Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd

Cyswllt: Steve George  Deputy Clerk: Kayleigh Driscoll

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 135KB) Gweld fel HTML (105KB).

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

2.

Deisebau newydd

2.1

P-04-650 Cael Gwared ar Gyflogau Cynghorwyr Llywodraeth Leol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd William Powell y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Mae’n aelod o Gyngor Sir Powys.

 

Datganodd Russell George y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Mae’n aelod o Gyngor Sir Powys.

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i:

 

·         ysgrifennu at y Gweinidog yn gofyn iddo egluro rhai o’r materion a godwyd yng ngeiriad y ddeiseb; ac

·         aros am farn y deisebydd ynghylch llythyr gwreiddiol y Gweinidog.

 

 

 

 

2.2

P-04-652 Android ac iOS, Cymraeg yn yr 21ain Ganrif?

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb am y tro cyntaf, a chytunwyd i aros i glywed barn y deisebydd cyn ymateb i’r Prif Weinidog.

 

3.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

3.1

P-04-408 Gwasanaeth i Atal Anhwylderau Bwyta ymysg Plant a Phobl Ifanc

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Bethan Jenkins y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

Hi yw Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Anhwylderau Bwyta.

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gasglu hanes ystyriaeth y Pwyllgor o’r mater a chyflwyno adroddiad i’r Cynulliad cyn cau’r ddeiseb.

 

 

3.2

P-04-492 Diagnosis o awtistiaeth ymysg plant

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i:

  • aros am gyhoeddi Adroddiad y Grŵp Gorchwyl a Gorffen; ac
  • yn y cyfamser, cytunwyd i ysgrifennu at y Gweinidog yn gofyn iddo roi amserlen ar gyfer yr adolygiad i’r Pwyllgor, ac i ofyn ei farn am alwad yr Athro Trevor Purt am ragor o ganllawiau ar y polisi o ran cyfraniadau cymharol gwasanaethau Iechyd Plant Cymunedol / Pediatreg Cymunedol a Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS).

 

 

3.3

P-04-532 Gwella Gwasanaethau Niwrogyhyrol Arbenigol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Bethan Jenkins y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

Hi yw Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Nychdod Cyhyrol a Chyflyrau Niwrogyhyrol.

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i:

  • holi Byrddau Iechyd sut y gall manteision amser ychwanegol gydag ymgynghorwyr niwrogyhyrol (a nodwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg yn arbennig) gael eu gwireddu ar draws Cymru.
  • ysgrifennu at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn gofyn iddo ystyried y mater fel rhan o’i flaenraglen waith.

 

 

3.4

P-04-640 Gostwng yr Oedran ar gyfer Profion Ceg y Groth i 18

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i:

  • roi rhagor o amser i’r deisebydd roi sylwadau ar y wybodaeth sylweddol a ddarparwyd gan Bwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU; a
  • gofyn ei barn am y llythyr diweddar gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

 

 

3.5

P-04-539 Achub Cyfnewidfa Lo Caerdydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i aros am sylwadau gan y deisebydd cyn ystyried camau pellach.

 

 

3.6

P-04-544 Gwahardd Saethu Gwyddau Talcen-wen yr Ynys Las

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Joyce Watson y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

Mae hi yn ymwneud â nifer o grwpiau sydd o blaid y ddeiseb.

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i:

  • aros am sylwadau gan y deisebwyr; a
  • chau’r ddeiseb os nad oes sylwadau’n dod i law yn y 6 wythnos nesaf.

 

 

3.10

P-04-632 Mynyddoedd Pawb

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i:

  • ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog yn gofyn am ei sylwadau ar sylwadau Comisiynydd y Gymraeg a Chadeirydd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru a oedd, ar y cyfan, yn gefnogol iawn i amcanion y ddeiseb; a
    • gofyn a yw wedi bod yn trafod y mater gydag unrhyw weinidogion eraill.
  • trosglwyddo’r ohebiaeth a gafwyd i’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol er mwyn iddo fod yn ymwybodol ohoni, a’i hystyried wrth drafod y Bil Amgylchedd Hanesyddol (Cymru);
  • gofyn eto am ymateb gan Groeso Cymru a Chynghrair Twristiaeth Cymru; a
  • sicrhau bod y deisebwyr yn ymwybodol y gallant gysylltu ag Aelodau eraill o’r Cynulliad ac Aelodau’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, o gofio bod y Pwyllgor hwnnw’n ystyried y Bil Amgylchedd Hanesyddol (Cymru).

 

 

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:

Item 5.

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

 

5.

Adolygiad o System Ddeisebau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y cynnydd a wnaed o ran adolygu’r system ddeisebau.