Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd

Cyswllt: Gareth Williams  Deputy Clerk: Ruth Hatton

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datganiadau o fuddiant

Cofnodion:

 

Cafwyd ymddiheuriadau gan David Melding AC.  Yn unol â Rheol Sefydlog 17.22, enwebodd Eluned Parrott AC Simon Thomas AC i fod yn Gadeirydd dros dro.

 

Cafwyd ymddiheuriadau gan Julie James AC hefyd.  Dirprwyodd Mick Antoniw AC ar ei rhan.

 

 

 

2.

Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 na 21.3

CLA(4)-24-13(p1) - Gwybodaeth gefndir am Offerynnau Statudol ag adroddiadau clir

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

 

Nododd y Pwyllgor yr offerynnau ac roedd yn fodlon arnynt.

 

2.1

CLA316 Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) 2013

 

 

 

Y weithdrefn negyddol; Fe'u gwnaed ar: 1 Hydref 2013; Fe'u gosodwyd ar: 2 Hydref 2013; Yn dod i rym ar: 25 Hydref 2013

 

 

2.2

CLA317 Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) (Diwygio) 2013

 

 

Y weithdrefn negyddol; Fe'u gwnaed ar: 1 Hydref 2013; Fe'u gosodwyd ar: 4 Hydref 2013; Yn dod i rym ar: 1 Ionawr 2014.

 

 

 

 

 

 

 

3.

Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

3.1

CLA319 Rheoliadau Ychwanegion, Cyflasynnau, Ensymau a Thoddyddion Echdynnu Bwyd (Cymru)

Y weithdrefn negyddol; Fe'u gwnaed ar: 7 Hydref 2013; Fe'u gosodwyd ar: 9 Hydref 2013; Yn dod i rym ar: 31 Hydref 2013

 

CLA(4)-24-13(p2) - Rheoliadau

CLA(4)-24-13(p3) - Memorandwm Esboniadol

CLA(4)-24-13(p4) – Adroddiad Cyfreithiol

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

 

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chyflwynwyd adroddiad i’r Cynulliad.

 

4.

Trafodaeth ynghylch y Cod Apelau Derbyn i Ysgolion

CLA(4)-24-13(p5) – Adroddiad ar y Cod Apelau Derbyn i Ysgolion

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

 

Trafododd y Pwyllgor y Cod ac roedd yn fodlon y’i gwnaed yn unol â’r pwerau a’r gweithdrefnau cywir.

 

5.

Tystiolaeth mewn perthynas â’r Bil Rheoli Ceffylau (Cymru)

Alun Davies AC, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd;

Julia Hill - Gwasanaethau Cyfreithiol, y Tîm Amaethyddiaeth a Materion Gwledig, Llywodraeth Cymru;

Fiona Leadbitter – Swyddog Polisi, y Tîm Polisi Ceffylau, Llywodraeth Cymru

 

 

http://www.senedd.cynulliadcymru.org/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=7815

 

Cofnodion:

 

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Alun Davies AC, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd.   Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog cyn y Ddadl yng Nghyfnod 1.

 

6.

Papurau i’w nodi

CLA(4)-24-13(p6) – Llythyr gan Gwenda Thomas AC, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

 

CLA(4)-24-13(p6A) – Atodiad i gyd-fynd â'r llythyr gan Gwenda Thomas AC, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

 

Nododd y Pwyllgor y papurau.

 

7.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y canlynol:

(vi) lle mae’r pwyllgor yn cyd-drafod cynnwys, casgliadau neu argymhellion adroddiad y mae’n bwriadu ei gyhoeddi; neu’n ymbaratoi i gael tystiolaeth gan unrhyw berson.

 

Cofnodion:

 

Cytunodd y Pwyllgor i gynnal gweddill y cyfarfod yn breifat.