Enwebu Prif Weinidog - y Pedwerydd Cynulliad
Enwebu Prif Weinidog - y Pedwerydd Cynulliad
Mae gofyn i’r Cynulliad enwebu Prif Weinidog o fewn 28
niwrnod ar ôl etholiad Cynulliad.
Gellir enwebu Aelod i’w benodi’n Brif Weinidog yn y Cyfarfod Llawn cyntaf ar ol etholiad neu yn ystod unrhyw Gyfarfod Llawn wedi hynny, yn amodol ar benderfyniad y Cynulliad i wneud hynny. Bydd y Llywydd yn gwahodd y Cynulliad i gytuno y caiff enwebiadau eu gwneud. Os bydd Aelod yn gwrthwynebu, cynhelir pleidlais electronig. Bydd trafodion enwebu’n digwydd dim ond os bydd mwyafrif yr Aelodau sy’n pleidleisio yn cytuno a hynny.
Math o fusnes: Busnes Cynnar
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 02/06/2016