Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd
Cyswllt: Polisi: Marc Wyn Jones / Deddfwriaeth: Helen Finlayson
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Cafwyd
ymddiheuriadau gan Peter Black. Roedd Kirsty Williams yn dirprwyo. |
||
(09.15 - 10.00) |
Bil Safleoedd Rheoleiddiedig Cartrefi Symudol (Cymru): Sesiwn Dystiolaeth 6 Mike Burtonwood, Prif Swyddog Iechyd yr
Amgylchedd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr Louise Davies, Rheolwr Diogelu'r Amgylchedd,
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf Jeremy Patterson, Prif Weithredwr, Cyngor Sir
Powys Cofnodion: 2.1 Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan banel o Awdurdodau Lleol: Cyngor Bwrdeistref Sirol
Pen-y-bont ar Ogwr a Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. 2.2 Cafwyd
ymddiheuriadau gan Gyngor Sir Powys. Nid oedd y cynrychiolydd yn gallu bod yn
bresennol. |
|
(10.05 - 11.20) |
Bil Safleoedd Rheoleiddiedig Cartrefi Symudol (Cymru): Sesiwn Dystiolaeth 7 Huw Lewis AC, Y
Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth Alyn Williams, Pennaeth
Tîm Tai’r Sector Preifat Helen Kellaway, Cynghorydd
Cyfreithiol Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan Huw Lewis AC, y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth. |
|
Toriad Cafodd Clive
Betts AS ei oedi oherwydd problemau teithio. Cytunodd y Pwyllgor i gymryd egwyl
tan y byddai’n cyrraedd. Yn ystod y cyfnod hwn, achubodd y Pwyllgor ar y cyfle
i drafod y dystiolaeth a gafwyd yn ystod sesiynau tystiolaeth blaenorol. |
||
(11.30 - 12.00) |
Bil Safleoedd Rheoleiddiedig Cartrefi Symudol (Cymru): Sesiwn Dystiolaeth 8 Clive Betts AS,
Cadeirydd y Pwyllgor Dethol Cymunedau a Llywodraeth Leol Adroddiad Tŷ’r Cyffredin ar Gartrefi
mewn Parciau Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.1 Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan Clive Betts AS, Cadeirydd Pwyllgor Cymunedau a
Llywodraeth Leol Tŷ’r
Cyffredin. 4.2 Cytunodd Mr
Betts i anfon gwybodaeth berthnasol ymlaen am unrhyw gyngor y cafodd y Pwyllgor
Dethol ynghylch defnyddio profion ‘person addas a phriodol’ gyda pherchenogion
a/neu reolwyr safleoedd. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol: Gweddill busnes
heddiw. Cofnodion: 5.1 Ni wnaed y
Cynnig. |
||
(12.00 - 12.05) |
Ystyried Tystiolaeth ar Fil Safleoedd Rheoleiddiedig Cartrefi Symudol (Cymru) Cofnodion: 6.1 Ystyriodd y
Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd yn ystod yr egwyl breifat. |
|
(12.15 - 12.10) |
Blaenraglen Waith y Pwyllgor - cytuno ar gylch gorchwyl ar gyfer yr ymchwiliad nesaf Cofnodion: 7.1 Cytunodd y
Pwyllgor i gynnal ei ymchwiliad nesaf i Addasiadau yn y Cartref. Bydd
ymgynghoriad yn cael ei lansio’n fuan. |
|
Papurau i'w nodi Dogfennau ategol: Cofnodion: 8.1 Nodwyd y
papurau. |
||
Papur i'w nodi - Llythyr gan y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth - y diweddaraf ar argymhellion yr adroddiad Dogfennau ategol: |
||
Papur i'w nodi - Tystiolaeth ychwanegol gan Grŵp Cartrefi Cymunedol Cymru yn dilyn y cyfarfod ar 24 Hydref Dogfennau ategol: |
||
Trawsgrifiad |