Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Theatr y Stiwt, Wrecsam
Cyswllt: Abigail Phillips Deputy Clerk: Sarita Marshall
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
10.00 |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. |
|
10.00 - 10.30 |
P-04-361 Pas bws am ddim i fyfyrwyr o dan 25 oed sydd mewn addysg llawn amser Dogfennau ategol: |
|
10.00 - 10.20 |
P-04-361 Pas bws am ddim i fyfyrwyr o dan 25 oed sydd mewn addysg llawn amser – Sesiwn dystiolaeth lafar Poppy Thomas Kayleigh Stone Jenny Taylor Richard Williams Darren Milllar AC Cofnodion: Atebodd y myfyrwyr gwestiynau gan y Pwyllgor. Cytunodd y myfyrwyr i rannu eu cynigion ar gyfer ariannu’r pasys bws am ddim, yn ogystal â’r arolwg a wnaethpwyd ar y cynnig. |
|
10.20 - 10.30 |
P-04-361 Pas bws am ddim i fyfyrwyr o dan 25 oed sydd mewn addysg llawn amser – Ystyried y dystiolaeth Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i: Ystyried y ddeiseb unwaith et oar ôl i’r wybodaeth y gwnaethpwyd cais amdani ddod i law; Ysgrifennu at Leighton Andrews gyda’r wybodaeth honno. |
|
10.30 - 11.10 |
P-04-381 Adfer Ysbyty Gogledd Cymru Dogfennau ategol:
|
|
10.30 - 11.00 |
P-04-381 Adfer Ysbyty Gogledd Cymru - Sesiwn dystiolaeth lafar Myrddin Davies, Theatr Stiwt Liz Doylan, Colwyn Bay Café ??, Save Britain’s Heritage Cofnodion: Atebodd y tystion gwestiynau gan y Pwyllgor. |
|
11.00 - 11.10 |
P-04-381 Adfer Ysbyty Gogledd Cymru - Ystyried y dystiolaeth lafar |
|
11.10 - 11.25 |
Deisebau newydd |
|
P-04-402 Gweddïau Cyngor Dogfennau ategol: Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf, a chytunodd i: Gael cyngor cyfreithiol am y mater a’i ystyried unwaith eto yn y cyfarfod nesaf; Ysgrifennu at y Gweinidog am y mater gan amgâu’r wybodaeth a ddaeth i law. |
||
P-04-403 Achub Plas Cwrt yn Dre/ Hen Senedd-Dy Dolgellau Dogfennau ategol: Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf, a chytunodd i: Ysgrifennu at y Gweinidog am bwnc y ddeiseb; Cyfeirio’r deisebydd at y Bil Treftadaeth y bydd y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth yn ei gyflwyno a’u hannog i gyfrannu at y broses honno. |
||
P-04-404 Awyrennau Di-Beilot Aberporth Dogfennau ategol: Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf, a chytunodd i ysgrifennu at y Prif Weinidog am y mater. |
||
P-04-405 Llawysgrif ganoloesol o Gyfreithiau Hywel Dda Dogfennau ategol: Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf. Nododd Bethan Jenkins ei bod wedi cefnogi pwnc y ddeiseb yn gyhoeddus. Cytunodd y Pwyllgor i gymryd camau dilynol i lythyr y Cadeirydd at y Gweinidog am y pwnc.
|
||
P-04-406 Yn erbyn Safle yng Ngogledd Cymru yn y Cynllun Parthau Cadwraeth Morol Dogfennau ategol: Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf, a chytunodd i: Ysgrifennu at y Gweinidog am bwnc y ddeiseb; Annog y deisebwyr i gyfrannu at yr ymgynghoriad ar y cynigion ar gyfer y parth cadwraeth morol. |
||
11.25 - 12.10 |
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
P-04-335 Sefydlu Tîm Criced Cenedlaethol i Gymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth mewn perthynas â’r ddeiseb hon a chytunodd i: Gyfeirio’r mater at y Grŵp Trawsbleidiol ar Chwaraeon; Trefnu dadl yn y Cyfarfod Llawn am y pwnc ac yna cau’r ddeiseb. |
||
P-03-085 Meddygfeydd yn Sir y Fflint Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth mewn perthynas â’r ddeiseb hon a chytunodd i: Ysgrifennu crynhoad o gamau’r Pwyllgor a’i anfon ymlaen at yr Aelodau Cynulliad etholaethol a rhanbarthol perthnasol, gan nodi cymorth y Pwyllgor a gofyn bod Aelodau yn parhau i gefnogi’r deisebwyr ar lefel leol; Cau’r ddeiseb. |
||
P-03-221 Gwell triniaeth traed drwy'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth mewn perthynas â’r ddeiseb hon a chytunodd i: Trosglwyddo sylwadau’r deisebydd i’r Gweinidog; Yna cau’r ddeiseb. |
||
P-03-222 Y Gymdeithas Osteoporosis Genedlaethol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth mewn perthynas â’r ddeiseb hon a chytunodd i ysgrifennu at y deisebwyr yn gofyn a ydynt yn fodlon ag ymateb y Gweinidog am y pwnc ac, os felly, i gau’r ddeiseb. |
||
P-03-318 Gwasanaethau mamolaeth trawsffiniol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth mewn perthynas â’r ddeiseb hon a chytunodd i ysgrifennu at y deisebwyr i’w hysbysu bod y Pwyllgor o’r farn na all fynd dim pellach gyda’r ddeiseb hon ac, oni bai y gallant awgrymu ffordd arall ymlaen, y bydd y Pwyllgor yn cau’r ddeiseb. |
||
P-04-366 Cau canolfan ddydd Aberystwyth Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth mewn perthynas â’r ddeiseb hon a chytunodd i ysgrifennu at arweinydd Cyngor Sir Ceredigion yn nodi pryderon y Pwyllgor a meysydd y dylid rhoi blaenoriaeth iddynt. Byddai hyn yn cynnwys adolygu’r gwasanaeth newydd gan gorff allanol, ac mae Arweinydd y Cyngor eisioes wedi croesawu’r syniad. |
||
P-04-369 Deiseb yn erbyn y Llwybr Arfordirol o Gaerdydd i Gasnewydd a thu hwnt Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth mewn perthynas â’r ddeiseb hon. Datganodd Joyce Watson fuddiant yn y ddieseb fel aelod o’r RSPB. Cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb o ystyried bod yr RSPB o blaid yr asesiadau a’r camau sy’n cael eu cymryd. |
||
P-04-378 Ymestyn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Gŵyr Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru mewn perthynas â’r ddeiseb hon. Cytunodd y Pwyllgor i: Ysgrifennu at y Gweinidog yn amlinellu ei bryderon am y wybodaeth a gafwyd mewn gohebiaeth; Hysbysu Pwyllgor yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd am unrhyw newidiadau i’r sefyllfa; Gwneud cais am amserlen y Bil Amgylchedd y gallai Cymdeithas Gŵyr fod yn rhan ohoni; Hysbysu Llywydd a Chadeirydd Cymdeithas Gŵyr am unrhyw gamau a gymerir gan y Pwyllgor. |
||
P-04-360 Deiseb Man Gwan Pen-y-lan Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth mewn perthynas â’r ddeiseb hon. Gan fod BT wedi cadarnhau mai dyddiad cyflwyno’r gyfnewidfa newydd yw mis Rhagfyr 2012, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb. |
||
P-04-364 Ffibr optig i ardaloedd gwledig Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth gan y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth mewn perthynas â’r ddeiseb hon. Yn dilyn llythyr y Gweinidog, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb.
|
||
Papur i’w nodi |
||
P-04-341 Gwastraff a Llosgi Dogfennau ategol: Cofnodion: Nodwyd y papur. Diolchodd y Cadeirydd i Theatr y Stiwt am gynnal y cyfarfod, yn ogystal â’r tîm clercio a’r tim ehangach am eu gwaith. |
||
Trawsgrifiad |