Agenda a Phenderfyniadau

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(45 munud)

1.

Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ

Dogfennau ategol:

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd cwestiynau 1 i 7 a 9 i 15. Cafodd cwestiynau 6 a 10 eu grwpio. Tynnwyd cwestiwn 8 yn ôl.

(45 munud)

2.

Cwestiynau i’r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 14.15

Gofynnwyd cwestiynau 1 i 9 a 12 i 15. Cafodd cwestiynau 1 a 12 eu grwpio. Atebwyd cwestiwn 5 gan y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd, Bwyd a Rhaglenni Ewropeaidd. Ni ofynnwyd cwestiwn 10.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod y ddwy eitem ganlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân:

(15 munud)

3.

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Safonau o dan Reol Sefydlog 22.9 (Adroddiad 01-13)

 

NDM5186 Mick Antoniw (Pontypridd)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Adroddiad 01-13 - a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 6 Mawrth 2013 yn unol â Rheol Sefydlog 22.9; a

 

2. Yn cymeradwyo’r argymhelliad yn yr adroddiad y canfuwyd methiant i gydymffurfio ac y dylid ceryddu Bethan Jenkins AC.

 

Dogfennau ategol:

Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad (01-13)

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 14.53

NDM5186 Mick Antoniw (Pontypridd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Adroddiad 01-13 - a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 6 Mawrth 2013 yn unol â Rheol Sefydlog 22.9; a

2. Yn cymeradwyo’r argymhelliad yn yr adroddiad y canfuwyd methiant i gydymffurfio ac y dylid ceryddu Bethan Jenkins AC.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(15 munud)

4.

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Safonau o dan Reol Sefydlog 22.9 (Adroddiad 02-13)

 

NDM5187 Mick Antoniw (Pontypridd)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Adroddiad 02-13 - a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 6 Mawrth 2013 yn unol â Rheol Sefydlog 22.9; a

 

2. Yn cymeradwyo’r argymhellion yn yr adroddiad.

 

Dogfennau ategol:

Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad (02-13)

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 14.53

NDM5187 Mick Antoniw (Pontypridd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Adroddiad 02-13 - a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 6 Mawrth 2013 yn unol â Rheol Sefydlog 22.9; a

2. Yn cymeradwyo’r argymhellion yn yr adroddiad.

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(60 munud)

5.

Dadl Cyfnod 1 ar y Bil Safleoedd Rheoleiddiedig Cartrefi Symudol (Cymru)

 

NDM5184 Peter Black (Gorllewin De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

 

Yn cytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil Safleoedd Rheoleiddiedig Cartrefi Symudol (Cymru).

 

Cafodd y Bil Safleoedd Rheoleiddiedig Cartrefi Symudol (Cymru) a’r Memorandwm Esboniadol eu gosod gerbron y Cynulliad ar 24 Hydref 2012.

 

Cafodd adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar y Bil Safleoedd Rheoleiddiedig Cartrefi Symudol (Cymru) ei osod gerbron y Cynulliad ar 21 Chwefror 2013.

 

Dogfennau ategol:

Bil Safleoedd Rheoleiddiedig Cartrefi Symudol (Cymru)

Memorandwm Esboniadol

Adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol

Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 14.57

NDM5184 Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil Safleoedd Rheoleiddiedig Cartrefi Symudol (Cymru).

Cafodd y Bil Safleoedd Rheoleiddiedig Cartrefi Symudol (Cymru) a’r Memorandwm Esboniadol eu gosod gerbron y Cynulliad ar 24 Hydref 2012.

Cafodd adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar y Bil Safleoedd Rheoleiddiedig Cartrefi Symudol (Cymru) ei osod gerbron y Cynulliad ar 21 Chwefror 2013.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(5 munud)

6.

Penderfyniad ariannol ar y Bil Safleoedd Rheoleiddiedig Cartrefi Symudol (Cymru)

 

NDM5185 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Safleoedd Rheoleiddiedig Cartrefi Symudol (Cymru) yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69(ii), sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.41

NDM5185 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Safleoedd Rheoleiddiedig Cartrefi Symudol (Cymru) yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69(ii), sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(60 munud)

7.

Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)

 

NDM5181 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)

 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn penderfynu cefnogi'r egwyddor o gynnal gwrandawiadau cyn cadarnhau penodiadau cyhoeddus pwysig yng Nghymru.

 

Cefnogwyd gan:

Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Mick Antoniw (Pontypridd)

Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Suzy Davies (Gorllewin De Cymru)

William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro)

Mark Isherwood (Gogledd Cymru)

David Rees (Aberafan)

Vaughan Gething (De Caerdydd a Phenarth)

Julie Morgan (Gogledd Caerdydd)

Ann Jones (Dyffryn Clwyd)

Christine Chapman (Cwm Cynon)

David Melding (Canol De Cymru)

Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru)

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.42

NDM5181 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn penderfynu cefnogi'r egwyddor o gynnal gwrandawiadau cyn cadarnhau penodiadau cyhoeddus pwysig yng Nghymru.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(60 munud)

8.

Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

 

NDM5188 Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1.Yn mynegi pryder nad yw cleifion yng Nghymru yn gallu cael gafael ar y triniaethau a'r meddyginiaethau mwyaf newydd a mwyaf arloesol sydd ar gael i gleifion eraill ledled y DU;

 

2. Yn croesawu’r ffaith bod Cronfa Technolegau Iechyd Cymru wedi cael ei chreu, ond yn gresynu wrth y diffyg buddsoddiad mewn technolegau newydd, arloesol o’r dyraniad gwerth £5 miliwn ar gyfer blwyddyn ariannol 2012-2013;

 

3.Yn nodi bod y diwydiant fferyllol wedi buddsoddi £4.4 biliwn mewn gwaith ymchwil a datblygu yn y DU yn 2009, sydd yn fwy nag unrhyw sector diwydiant arall, ac yn credu bod GIG Cymru angen amgylchedd sy'n barod i dderbyn arloesedd er mwyn cystadlu'n effeithiol am dreialon clinigol ar lefel fyd-eang;

 

4.Yn credu y dylid ystyried gwariant ar feddyginiaethau modern yn fuddsoddiad yn hytrach nag yn gost. Felly, mae'n gresynu mai dim ond 0.5% o gyfanswm gwariant y GIG yng Nghymru yn 2011 a wariwyd ar feddyginiaethau newydd a ddefnyddiwyd mewn gofal sylfaenol; a

 

5. Yn nodi y rhagwelir y bydd Cymru yn sicrhau arbedion o ryw £186 miliwn rhwng 2011 a 2015 oherwydd Colli Hawliau Unig Gynhyrchydd (LOE) ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi rhywfaint o’r arian hwn yn y Gronfa Technolegau Iechyd, i gefnogi'r ymgysylltiad â Grwp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG) a’r Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol (NICE) fel y gall mwy o gleifion yng Nghymru fanteisio ar y triniaethau a’r meddyginiaethau diweddaraf.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Ym mhwynt 1, ar ôlyng Nghymru’, rhoi ‘, yn enwedig rhai gyda chlefydau prin,’.

 

Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Ym mhwynt 2, dileu popeth ar ôlgresynu’ a  rhoi yn ei le:

 

a) wrth y diffyg buddsoddiad mewn technolegau newydd, arloesol o’r dyraniad gwerth £5 miliwn ar gyfer y flwyddyn ariannol 2012-2013;

 

b) nad yw’r Gronfa yn mynd i’r afael â hygyrchedd gwael triniaethau canser modern i gleifion yng Nghymru wrth gymharu â rhannau eraill o’r DU.

 

Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod Cronfa Technolegau Iechyd Cymru yn ehangu mynediad at driniaethau canser modern ar gyfer cleifion yng Nghymru.

 

Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn nodi bod modd peryglu mynediad cleifion at feddyginiaethau a thriniaethau arloesol yn sgîl toriadau termau real Llywodraeth Cymru i gyllideb GIG Cymru nas gwelwyd eu tebyg o’r blaen.

