Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Teyrnged er cof am Brynle Williams, cyn-Aelod Cynulliad |
|||||||||
Ethol Llywydd o dan Reol Sefydlog 6 Penderfyniad: Estynnodd y cyn-Lywydd wahoddiad am enwebiadau yn unol â Rheol
Sefydlog 6.6. Cynigiodd Ieuan Wyn Jones enwebu Rosemary
Butler. Gan na wnaed unrhyw enwebiad
arall, cyhoeddodd y cyn-Lywydd fod Rosemary Butler wedi'i hethol yn
Llywydd. |
|||||||||
Ethol Dirprwy Lywydd o dan Reol Sefydlog 6 Penderfyniad: Estynnodd y Llywydd wahoddiad am enwebiadau yn unol â Rheol
Sefydlog 6.6. Cynigiodd
Jocelyn Davies enwebu William Graham. Cynigiodd Simon
Thomas enwebu David Melding. Gan fod dau enwebiad, cynhaliwyd pleidlais gyfrinachol yn unol â Rheol
Sefydlog 6.8. Roedd canlyniadau’r
bleidlais gyfrinachol fel a ganlyn:
|
|||||||||
Enwebu Prif Weinidog o dan Reol Sefydlog 8. Penderfyniad: Yn unol â Rheol Sefydlog
12.11, cytunodd y Cynulliad
i ganiatáu enwebiadau ar gyfer penodi
Prif Weinidog Cymru. Yn unol â Rheol Sefydlog
8.2, gwahoddodd y Llywydd enwebiadau ar gyfer
penodi Prif Weinidog Cymru. Enwebwyd Carwyn
Jones gan Janice Gregory. Gan na
waned unrhyw enwebiad arall, cyhoeddodd y Llywydd mai Carwyn Jones fyddai'r enwebai. Yn unol ag Adran 47(4) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, cyhoeddodd y Llywydd y bydd yn argymell
ar unwaith i Ei Mawrhydi Y Frenhines
benodiad Carwyn Jones yn Brif Weinidog Cymru. Gwahoddwyd
Carwyn Jones i annerch y Cynulliad. |
|||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |