Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd

Cyswllt: Marc Wyn Jones 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 536KB) Gweld fel HTML (493KB)

1.

Cynnig i ethol Cadeirydd dros dro

Cofnodion:

Etholwyd David Rees yn Gadeirydd dros dro, yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.

 

 

(09.30)

2.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Estynnodd y Cadeirydd groeso i aelodau’r Pwyllgor. Cafwyd ymddiheuriadau gan Ann Jones a John Griffiths, ac nid oedd unrhyw ddirprwyon.

Datganodd Simon Thomas fuddiant perthnasol gan fod ei blentyn yn ddisgybl yn ardal ERW. Datganodd Aled Roberts fuddiant perthnasol gan fod ei blentyn yn ddisgybl yn ardal GwE. Datganodd Keith Davies fuddiant perthnasol gan ei fod ar fwrdd llywodraethwyr un o’r ysgolion yn ardal ERW. Datganodd David Rees fuddiant perthnasol gan fod ei wyrion yn ddisgyblion yn ardal ERW. 

 

 

(09.30 - 10.30)

3.

Trafodaeth â Chonsortia Addysg Rhanbarthol – Ein Rhanbarth ar Waith (ERW)

ERW

CYPE(4)-22-15 – Papur 1

 

Betsan O'Connor, Rheolwr Gyfarwyddwr - ERW
Eifion Evans, Cyfarwyddwr Strategol: Dysgu a Phartneriaethau / Cyfarwyddwr Arweiniol Rhanbarthol - ERW

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor gasgliadau adroddiadau Estyn a Swyddfa Archwilio Cymru gyda chynrychiolwyr y Consortia Addysg Rhanbarthol.

Cytunodd ERW i ddarparu rhagor o wybodaeth am y materion ariannol a godwyd gan aelodau’r Pwyllgor.

 

(10.30 - 11.30)

4.

Trafodaeth â Chonsortia Addysg Rhanbarthol - Gwasanaeth Effeithiolrwydd a Gwella Ysgolion Rhanbarthol  (GwE)

GwE

CYPE(4)-22-15 – Papur 2

 

 Huw Foster Evans, Rheolwr Gyfarwyddwr - GwE
 Ian Budd,
 Cyfarwyddwr Arweiniol Gogledd Cymru - GwE

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd GwE i baratoi nodyn am gost rhaglenni dileu swyddi.

 

5.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

Nodwyd y papurau.

 

5.1

Llythyr gan NSPCC Cymru

CYPE(4)-22-15 – Papur i'w nodi 3

 

Dogfennau ategol:

5.2

Prifysgolion Cymru Nodyn briffio ar y gyllideb 2016-17 Llywodraeth Cymru

CYPE(3)-22-14 – Papur i’w nodi 4

Dogfennau ategol:

(11.30)

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

 

(11.30 - 12.00)

7.

Trafod blaenraglen waith y Pwyllgor

CYPE(4)-22-15 – Papur preifat 5

 

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar y flaenraglen waith. Cytunwyd y byddai’r rhaglen waith yn cael ei hystyried eto mewn cyfarfod yn y dyfodol.