Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Senedd
Cyswllt: Abigail Phillips Dirprwy Glerc: Sarita Marshall
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
09:30 |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Ni chafwyd ymddiheuriadau. |
|
09:30 - 09:40 |
Deisebau newydd |
|
P-04-358 Ailgyflwyno Cymorth Cartref ar gyfer plant sydd ag anhwylderau ar y sbectrwm awtistig a’u teuluoedd ym Mwrdeistref Sirol Caerffili Dogfennau ategol: Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i aros am ymateb y Gweinidog. |
||
P-04-360 Deiseb Man Gwan Pen-y-lan Dogfennau ategol: Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i: Anfon yr ohebiaeth gan BT at y deisebwyr; Aros am ymateb y Gweinidog. |
||
P-04-361 Pas bws am ddim i fyfyrwyr o dan 25 oed sydd mewn addysg llawn amser Dogfennau ategol: Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i: Gomisiynu gwaith ymchwil ar gostau darparu teithio am ddim ar fysiau i fyfyrwyr o dan 25 oed sydd mewn addysg llawn amser, gan ystyried yr astudiaeth beilot a gynhaliwyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr; Clywed tystiolaeth lafar gan y deisebwyr, efallai mewn cynhadledd fideo; Ceisio barn Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr ar bwnc y ddeiseb. |
||
09:40 - 10:10 |
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
P-03-296 Cynigion annheg ar fenthyciadau i fyfyrwyr Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i anfon llythyr y Gweinidog at y deisebwyr er mwyn cael eu sylwadau, gyda golwg ar gau’r ddeiseb os ydynt yn fodlon. |
||
P-04-349 Darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg - Caerffili Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i anfon llythyr a chyhoeddiad y Gweinidog at y deisebwyr ac i geisio’u barn ynghylch sut y mae ei ddatganiad ysgrifenedig yn berthnasol i’w pryderon. |
||
P-03-262 Academi Heddwch Cymru / Wales Peace Institute Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i: Anfon y ddeiseb a’r wybodaeth a gasglwyd hyd yma at y grŵp trawsbleidiol ar hawliau dynol, a gofyn am i’r broses o lunio cysyniad ar gyfer sefydlu corff o’r fath gael ei rhoi ar agendâu’r grŵp yn y dyfodol; Anfon yr ymatebion i’r ymgynghoriad at y deisebwyr fel y gallant lunio cysyniad ar yr un pryd, ac awgrymu eu bod yn lobïo Aelodau unigol i gynnal dadl sy’n cael ei harwain gan Aelod ar y pwnc hwn yn y Cynulliad. |
||
P-04-341 Gwastraff a Llosgi Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i: Wahodd tystion, gan gynnwys y Gweinidog, i roi tystiolaeth lafar ar ynni o wastraff; Hysbysu’r deisebwyr bod y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd yn cynnal ymchwiliad i bolisi ynni, a gofyn a hoffent awgrymu meysydd y gellid holi amdanynt yn yr ymchwiliad. |
||
P-04-344 Carthffos gyhoeddus yn Freshwater East Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y deisebwyr gan dynnu eu sylw at benderfyniad cyngor cymuned Llandyfái a gofyn am eu hymateb iddo, gyda golwg ar gau’r ddeiseb os ydynt yn fodlon. |
||
P-04-345 Cysylltiadau bws a rheilffordd rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin Dogfennau ategol:
Cofnodion: O ystyried ymateb y Gweinidog a chynnwys yr ymatebion i’r ymgynghoriad, cytunodd y Pwyllgor i: Ysgrifennu at y deisebwyr i ofyn am fanylion am unrhyw broblemau a geir gyda’r cysylltiadau ffordd presennol; Cynghori’r deisebwyr ynglŷn â’r Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol.
|
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau a ganlyn: Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor y byddai’r cyfarfod yn parhau’n gyhoeddus. Cytunodd y Pwyllgor wedyn i: Anfon y dystiolaeth a gasglwyd a manylion am bryderon at yr Is-ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth; Ychwanegu ail argymhelliad at yr adroddiad, sef bod y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau yn ailddechrau trafodaethau â Llywodraeth y DU ar fater cau gorsafoedd gwylwyr y glannau, yn enwedig yng ngoleuni’r digwyddiadau yn yr Eidal. Anfon adroddiad y Pwyllgor at y Pwyllgor Materion Cymreig. |
||
10.20-10.30 |
P-04-328 Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau: Cynigion i foderneiddio gwasanaethau gwylwyr y glannau Dogfennau ategol:
Cofnodion: The Committee then agreed to: Forward the evidence gathered and detail of concerns to the
UK Parliamentary Under-Secretary of State for Transport; Add a second recommendation to the report that the Minister
for Local Government and Communities reopen discussions with the UK Government
on the closure issue, especially in light of events in Italy. Forward the Committee’s report to the Welsh Affairs Committee. |
|
10.10-10.20 |
Trafodaeth ynghylch y dystiolaeth a gafwyd gan y Gweinidog - y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Ionawr Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i: Ystyried ymhellach gyda’r Gweinidog y ddeiseb Cŵn Tywys y Deillion – Lle Sy’n Cael Ei Rannu, unwaith y bydd y Gweinidog o’r farn bod gan y Llywodraeth ddigon o dystiolaeth i arddel safbwynt; Anfon manylion am drothwy nifer y damweiniau ffyrdd a fydd yn golygu bod mesurau diogelwch ar y ffyrdd a/neu fesurau i atal damweiniau ar y ffyrdd yn cael eu rhoi ar waith, ynghyd â datganiad y Gweinidog ar fesurau i atal damweiniau ar y ffyrdd, at ddeisebwyr y ddeiseb Diogelwch ar y Ffyrdd yn Llansbyddyd i gael eu sylwadau arnynt, ar ôl i’r pwyllgor gael y wybodaeth honno gan y Gweinidog; Anfon trawsgrifiad o’r cyfarfod at y pedwar grŵp o ddeisebwyr a chyngor cymuned Llansbyddyd i gael eu sylwadau arnynt. Anfon yr astudiaeth o’r sefyllfa cyn ac ar ôl gwneud newidiadau at ddeisebwyr y ddeiseb Atebion Lleol i Dagfeydd Traffig yn y Drenewydd ar ôl i’r pwyllgor ei chael gan y Gweinidog. |
|
Papurau i'w nodi |
||
P-03-205 Cadwch Farchnad Da Byw y Fenni Dogfennau ategol: |
||
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod. |