Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(60 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Penderfyniad: Gofynnwyd y 15 cwestiwn. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd: Diwygio’r Polisi Amaethyddol Cyffredin |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau: cymorth yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru yn y dyfodol |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Cynnig i gymeradwyo Gorchymyn Hawl Plentyn i Wneud Hawliad Gwahaniaethu ar sail Anabledd (Ysgolion) (Cymru) 2011 NDM4773 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Gorchymyn Hawl Plentyn i Wneud
Hawliad Gwahaniaethu ar sail Anabledd (Ysgolion) (Cymru) 2011 yn cael ei lunio
yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Mehefin
2011. Dogfennau Ategol
Penderfyniad:
Derbyniwyd y cynnig
yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar godi safonau mewn ysgolion NDM4775 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi: a) Sefydlu’r Uned Safonau Ysgolion; b) Creu system fandio (categoreiddio) ar gyfer ysgolion; c) Y cynnydd sydd wedi’i wneud ar
yr 20 pwynt gweithredu ar gyfer
gwella ysgolion a bennwyd gan y Gweinidog
Addysg a Sgiliau yn ei ddatganiad
ar 2 Chwefror 2011. Mae
copi o’r Datganiad i’w weld yn: Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn: Gwelliant 1 - Nick Ramsay (Mynwy) Dileu’r cyfan a rhoi yn ei
le: 1. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i sicrhau bod yr Uned Safonau
Ysgolion yn atebol, yn deg,
yn dryloyw ac yn cael ei
monitro’n rheolaidd. 2. Yn nodi bod system bandio (categoreiddio) ysgolion yn cael ei
chreu. 3. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i gynyddu a chynnal y momentwm o ran symud ymlaen â’r
cynllun 20 pwynt yn y datganiad a wnaethpwyd gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau ar 2 Chwefror
2011, er mwyn sicrhau nad yw
Cymru’n disgyn fwy ar ei
hôl hi ar lefel genedlaethol a rhyngwladol. Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain
De Cymru) Ym mhwynt b) ar ôl ‘system’ rhoi: ‘ond yn annog y Llywodraeth
i osgoi camgymeriadau tablau cynghrair ysgolion yn y gorffennol’. Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru) Cynnwys ar ddiwedd is-bwynt b): ‘, ac yn galw ar y Llywodraeth
i gyhoeddi’r dangosyddion,
y fethodoleg a’r strwythur graddio a ddefnyddir fel rhan o’r system hon.’ Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd
y cynnig: Yn galw ar y Llywodraeth i gyhoeddi fformat ac arddull y profion llythrennedd a rhifedd newydd ac amlinellu faint o amser y mae’n disgwyl
y bydd athrawon yn ei dreulio
yn gweinyddu a marcio’r profion hyn. Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd
y cynnig: Yn credu mai’r ffordd fwyaf
effeithiol y bydd ysgolion Cymru yn codi safonau
ysgolion yw drwy gael mwy
o gyllid i ysgolion, drwy gyflwyno premiwm
disgybl. Penderfyniad: NDM4775 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi: a) Sefydlu’r Uned Safonau Ysgolion; b) Creu system fandio (categoreiddio) ar gyfer ysgolion; c) Y cynnydd sydd wedi’i wneud
ar yr 20 pwynt gweithredu ar gyfer gwella
ysgolion a bennwyd gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau yn ei ddatganiad
ar 2 Chwefror 2011. Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r
gwelliant o dan yr eitem hon
tan y cyfnod pleidleisio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Nick Ramsay (Mynwy) Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le: 1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod yr Uned Safonau Ysgolion yn atebol, yn deg, yn dryloyw ac yn cael ei monitro’n rheolaidd. 2. Yn nodi bod system bandio (categoreiddio) ysgolion yn cael ei chreu. 3. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i gynyddu a chynnal y momentwm o ran symud ymlaen â’r
cynllun 20 pwynt yn y datganiad a wnaethpwyd gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau ar 2 Chwefror
2011, er mwyn sicrhau nad yw
Cymru’n disgyn fwy ar ei
hôl hi ar lefel genedlaethol a rhyngwladol.
