Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Marc Wyn Jones 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

(09.00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod. Ni chafwyd ymddiheuriadau.

(09.00 - 10.00)

2.

Bil Addysg (Cymru): Cyfnod 1 - Sesiwn dystiolaeth - y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Huw Lewis AC, y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn clywed tystiolaeth am y Bil gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau. Cytunodd y Gweinidog i ddarparu’r wybodaeth a ganlyn:

 

Rhestr lawn o ymatebwyr i’r ymgynghoriad ar y Bil Addysg (Cymru);

 

Esboniad o’r hyn sy’n ofynnol o dan y broses adran 160 o’i gymharu â’r cais o dan adran 347;

 

Eglurhad pellach o’r broses o symud plant sydd ag anghenion addysgol arbennig.

(10.15 - 11.15)

4.

Bil Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru) - Cyfnod 2: Trafod y gwelliannau

 

Papurau:     Rhestr o welliannau wedi'u didoli

                   Grwpio Gwelliannau

 

Yn unol â Rheol Sefydlog 26.21, bydd y Pwyllgor yn gwaredu'r gwelliannau i Fil Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru) yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y Bil.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd y byddai’r Pwyllgor yn trafod y gwelliannau yn y drefn a ganlyn:

Adrannau 1 – 11

Atodlenni 1 a 2

 

Gwaredodd y Pwyllgor ar y gwelliannau a ganlyn:

 

Adrannau 1, 2 a 3: Ni chafodd gwelliannau eu cyflwyno i’r adrannau hyn, felly barnwyd bod yr adrannau wedi’u derbyn.

 

Adran: 4:

Derbyniwyd gwelliant 4 yn unol â Rheol Sefydlog 17.34 (i).

 

Adrannau 5 a 6: Ni chafodd gwelliannau eu cyflwyno i’r adrannau hyn, felly barnwyd bod yr adrannau wedi’u derbyn.

 

Adran 7:

Gwelliant 1 - Simon Thomas 

O blaid

Yn erbyn

Ymatal

Simon Thomas

Bethan Jenkins 

Aled Roberts

Angela Burns

Suzy Davies

Ann Jones

Keith Davies

Rebecca Evans

Lynne Neagle

David Rees

 

5

5

0

Gan fod y bleidlais yn gyfartal, defnyddiodd y Cadeirydd ei phleidlais fwrw yn negyddol, yn unol â Rheolau Sefydlog 17.37 a 6.20(ii).

Gwrthodwyd gwelliant 7.

 

Adrannau 8 a 9: Ni chafodd gwelliannau eu cyflwyno i’r adrannau hyn, felly barnwyd bod yr adrannau wedi’u derbyn.

 

Cafodd gwelliant 9 ei dynnu yn ôl yn unol â Rheol Sefydlog 26.66

 

Adran newydd

Gwelliant 10 - Aled Roberts 

O blaid

Yn erbyn

Ymatal

Suzy Davies

Angela Burns

Aled Roberts

Bethan Jenkins

Simon Thomas

Ann Jones

Keith Davies

Rebecca Evans

Lynne Neagle

David Rees

 

5

5

0

Gan fod y bleidlais yn gyfartal, defnyddiodd y Cadeirydd ei phleidlais fwrw yn negyddol, yn unol â Rheolau Sefydlog 17.37 a 6.20(ii).

Gwrthodwyd gwelliant 10.

 

Ni chafodd gwelliant 13 ei gynnig, yn unol â Rheol Sefydlog 26.65

 

Ni chafodd gwelliant 14 ei gynnig, yn unol â Rheol Sefydlog 26.65

 

Adran newydd

Gwelliant 15 – Bethan Jenkins 

O blaid

Yn erbyn

Ymatal

Bethan Jenkins 

Simon Thomas

Ann Jones

Keith Davies

Rebecca Evans

Lynne Neagle

David Rees

Suzy Davies

Angela Burns

Aled Roberts

 

2

8

0

Gwrthodwyd gwelliant 15.

 

Adran 10:

Gwelliant 10 – Aled Roberts  

O blaid

Yn erbyn

Ymatal

Simon Thomas

Bethan Jenkins 

Aled Roberts

Angela Burns

Suzy Davies

Ann Jones

Keith Davies

Rebecca Evans

Lynne Neagle

David Rees

 

5

5

0

Gan fod y bleidlais yn gyfartal, defnyddiodd y Cadeirydd ei phleidlais fwrw yn negyddol, yn unol â Rheolau Sefydlog 17.37 a 6.20(ii).

Gwrthodwyd gwelliant 11.

 

Adrannau 11 a 12: Ni chafodd gwelliannau eu cyflwyno i’r adrannau hyn, felly barnwyd bod yr adrannau wedi’u derbyn.

 

Atodlen 1:

Gwelliant 2 – Simon Thomas

O blaid

Yn erbyn

Ymatal

Simon Thomas

Bethan Jenkins 

Aled Roberts

Angela Burns

Suzy Davies

Ann Jones

Keith Davies

Rebecca Evans

Lynne Neagle

David Rees

 

5

5

 

Gan fod y bleidlais yn gyfartal, defnyddiodd y Cadeirydd ei phleidlais fwrw yn negyddol, yn unol â Rheolau Sefydlog 17.37 a 6.20(ii).

Gwrthodwyd gwelliant 8.

 

Gwelliant 8 – Angela Burns

O blaid

Yn erbyn

Ymatal

Simon Thomas

Bethan Jenkins 

Aled Roberts

Angela Burns

Suzy Davies

Ann Jones

Keith Davies

Rebecca Evans

Lynne Neagle

David Rees

 

5

5

0

Gan fod y bleidlais yn gyfartal, defnyddiodd y Cadeirydd ei phleidlais fwrw yn negyddol, yn unol â Rheolau Sefydlog 17.37 a 6.20(ii).

Gwrthodwyd gwelliant 8.

 

Derbyniwyd gwelliant 5 yn unol â Rheol Sefydlog  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

(11.15 - 11.45)

6.

Bil Addysg (Cymru): Cyfnod 1 - trafod y materion allweddol

 

CYP(4)-27-13 – Papur Preifat 1

Cofnodion:

Oherwydd diffyg amser, nid oedd y Pwyllgor yn gallu trafod y materion allweddol.  Cytunodd y Pwyllgor y byddai’r materion hyn yn cael eu hystyried yn y cyfarfod ar 6 Tachwedd.

(11.45 - 12.00)

7.

Cynigion cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2014-15 – ystyried y llythyrau drafft

 

CYP(4)-27-13 – Papur Preifat 2

CYP(4)-27-13 – Papur Preifat 3

CYP(4)-27-13 – Papur Preifat 4

Cofnodion:

Oherwydd diffyg amser, nid oedd y Pwyllgor yn gallu trafod y llythyrau drafft. Cytunodd y Pwyllgor y byddai’r llythyrau drafft hyn yn cael eu hanfon at yr Aelodau y tu allan i gyfarfod y Pwyllgor er mwyn iddynt allu gwneud sylwadau arnynt.