Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd
Cyswllt: Polisi: Marc Wyn Jones / Legislation: Helen Finlayson
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Peter Black. Dirprwyodd Kirsty Williams ar ei ran. |
||
(09.30 - 10.45) |
Bil Safleoedd Rheoleiddiedig Cartrefi Symudol (Cymru): Cyfnod 1 - Sesiwn dystiolaeth 1 Peter Black AC,
Aelod sy’n Gyfrifol Cofnodion: 2.1 Croesawodd y Cadeirydd Peter Black AC yn ei rôl fel yr Aelod sy’n gyfrifol am y Bil Safleoedd Rheoleiddiedig Cartrefi Symudol (Cymru). 2.2 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan yr Aelod sy’n Gyfrifol am y Bil. 2.3 Cytunodd yr Aelod sy’n Gyfrifol am y Bil i ddarparu nodyn i’r Pwyllgor ar y darpariaethau ar filiau cyfleustodau yn Neddf Cartrefi Symudol 1983 a sut y bydd y Bil Safleoedd Rheoleiddiedig Cartrefi Symudol (Cymru) yn effeithio ar y darpariaethau hynny. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol: Ar gyfer eitem 4 Cofnodion: 3.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig. |
||
(10.45 - 11.00) |
Ystyried y Dystiolaeth ar y Bil Safleoedd Rheoleiddiedig Cartrefi Symudol (Cymru) Cofnodion: 4.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd yn gynharach mewn perthynas â’r Bil Safleoedd Rheoleiddiedig Cartrefi Symudol (Cymru). |
|
Papurau i'w nodi Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.1 Nodwyd y papurau. |
||
CELG(4)-26-12 Papur 1 - Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ynghylch y Bil Safloedd Rheoleiddiedig Cartrefi Symudol (Cymru) Dogfennau ategol: |
||
Trawsgrifiad |