Agenda a Phenderfyniadau

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Datganiad y Llywydd

Croesawodd y Llywydd Altaf Hussain, yr aelod Ceidwadol newydd dros Ranbarth Gorllewin De Cymru a gwahoddodd Mr Hussain i gyfarch y Siambr.

 

(45 munud)

1.

Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

 

Gweld y Cwestiynau

 

Dogfennau ategol:

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 13.32

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

Cwestiwn Brys

Dechreuodd yr eitem am 14.16

Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cyhoeddiad a wnaed heddiw ynghylch buddsoddiad mewn tai cymdeithasol? EAQ(4)0331(CTP)

 

(30 munud)

2.

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Dogfennau ategol:

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 14.21

(30 munud)

3.

Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth: Llysgenhadon Cyllid yr UE

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 14.50

(30 munud)

4.

Datganiad gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol ynghylch y Strategaeth Dŵr

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.20

(30 munud)

5.

Datganiad gan y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi: Deddfwriaeth Digartrefedd

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.00

(30 munud)

6.

Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau ynghylch Gwerthuso'r Cyfnod Sylfaen: Adroddiad Terfynol

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.39

Datganiad gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol ynghylch cydsyniad Ei Mawrhydi y Frenhines a Dug Cernyw

Yn unol â Rh.S. 26.67, gwnaeth y Gweinidog Cyfoeth Naturiol ddatganiad ei fod wedi cael gorchymyn gan Ei Mawrhydi y Frenhines a Dug Cernyw i roi gwybod i’r Cynulliad fod y ddau ohonynt, ar ôl cael gwybod am gynnwys y Bil Cynllunio (Cymru) yn rhoi eu cydsyniad i’r Bil hwn.

(15 munud)

7.

Dadl Cyfnod 4 ar y Bil Cynllunio (Cymru)

NDM5762 Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:

Yn cymeradwyo Bil Cynllunio (Cymru).

Dogfennau Ategol
Bil Cynllunio (Cymru)
Memorandwm Esboniadol

 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 17.27

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

NDM5762 Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:

Yn cymeradwyo Bil Cynllunio (Cymru).

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

39

0

10

49

Derbyniwyd y Cynnig.

 

(60 munud)

8.

Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol y Bil Llywodraeth Leol (Cymru)

NDM5760 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bill Llywodraeth Leol (Cymru).

Gosodwyd Bil Llywodraeth Leol (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 26 Ionawr 2015.

Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar Bil Llywodraeth Loeol (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 5 Mai 2015.

Dogfennau Ategol
Bil Llywodraeth Leol (Cymru)
Memorandwm Esboniadol
Adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol
Adroddiad y Pwyllgor Cyllid
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol


 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 17.41

 

NDM5760 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

 

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bill Llywodraeth Leol (Cymru).

 

Derbyniwyd y Cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

(5 munud)

9.

Dadl ar Benderfyniad Ariannol y Bil Llywodraeth Leol (Cymru)

NDM5761 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy'n deillio o'r Bil Llywodraeth Leol (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o'r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69 sy'n codi o ganlyniad i'r Bil.

 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 18.36

 

NDM5761 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy'n deillio o'r Bil Llywodraeth Leol (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o'r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69 sy'n codi o ganlyniad i'r Bil.

 

Derbyniwyd y Cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36

 

10.

Cyfnod pleidleisio

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 18.36

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol:

Cofnod y Trafodion

Dogfennau ategol: