Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Abigail Phillips Deputy Clerk: Sarita Marshall
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. Estynnodd y Cadeirydd groeso i Dr Catherine Bochel, a oedd yn gwylio o’r oriel gyhoeddus. |
|
(09.00 - 09.10) |
P-04-329 Rheoli sŵn o dyrbinau gwynt sy’n peri diflastod – trafod ymweliadau â safleoedd a thystiolaeth a ddaeth i law ar 28 Chwefror Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i gynhyrchu adroddiad byr ar reoli sŵn o dyrbinau gwynt, ac i wneud cais i gael trafodaeth am y pwnc yn y Cyfarfod Llawn. |
|
(09.10 - 09.20) |
Deisebau newydd |
|
P-04-384 Cysylltiad â’r M48 o’r B4245 Cil-y-Coed/Rogiet Dogfennau ategol: Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb am y tro cyntaf, a chytunodd i aros am ymateb y Gweinidog. |
||
P-04-385 Deiseb ar ryddhau balŵns a lanternau Dogfennau ategol: Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb am y tro cyntaf, a chytunodd i aros am ymateb y Gweinidog. |
||
P-04-387 Arwyddion a draeniad ar yr A467 Dogfennau ategol: Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb am y tro cyntaf, a chytunodd i aros am ymateb y Gweinidog. |
||
P-04-388 Diogelu’r arfer o addoli ar y cyd fel gofyniad cyfreithiol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb am y tro cyntaf, a chytunodd i aros am ymateb y Gweinidog. |
||
(09.20 - 09.25) |
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
P-04-365 Diogelu adeiladau nodedig ar safle hen Ysbyty Canolbarth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datgannodd y Cadeirydd fuddiant yn y pwnc gan ei fod yn gynghorydd lleol yn Nhalgarth. Cytunodd y Pwyllgor i: Ysgrifennu, unwaith eto, at Cadw i awgrymu iddo weithredu camau dros dro i ddiogelu adeiladau o’r fath nes i’r Bil Treftadaeth gael ei basio; Ysgrifennu at y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth i wneud cais bod camau diogelu dros dro yn cael eu gweithredu nes i’r Bil Treftadaeth gael ei basio; Ysgrifennu at Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i bwysleisio’r ffaith bod y safle mewn ardal gadwraeth ac i ofyn bod unrhyw geisiadau cynllunio a gaiff eu derbyn yn diogelu adeiladau nodedig yn yr ardal gadwraeth. |
||
P-04-369 Deiseb yn erbyn y Llwybr Arfordirol o Gaerdydd i Gasnewydd a thu hwnt Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth a ddaeth i law mewn perthynas â’r ddeiseb. Datgannodd Joyce Watson fuddiant gan ei bod yn aelod o’r RSPB. Cytunodd y Pwyllgor i ddilyn hynt ei ohebiaeth gyda’r RSPB. |
||
(09.25 - 09.50) |
P-03-238 Llygredd ym Mornant Porth Tywyn – sesiwn dystiolaeth lafar Steve Brown, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru Kathryn Monk, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru Tony Harrington, Dŵr Cymru Fergus O’Brien, Dŵr
Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu’r tystion yn ateb cwestiynau gan y Pwyllgor. Cytunodd Dŵr Cymru i rannu manylion â’r Pwyllgor ynghylch dŵr wyneb a’i waith ar ddraenio cynaliadwy dinesig yn yr ardal. Cytunodd y tystion i ymateb yn ysgrifenedig i unrhyw gwestiynau na chafwyd amser i’w gofyn yn y cyfarfod. |
|
(09.50 - 10.20) |
P-04-341 Llosgi gwastraff - sesiwn dystiolaeth lafar Julian Kirby, Arbenigwr mewn Gwastraff, Cyfeillion y Ddaear Haf Elgar, Ymgyrchydd, Cyfeillion y Ddaear Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu’r tystion
yn ateb cwestiynau
gan y Pwyllgor. Cytunodd y tystion i rannu unrhyw ddata a dadansoddiad perthnasol o effaith y dirwasgiad ar lefel y gwastraff. |
|
(10.20 - 11.00) |
P-03-295 Kyle Beere - Gwasanaethau Niwroadsefydlu Paediatrig - Trafodaeth Katherine Simmons, Deisebydd (Kyle’s Goal) Frances Gibbon, Deisebydd (Kyle’s Goal) Julie Smith, Headway Cerilan Rogers, Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru Daniel Phillips, Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru Dr Heather Payne, Uwch Swyddog Meddygol, Iechyd Mamau a Phlant Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu’r tystion
yn ateb cwestiynau
gan y Pwyllgor. Datgannodd Bethan Jenkins fuddiant gan iddi helpu i sefydlu’r gwasanaeth Headway ym Mhort Talbot. |
|
Papurau i'w nodi - tystiolaeth bellach o effaith sŵn o dyrbinau gwynt Dogfennau ategol:
|
||
Trawsgrifiad |