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.25

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5188 Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn mynegi pryder nad yw cleifion yng Nghymru yn gallu cael gafael ar y triniaethau a'r meddyginiaethau mwyaf newydd a mwyaf arloesol sydd ar gael i gleifion eraill ledled y DU;

2. Yn croesawu’r ffaith bod Cronfa Technolegau Iechyd Cymru wedi cael ei chreu, ond yn gresynu wrth y diffyg buddsoddiad mewn technolegau newydd, arloesol o’r dyraniad gwerth £5 miliwn ar gyfer blwyddyn ariannol 2012-2013;

3. Yn nodi bod y diwydiant fferyllol wedi buddsoddi £4.4 biliwn mewn gwaith ymchwil a datblygu yn y DU yn 2009, sydd yn fwy nag unrhyw sector diwydiant arall, ac yn credu bod GIG Cymru angen amgylchedd sy'n barod i dderbyn arloesedd er mwyn cystadlu'n effeithiol am dreialon clinigol ar lefel fyd-eang;

4. Yn credu y dylid ystyried gwariant ar feddyginiaethau modern yn fuddsoddiad yn hytrach nag yn gost. Felly, mae'n gresynu mai dim ond 0.5% o gyfanswm gwariant y GIG yng Nghymru yn 2011 a wariwyd ar feddyginiaethau newydd a ddefnyddiwyd mewn gofal sylfaenol; a

5. Yn nodi y rhagwelir y bydd Cymru yn sicrhau arbedion o ryw £186 miliwn rhwng 2011 a 2015 oherwydd Colli Hawliau Unig Gynhyrchydd (LOE) ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi rhywfaint o’r arian hwn yn y Gronfa Technolegau Iechyd, i gefnogi'r ymgysylltiad â Grwp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG) a’r Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol (NICE) fel y gall mwy o gleifion yng Nghymru fanteisio ar y triniaethau a’r meddyginiaethau diweddaraf.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

14

0

36

50

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Ym mhwynt 1, ar ôlyng Nghymru’, rhoi ‘, yn enwedig rhai gyda chlefydau prin,’.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

14

0

36

50

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ym mhwynt 2, dileu popeth ar ôlgresynua  rhoi yn ei le:

a) wrth y diffyg buddsoddiad mewn technolegau newydd, arloesol o’r dyraniad gwerth £5 miliwn ar gyfer y flwyddyn ariannol 2012-2013;

b) nad yw’r Gronfa yn mynd i’r afael â hygyrchedd gwael triniaethau canser modern i gleifion yng Nghymru wrth gymharu â rhannau eraill o’r DU.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

11

0

39

50

Gwrthodwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod Cronfa Technolegau Iechyd Cymru yn ehangu mynediad at driniaethau canser modern ar gyfer cleifion yng Nghymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

16

0

34

50

Gwrthodwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi bod modd peryglu mynediad cleifion at feddyginiaethau a thriniaethau arloesol yn sgîl toriadau termau real Llywodraeth Cymru i gyllideb GIG Cymru nas gwelwyd eu tebyg o’r blaen.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

11

0

39

50

Gwrthodwyd gwelliant 4.

Gan na dderbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio gan y Cynulliad, a chan na dderbyniwyd y gwelliannau a gyflwynwyd i’r cynnig, gwrthodwyd y cynnig.

Cyfnod Pleidleisio

Dechreuodd yr eitem am 17.12

Cafodd y cyfarfod ei ohirio a’i ail-gynnull am 17.14 ar gyfer y Cyfnod Pleidleisio.

 

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol:

(30 munud)

9.

Dadl Fer

 

NDM5183 Paul Davies (Preseli Sir Benfro):

 

Cynlluniau Bwrdd Iechyd Hywel Dda ar gyfer Sir Benfrogwasanaethau diogel a chynaliadwy?

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 17.17

NDM5183 Paul Davies (Preseli Sir Benfro):

Cynlluniau Bwrdd Iechyd Hywel Dda ar gyfer Sir Benfrogwasanaethau diogel a chynaliadwy?

Cofnod y Trafodion

Dogfennau ategol: