dystiolaeth 1 (Cyfnod 1) · Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, Carl Sargeant AC Bil Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Carl Sargeant AC, y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau. 2.2 Cytunodd y Gweinidog i roi gwybodaeth bellach am y Bil i’r Pwyllgor. |
|
(10:35 - 11:15) |
Bil Safleoedd Rheoleiddiedig Cartrefi Symudol (Cymru): sesiwn dystiolaeth 9 Peter Black AC, yr Aelod
sy’n Gyfrifol Jonathan Baxter, Uwch-arbenigwr Ymchwil, Comisiwn y Cynulliad Cofnodion: 3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Peter Black AC, yr Aelod sy’n Gyfrifol am y Bil Safleoedd Rheoleiddiedig Cartrefi Symudol (Cymru). 3.2 Cam i’w gymryd: Cytunodd Peter Black AC i anfon safbwynt cyfreithiol pendant erbyn 16 Ionawr o ran a fydd y Bil, fel y’i drafftiwyd ar hyn o bryd, yn codi materion o dan Erthygl 1 Protocol Cyntaf y Confensiwn ar Hawliau Dynol. |
|
(11:15) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn Eitemau 5 & 6 Cofnodion: 4.1 Cytunwyd ar y cynnig. |
|
(11:15 - 12:00) |
Bil Safleoedd Rheoleiddiedig Cartrefi Symudol (Cymru): ystyried y prif faterion Cofnodion: 5.1 Trafododd y Pwyllgor y prif faterion a phwysleisiodd y meysydd yr hoffai wneud argymhellion mewn perthynas â hwy. |
|
(12:00 - 12:15) |
Papur yn amlinellu'r dewisiadau o ran craffu ar y Papur Gwyn ar ddeddfwriaeth i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (Cymru) Cofnodion: 6.1 Cytunodd y Pwyllgor i gael cyflwyniad ffeithiol am y Papur Gwyn ar 6 Chwefror. |
|
Papurau i'w nodi Dogfennau ategol: |
||
Trawsgrifiad |