Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg
Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg
Cynhaliodd Pwyllgor
Plant, Pobl Ifanc ac Addysg Cynulliad Cenedlaethol Cymru ymchwiliad i
Gynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg. Cyhoeddwyd yr adroddiad
(PDF, 1MB) ar ymchwiliad y Pwyllgor ar 9 Rhagfyr 2015. Cyhoeddwyd ymateb
(PDF, 290KB) Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar 17 Chwefror 2016.
Nod Deddf
Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 oedd adeiladu ar y Cynlluniau
Strategol Cymraeg mewn Addysg anstatudol blaenorol drwy roi sylfaen statudol
i’r cynlluniau hyn. Rhoddodd y Ddeddf ddyletswydd ar awdurdodau lleol i
ymgynghori ar Gynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg, llunio cynllun o’r fath
a’i gyhoeddi er mwyn i Weinidogion Cymru ei gymeradwyo a’i fonitro. Mae’r
Ddeddf yn darparu bod Gweinidogion Cymru yn gwneud rheoliadau ynghylch
Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg, gan gynnwys darpariaethau mewn
perthynas ag ymgynghori.
Ystyriodd y Pwyllgor y meysydd canlynol fel rhan o’i ymchwiliad:
- A yw Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn
cyfrannu at y deilliannau a’r targedau a nodir yng Nghynllun Strategol y
Gymraeg mewn Addysg Llywodraeth Cymru;
- A yw Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn
sicrhau’r newidiadau angenrheidiol mewn awdurdodau lleol, neu a allant
wneud hynny (er enghraifft, sicrhau eu bod yn darparu ar gyfer unrhyw
gynnydd yn y galw am addysg Gymraeg);
- Trefniadau ar gyfer pennu targedau; monitro; adolygu;
cyflwyno adroddiadau; cymeradwyo a chydymffurfio â gofynion Cynlluniau
Strategol Cymraeg mewn Addysg (a rôl awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru
yn y cyswllt hwn);
- A yw Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn
amlygu rhyngweithio effeithiol rhwng strategaeth addysg Gymraeg
Llywodraeth Cymru a deddfwriaeth a pholisïau perthnasol eraill (er
enghraifft polisi cludiant ysgolion; rhaglen Ysgolion yr Unfed Ganrif ar
Hugain; y datganiad polisi - Iaith fyw: iaith byw; Dechrau’n Deg; polisi
cynllunio);
- A yw canlyniadau’r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn
Addysg yn sicrhau canlyniadau teg i bob disgybl (er enghraifft disgyblion
cynradd / uwchradd; plant o gartrefi incwm isel).
Tystiolaeth
gan y cyhoedd
Mae’r Pwyllgor
wedi cyhoeddi ymatebion yr
ymgynghoriad yma.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 08/05/2015
Dogfennau
- Adroddiad gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg – Y Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSCAu)
- Crynodeb Gweithredol PDF 536 KB
Ymgynghoriadau
- Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (Wedi ei gyflawni)