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Ym mhwynt b) ar ôl ‘ysgolion’ rhoi: ‘ond yn annog y Llywodraeth
i osgoi camgymeriadau tablau cynghrair ysgolion yn y gorffennol’. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant 2. Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Cynnwys ar ddiwedd is-bwynt b): ‘, ac yn galw ar y Llywodraeth
i gyhoeddi’r dangosyddion,
y fethodoleg a’r strwythur graddio a ddefnyddir fel rhan o’r system hon.’ Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Derbyniwyd gwelliant 3. Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar y Llywodraeth i gyhoeddi fformat ac arddull y profion llythrennedd a rhifedd newydd ac amlinellu faint o amser y mae’n disgwyl
y bydd athrawon yn ei dreulio
yn gweinyddu a marcio’r profion hyn. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
Gwrthodwyd gwelliant 4. Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn credu mai’r ffordd fwyaf
effeithiol y bydd ysgolion Cymru yn codi safonau
ysgolion yw drwy gael mwy
o gyllid i ysgolion, drwy gyflwyno premiwm
disgybl. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
Gwrthodwyd gwelliant 5. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM4775 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi: a) Sefydlu’r Uned Safonau Ysgolion; b) Creu system fandio (categoreiddio) ar gyfer ysgolion ond yn annog y Llywodraeth i osgoi camgymeriadau tablau cynghrair ysgolion yn y gorffennol ac yn galw ar y Llywodraeth i gyhoeddi’r dangosyddion, y fethodoleg a’r strwythur graddio a ddefnyddir fel rhan o’r system hon; c) Y cynnydd sydd wedi’i wneud
ar yr 20 pwynt gweithredu ar gyfer gwella
ysgolion a bennwyd gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau yn ei ddatganiad
ar 2 Chwefror 2011.
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar ariannu tecach i Gymru NDM4776 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi’r consensws cyffredinol sy’n
bodoli yng nghymdeithas sifig Cymru nad yw’r setliad ariannol datganoledig ar
gyfer Cymru yn addas i’r diben bellach, a’i fod er mwyn cefnogi’r consensws
hwnnw: a) Yn cymeradwyo nod Llywodraeth Cymru o
sicrhau un pecyn cydlynol o ddiwygiadau i setliad ariannol Cymru ac yn cytuno
bod yn rhaid i setliad o’r fath gynnwys: i) cyfundrefn ariannu decach, sy’n
ymgorffori llawr Holtham, a diwygio fformiwla Barnett yn ehangach; ii) datganoli pwerau benthyg i ariannu
buddsoddiadau cyfalaf a’r hawliau i godi arian cyfalaf; b) Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth y
Deyrnas Unedig i fwrw ymlaen â diwygio ariannol i Gymru; c) Yn annog y dylid dechrau’n fuan ar
drafodaethau pendant rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig ac
yn cefnogi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fod yn gadarnhaol ym mhob agwedd ar y
trafodaethau hynny, gan gynnwys ystyried yr achos o blaid cryfhau atebolrwydd
ariannol, yn unol ag argymhellion Rhan 2 o adroddiad Comisiwn Holtham o ran
cyfrifoldebau cyllidol priodol. I weld copi o’r Adroddiad Holtham ewch i: http://wales.gov.uk/icffw/home/report/fundingsettlement/?skip=1&lang=cy Penderfyniad: NDM4776 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi’r consensws cyffredinol sy’n bodoli yng nghymdeithas sifig Cymru nad yw’r setliad ariannol datganoledig ar gyfer Cymru yn addas i’r diben bellach, a’i fod er mwyn cefnogi’r consensws hwnnw: a) Yn cymeradwyo nod Llywodraeth Cymru o sicrhau un pecyn cydlynol o ddiwygiadau i setliad ariannol Cymru ac yn cytuno bod yn rhaid i setliad o’r fath gynnwys: i) cyfundrefn ariannu decach, sy’n ymgorffori llawr Holtham, a diwygio fformiwla Barnett yn ehangach; ii) datganoli pwerau benthyg i ariannu buddsoddiadau cyfalaf a’r hawliau i godi arian cyfalaf; b) Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig i fwrw ymlaen â diwygio ariannol i Gymru; c) Yn annog y dylid dechrau’n fuan ar drafodaethau pendant rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig ac yn cefnogi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fod yn gadarnhaol ym mhob agwedd ar y trafodaethau hynny, gan gynnwys ystyried yr achos o blaid cryfhau atebolrwydd ariannol, yn unol ag argymhellion Rhan 2 o adroddiad Comisiwn Holtham o ran cyfrifoldebau cyllidol priodol. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM4774 Paul Davies (Preseli Sir
Benfro): Gofalu am
Ysbyty Llwynhelyg: Pam mae’n rhaid cadw’r
gwasanaethau yno. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |