Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Marc Wyn Jones
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.30 - 10.00) |
Ymchwiliad i waith Athrawon Cyflenwi - Trafod y materion allweddol CYPE(4)-19-15 – Papur preifat 1 Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y canllawiau drafft ar reoli presenoldeb y gweithlu ysgol yn effeithiol. Cytunodd
y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog i amlinellu ei bryderon ynghylch y
canllawiau drafft. |
|
(10.00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Croesawodd
y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Angela Burns,
John Griffiths a Bethan Jenkins; nid oedd dirprwyon yno ar eu rhan. |
|
(10.00 - 11.00) |
Ymchwiliad i Gynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg Sesiwn dystiolaeth 1 Rhieni Dros Addysg Gymraeg CYPE(4)-19-15 – Papur 2 Elin Maher, Aelod o Bwyllgor Cenedlaethol Rhieni dros Addysg Gymraeg (RhAG)
a chynrychiolydd lleol Casnewydd Ceri Owen, Cyfarwyddwr Datblygu - Rhieni dros
Addysg Gymraeg (RhAG) Dogfennau ategol:
Cofnodion: Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan RhAG. Yn
ystod y sesiwn dystiolaeth, cafodd y cyfarfod ei ohirio am tua deng munud
oherwydd problemau technegol. |
|
(11.00 - 12.00) |
Ymchwiliad i Gynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru a Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru CYPE(4)-19-20 – Papur 3 Gareth Morgans, Prif Swyddog Addysg - Sir Gaerfyrddin Catrin Griffiths, Cynghorydd Her sydd â chyfrifoldeb am
Gymru Dogfennau ategol: Cofnodion: Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a
Chymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru. |
|
(12.00) |
Papurau i'w nodi Cofnodion: Nodwyd y
papurau. |
|
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus CYPE(4)-19-15 – Papur i'w nodi 4 Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi yn dilyn y cyfarfod ar 4 Mehefin CYPE(4)-19-15 – Papur i'w nodi 5 Dogfennau ategol: |
||
Ymchwiliad i waith Athrawon Cyflenwi - Llythyr gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau yn dilyn y cyfarfod ar 20 Mai CYPE(4)-19-15 – Papur i'w nodi 6 Dogfennau ategol: |
||
(12.00) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod: Cofnodion: Derbyniwyd y cynnig. |
|
(12.00 - 12.10) |
Ymchwiliad i Gynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg - trafod y dystiolaeth ysgrifenedig CYPE(4)-19-15 – Papur preifat 7 Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y papur a chytunodd yr aelodau ar bwy yr oeddent am
glywed tystiolaeth ganddynt yn y cyfarfod ar 16 Gorffennaf. |
|
Ymchwiliad i Gynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg: Pecyn ymgynghori Dogfennau ategol:
|