Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datganiad y Llywydd Croesawodd y Llywydd aelodau o’r Cydbwyllgor Trosolwg o
Wasanaethau Cyhoeddus a Deisebau o Senedd Gweriniaeth Iwerddon, a oedd yn yr
Oriel Gyhoeddus. |
||||||||||||||||||||||||||
Datganiad y Llywydd Cyhoeddodd y Llywydd ymddiswyddiad Antoinette Sandbach a
Byron Davies fel Aelodau’r Cynulliad, a dymunodd yn dda iddynt yn y dyfodol. |
||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 13.31 Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd
arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2 |
|||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.14 |
|||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus: Nodi'r Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop – gweithio gyda a chefnogi ein cymuned Lluoedd Arfog heddiw Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.29 |
|||||||||||||||||||||||||
Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth: Llysgenhadon Cyllid yr UE - Gohirwyd tan 19 Mai |
||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol: Cyflwyno Bil yr Amgylchedd (Cymru) Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.03 |
|||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Gorchymyn Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2015 NDM5754
Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol
Sefydlog 27.5: Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Gorchymyn Deddf
Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 (Diwygiadau Canlyniadol)
(Cymru) 2015 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa
Gyflwyno ar 25 Mawrth 2015. Dogfennau
Ategol Memorandwm
Esboniadol (Saesneg yn unig) Adroddiad
y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.43 NDM5754
Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol
Sefydlog 27.5: Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Gorchymyn Deddf
Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 (Diwygiadau Canlyniadol)
(Cymru) 2015 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa
Gyflwyno ar 25 Mawrth 2015. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Cynllun Cyflawni ar gyfer Clefyd yr Afu NDM5753
Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi’r Cynllun Cyflawni ar gyfer Clefyd yr Afu,
fframwaith tan 2020 ar gyfer GIG Cymru i wella gwasanaethau clefyd yr afu. Mae’r Cynllun Cyflawni ar gyfer Clefyd yr Afu i’w weld
yn: http://gov.wales/topics/health/nhswales/plans/?skip=1&lang=cy Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu at y
ffaith y gallai'r broses o gyflwyno cynllun cyflenwi clefyd yr iau gael ei
llesteirio gan yr heriau ariannol y mae byrddau iechyd lleol yn eu hwynebu o
ganlyniad i'r toriadau cyllidebol mwyaf erioed gan Lywodraeth Cymru. Gwelliant 2 – Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i roi prisiau uned sylfaenol ar gyfer alcohol ar waith cyn
gynted ag y bo modd. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.44 Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. NDM5753
Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi’r Cynllun Cyflawni ar gyfer Clefyd yr Afu, fframwaith
tan 2020 ar gyfer GIG Cymru i wella gwasanaethau clefyd yr afu. Cyflwynwyd
y Gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu at y
ffaith y gallai'r broses o gyflwyno cynllun cyflenwi clefyd yr iau gael ei
llesteirio gan yr heriau ariannol y mae byrddau iechyd lleol yn eu hwynebu o
ganlyniad i'r toriadau cyllidebol mwyaf erioed gan Lywodraeth Cymru. Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 1:
Gwrthodwyd Gwelliant 1. Gwelliant 2 – Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i roi prisiau uned sylfaenol ar gyfer alcohol ar waith cyn
gynted ag y bo modd. Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 2:
Derbyniwyd Gwelliant 2. Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio: NDM5753
Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi’r Cynllun Cyflawni ar gyfer Clefyd yr Afu,
fframwaith tan 2020 ar gyfer GIG Cymru i wella gwasanaethau clefyd yr afu.
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio |
|||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16.24 |
||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |