Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(60 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Penderfyniad: Gofynnwyd y 15 cwestiwn. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|
(30 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes |
|
(30 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Llythrennedd |
|
(30 munud) |
Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy: Strategaeth ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol |
|
(60 munud) |
Dadl ar Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Pobl Hyn Cymru NDM4841 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Comisiynydd Pobl Hyn ar gyfer 2010/11, y gosodwyd copi
ohono yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Hydref 2011.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn annog Llywodraeth Cymru i flaenoriaethu camau i warchod pobl hŷn
sydd mewn perygl o niwed neu sy’n methu ag ymdopi; ac i ddiogelu eu hurddas. Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymateb i’r heriau a nodwyd yn “Galwadau’r
Comisiynydd”. Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu gwasanaeth eiriolaeth cynhwysfawr a
chyson ar gyfer pobl hŷn yng Nghymru. Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru a) werthuso cynlluniau lleol, wedi’u hanelu at gynorthwyo pobl hŷn,
sy’n: i) eu hannog i fabwysiadu ffyrdd iach o fyw ac yn eu galluogi i fyw’n
ddiogel mewn cymuned gefnogol, a thrwy hynny osgoi gorfod aros yn ddiangen mewn
ysbyty; a ii) hyrwyddo byw'n annibynnol. b) Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgorffori’r arfer gorau mewn cynllun
gweithredu Cymru gyfan. Penderfyniad: Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn annog Llywodraeth Cymru i flaenoriaethu camau i warchod pobl hŷn
sydd mewn perygl o niwed neu sy’n methu ag ymdopi; ac i ddiogelu eu hurddas. Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymateb i’r heriau a nodwyd yn “Galwadau’r
Comisiynydd”. Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu gwasanaeth eiriolaeth cynhwysfawr a
chyson ar gyfer pobl hŷn yng Nghymru. Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru a) werthuso cynlluniau lleol, wedi’u hanelu at gynorthwyo pobl hŷn,
sy’n: i) eu hannog i fabwysiadu ffyrdd iach o fyw ac yn eu galluogi i fyw’n
ddiogel mewn cymuned gefnogol, a thrwy hynny osgoi gorfod aros yn ddiangen mewn
ysbyty; a ii) hyrwyddo byw'n annibynnol. b) ymgorffori’r arfer gorau mewn cynllun gweithredu Cymru gyfan ar gyfer
iechyd ataliol. Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. NDM4841 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Comisiynydd Pobl Hyn ar gyfer 2010/11, y gosodwyd copi
ohono yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Hydref 2011. Yn annog Llywodraeth Cymru i flaenoriaethu camau i warchod pobl hŷn
sydd mewn perygl o niwed neu sy’n methu ag ymdopi; ac i ddiogelu eu hurddas. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymateb i’r heriau a nodwyd yn “Galwadau’r
Comisiynydd”. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu gwasanaeth eiriolaeth cynhwysfawr a
chyson ar gyfer pobl hŷn yng Nghymru. Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru a) werthuso cynlluniau lleol, wedi’u hanelu at gynorthwyo pobl hŷn,
sy’n: i) eu hannog i fabwysiadu ffyrdd iach o fyw ac yn eu galluogi i fyw’n
ddiogel mewn cymuned gefnogol, a thrwy hynny osgoi gorfod aros yn ddiangen mewn
ysbyty; a ii) hyrwyddo byw'n annibynnol. b) ymgorffori’r arfer gorau mewn cynllun gweithredu Cymru gyfan ar gyfer
iechyd ataliol. Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio yn unol
â Rheol Sefydlog 12.36. |
|
(60 munud) |
Dadl ar S4C NDM4842 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi'r cytundeb diweddar ynghylch y bartneriaeth newydd rhwng S4C a'r
BBC; 2. Yn cytuno y dylai Llywodraeth Cymru drafod â Llywodraeth y Deyrnas
Unedig yr angen i gynnal adolygiad llawn o brosesau gweithredu a llywodraethu
S4C ac atebolrwydd y sianel, ond gan ganiatáu amser i'r trefniadau diwygiedig
yn S4C gael amser i weithio; a 3. Yn cytuno y dylai fod cysylltiadau cryfach rhwng S4C, darlledwyr eraill
y gwasanaeth cyhoeddus a Chynulliad Cenedlaethol Cymru. Penderfyniad: Derbyniwyd y cynnig yn unol
â Rheol Sefydlog 12.36. |
|
Cyfnod Pleidleisio |
||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |