Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Williams  Deputy Clerk: Ruth Hatton

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau na dirprwyon.

 

2.

Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 na 21.3

 

CLA(4)-29-14 – Papur 1 – Offerynnau statudol sydd ag adroddiadau clir

 

Dogfennau ategol:

2.1

CLA465 - Gorchymyn Etholiadau Awdurdodau Lleol (Cymru) 2014

Y weithdrefn negyddol; Fe'i gwnaed ar: 12 Tachwedd 2014;  Fe'i gosodwyd ar: 14 Tachwedd 2014; Yn dod i rym ar: 9 Rhagfyr 2014

 

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr offeryn statudol ac roedd yn fodlon ag ef.

 

3.

Papur i’w nodi

CLA(4)-29-14 – Papur 2 – Llythyr gan y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus

 

CLA(4)-29-14 – Papur 3 – Llythyr oddi wrth y Cwnsler Cyffredinol

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y papurau. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus ynghylch Rheoliadau’r Dreth Gyngor.

 

 

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:

(vi) lle mae’r pwyllgor yn cyd-drafod cynnwys, casgliadau neu argymhellion adroddiad y mae’n bwriadu ei gyhoeddi; neu’n ymbaratoi i gael tystiolaeth gan unrhyw berson;

 

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i gynnal yr eitem nesaf o fusnes yn breifat.

4.1

Gorchymyn Adran 109: Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Diwygio) 2015

CLA(4)-29-14 – Papur 4  – Gorchymyn Adran 109

 

5.

Tystiolaeth mewn perthynas â'r Ymchwiliad Deddfu

(Amser a ddynodwyd: 14.00)

 

Y Fonesig Rosemary Butler AC, y Llywydd

 

 

CLA(4)-29-14 – Papur 5 – Tystiolaeth ysgrifenedig

CLA(4)-29-14 – Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Llywydd.

 

6.

Tystiolaeth mewn perthynas â'r Ymchwiliad Deddfu

(Amser a ddynodwyd: 14.45)

 

Mick Antoniw AC;

Peter Black AC;

Bethan Jenkins AC;

Darren Millar AC

 

 

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan banel o Aelodau'r Cynulliad a oedd wedi mynd â’u Biliau eu hunain drwy'r broses ddeddfwriaethol, neu eu bod yn y broses o wneud hynny.