Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd

Cyswllt: Alun Davidson  029 2089 8639

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Joyce Watson.  Nid oedd neb yn dirprwyo.

 

 

(09.30 - 10.15)

2.

Ymchwiliad i bolisi ynni a chynllunio yng Nghymru: Ymchwiliad ar ôl adroddiad – tystiolaeth gan Community Energy Scotland

Jennifer Ramsay, Swyddog Datblygu

 

Cofnodion:

2.1 Bu Jennifer Ramsay yn ateb cwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor.

 

Cam i'w gymryd

 

·         Cytunodd Jennifer Ramsay i roi manylion i’r Pwyllgor am faint o'r targed o gynhyrchu 500MW drwy brosiectau ynni adnewyddadwy cymunedol a oedd wedi ei gyrraedd hyd yn hyn.

 

(10.30 - 11.30)

3.

Ymchwiliad i bolisi ynni a chynllunio yng Nghymru: Ymchwiliad ar ôl adroddiad – tystiolaeth gan Cyfoeth Naturiol Cymru

Ceri Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol Gwybodaeth, Strategaeth a Chynllunio

Natalie Hall, Rheolwr Strategaeth

Dr Sarah Wood, Cyngor ynni ac isadeiledd mawr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Bu’r tystion yn ateb cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

 

Camau i’w cymryd

 

Cytunodd y tystion i ddarparu:

 

  • Y dadansoddiad gwyddonol sy'n sail i unrhyw ganlyniadau a gafwyd o ganlyniad i'r ymgynghoriad ar safonau llif afon ac echdynnu dŵr ar gyfer ynni dŵr;
  • Canlyniad yr Asesiad Risg Amgylcheddol o nwy siâl a gynhaliwyd gan Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru; a
  • Dadansoddiad fesul sector o'r galwadau a gafwyd i'r ganolfan gwasanaeth i gwsmeriaid sydd newydd ei chreu.

 

 

4.

Papurau i'w nodi

Cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 25 Ebrill, 1 Mai a 9 Mai

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Nododd y Pwyllgor y cofnodion.

 

4a

Ymchwiliad i rywogaethau goresgynnol estron - Papur gan Cyswllt Amgylchedd Cymru

E&S(4)-16-14 papur 1

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.2 Nododd y Pwyllgor y papur.