Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Datganiad y Llywydd: Ymgysylltu â Phobl Ifanc (5 munud) Dechreuodd yr eitem am 13.37 Gwnaeth y Llywydd ddatganiad yn lansio’r dull newydd o
ymgysylltu â phobl ifanc. Esboniodd
mai’r weledigaeth yw bod barn pobl ifanc yn cael ei chynnwys ym mhob agwedd ar
waith y Cynulliad, ac y bydd tair rhan i’r dull o ymgysylltu â phobl
ifanc. Y rhan gyntaf fydd ymestyn allan:
bydd pobl ifanc yn cael eu hannog i gymryd rhan pwy bynnag ydynt ac ym mhle
bynnag y maent. Yr ail ran fydd annog
trafodaeth: byddwn yn darparu amrywiaeth
o ffyrdd i bobl ifanc gymryd rhan yn ein gwaith. Y drydedd ran fydd adborth: byddwn yn esbonio i bobl ifanc sut y mae eu
cyfraniadau yn gwneud gwahaniaeth, fel eu bod hwy ac eraill yn cael eu
hysbrydoli i ymgysylltu rhagor. Yna
galwodd y Llywydd ar arweinwyr y pleidiau, a wnaeth ddatganiadau yn amlinellu
ymrwymiad eu grwpiau gwleidyddol i ymgysylltu â phobl ifanc. . |
||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 13.43 Gofynnwyd y 15 cwestiwn. Cafodd
cwestiynau 3 a 7 eu grwpio. Cafodd cwestiynau 11 ac 13 eu grwpio. |
|
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.29 Gofynnwyd y 15 cwestiwn. |
|
(15 munud) |
Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.07 Gofynnwyd y cwestiwn. |
|
(30 munud) |
Datganiad gan Bethan Jenkins: Cyflwyno Bil arfaethedig Aelod – y Bil Addysg a Chynhwysiant Ariannol (Cymru) Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.15 |
|
(60 munud) |
Dadl ar Adroddiad Comisiwn y Cynulliad ynghylch y Cynllun Ieithoedd Swyddogol NDM5556
Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â pharagraff
8 (8) o Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006: Yn nodi'r Adroddiad Cydymffurfio Blynyddol ar Gynllun
Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad, a osodwyd gerbron Cynulliad
Cenedlaethol Cymru ar 8 Gorffennaf 2014. Dogfennau
Ategol Adroddiad
Cydymffurfio Blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad Penderfyniad: Dechreuodd yr
eitem am 15.53 NDM5556 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn
unol â pharagraff 8 (8) o Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006: Yn nodi'r Adroddiad Cydymffurfio Blynyddol ar
Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad, a osodwyd gerbron Cynulliad
Cenedlaethol Cymru ar 8 Gorffennaf 2014. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|
(30 munud) |
Datganiad gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth: Y wybodaeth ddiweddaraf am Goridor yr M4 o amgylch Casnewydd Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16.26 |
|
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch argaeledd gwasanaethau bariatrig NDM5557
David Rees (Aberafan) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar
argaeledd gwasanaethau bariatrig, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Mai
2014. Nodyn: Gosodwyd ymateb y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Gorffennaf 2014. Dogfennau
Ategol Adroddiad
y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Penderfyniad: Dechreuodd yr
eitem am 17.06 NDM5557 David Rees (Aberafan) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal
Cymdeithasol ar argaeledd gwasanaethau bariatrig, a osodwyd yn y Swyddfa
Gyflwyno ar 21 Mai 2014. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|
(60 munud) |
Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar Cyllid Cymru NDM5558
Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar ei ymchwiliad i Cyllid
Cymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Mai 2014. Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 9 Gorffennaf 2014. Dogfennau
Ategol Penderfyniad: Dechreuodd yr
eitem am 17.48 NDM5558 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar ei
ymchwiliad i Cyllid Cymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Mai 2014. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|
Cyfnod pleidleisio Ni chafwyd
Cyfnod Pleidleisio. |
||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM5559
Eluned Parrott (Canol De Cymru): Chwarae teg? Amser i ymgynghori ar daliadau comisiwn tecach
wrth werthu cartrefi mewn parciau. Bydd y ddadl yn canolbwyntio ar y taliadau comisiwn sy’n daladwy
i berchnogion safleoedd pan fo perchnogion cartrefi mewn parciau yn gwerthu eu
heiddo. Penderfyniad: Dechreuodd yr
eitem am 18.25 NDM5559 Eluned Parrott (Canol De Cymru): Chwarae teg? Amser i ymgynghori ar daliadau comisiwn tecach wrth werthu
cartrefi mewn parciau. Bydd y ddadl yn canolbwyntio ar y taliadau
comisiwn sy’n daladwy i berchnogion safleoedd pan fo perchnogion cartrefi mewn
parciau yn gwerthu eu heiddo. |
|
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |