Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg a Sgiliau Penderfyniad: Ni ofynnwyd
cwestiwn 1. Gofynnwyd yr 13 cwestiwn cyntaf. Cafodd cwestiynau 5 a 12 eu hateb
gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau. Tynnwyd cwestiwn 11 yn ôl. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau Penderfyniad: Gofynnwyd y 10 cwestiwn cyntaf. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Adroddiad ESTYN |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Cynigion i ethol Aelodau i bwyllgorau NDM4792
Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 17.14, yn ethol Aled Roberts (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor
Plant a Phobl Ifanc yn lle Kirsty Williams (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru) i
fod yn weithredol
o 19 Medi 2011. NDM4793
Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 17.14, yn ethol Eluned Parrott (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru) yn aelod o’r
Pwyllgor Menter a Busnes yn lle
William Powell (Democratiaid Rhyddfrydol
Cymru) i fod yn weithredol o 19 Medi 2011. NDM4794
Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 17.14, yn ethol Aled Roberts (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor
Cyfrifon Cyhoeddus yn lle Peter Black (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru) i
fod yn weithredol
o 19 Medi 2011. NDM4795
Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 17.14, yn ethol Eluned Parrott (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru) yn aelod o’r
Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn lle Peter Black (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru) i
fod yn weithredol
o 19 Medi 2011. Penderfyniad: Derbyniwyd y cynigion yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Cynnig i ddiwygio’r Rheolau Sefydlog yn dilyn y refferendwm ar bwerau’r Cynulliad NDM4787 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd) Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2: 1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes ‘Diwygiadau arfaethedig i’r Rheolau Sefydlog yn dilyn y refferendwm ar bwerau’r Cynulliad’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Gorffennaf 2011; 2. Yn cymeradwyo’r cynnig i adolygu’r Rheolau Sefydlog, fel y nodir yn Atodiad B i Adroddiad y Pwyllgor Busnes. Dogfennau ategol: Penderfyniad: Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol
Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM4786 Nick Ramsay (Mynwy) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) Cydnabod rôl allweddol twristiaeth yn economi Cymru; b) Hyrwyddo Cymru dramor yn gyfan gwbl; c) Cynyddu nifer y cwmnïau sy’n allforio o Gymru a gwerth allforion o Gymru; d) Sicrhau bod rhagor o fewnfuddsoddi i Gymru yn cael ei annog. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru) Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 1: Buddsoddi mewn sgiliau fel y bydd gan fusnesau yng Nghymru fwy o botensial i allforio a denu rhagor o fewnfuddsoddi. Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain
De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: e) Edrych ar bob llwybr posibl er mwyn cynnal gwariant cyfalaf ar brosiectau seilwaith fel ffordd o roi hwb i gwmnïau Cymru a’u gallu i gystadlu mewn marchnad fyd-eang. Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn credu y byddai Cyfnewidfa Stoc Cymru yn helpu i hyrwyddo Cymru fel economi fodern. Penderfyniad: NDM4786
Nick Ramsay (Mynwy) Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i: a) Gydnabod rôl
allweddol twristiaeth yn economi Cymru; b) Hyrwyddo Cymru
dramor yn gyfan gwbl; c) Cynyddu nifer y
cwmnïau sy’n allforio o Gymru a gwerth allforion o Gymru; d) Sicrhau bod
rhagor o fewnfuddsoddi i Gymru yn cael ei annog. Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio yn unol â
Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru NDM4789 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod pwysigrwydd cyflogaeth yn y sector cyhoeddus i gymunedau ledled y wlad; ac 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) Cyhoeddi ei chynllun ynghylch staffio swyddfeydd Llywodraeth Cymru yn y dyfodol; b) Gwrthod unrhyw gynnig i gau swyddfeydd Llywodraeth Cymru; c) Sicrhau dosbarthiad teg o swyddi Llywodraeth Cymru ledled Cymru. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le: 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau â’r Strategaeth Leoli, sy’n ei gwneud yn bosibl i Lywodraeth Cymru ddarparu swyddi a gwasanaethau o fewn adeiladau effeithlon a hygyrch ar draws Cymru. Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ei hystâd yn cael ei defnyddio i’r eithaf i gefnogi cymunedau ledled Cymru. Gwelliant 3 - Nick Ramsay (Mynwy) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod pwysigrwydd swyddi Llywodraeth Cymru yn Llandrindod, y Drenewydd, Caerfyrddin a Chaernarfon i’r economïau lleol. Gwelliant 4 - Nick Ramsay (Mynwy) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd ati’n ddi-oed i egluro sefyllfa ei swyddfeydd rhanbarthol mewn datganiad ysgrifenedig i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Gwelliant 5 - Nick Ramsay (Mynwy) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgynghori â’r undebau yn ei hadolygiad o anghenion staffio mewn swyddfeydd rhanbarthol. Penderfyniad: Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM4789
Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod pwysigrwydd cyflogaeth yn y sector cyhoeddus i gymunedau
ledled y wlad; ac 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) Gyhoeddi ei chynllun ynghylch staffio swyddfeydd Llywodraeth Cymru yn
y dyfodol; b) Gwrthod unrhyw gynnig i gau swyddfeydd Llywodraeth Cymru; c) Sicrhau dosbarthiad teg o swyddi Llywodraeth Cymru ledled Cymru.
Gwrthodwyd y
cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu pwynt 2 a rhoi
yn ei le: 2. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i barhau â’r Strategaeth Leoli, sy’n ei gwneud yn bosibl i
Lywodraeth Cymru ddarparu swyddi a gwasanaethau o fewn adeiladau effeithlon a
hygyrch ar draws Cymru. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd
gwelliant 1. Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ei hystâd yn cael ei defnyddio i’r eithaf i
gefnogi cymunedau ledled Cymru. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd
gwelliant 2. Gwelliant 3 -
Nick Ramsay (Mynwy) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod pwysigrwydd swyddi Llywodraeth Cymru yn Llandrindod, y
Drenewydd, Caerfyrddin a Chaernarfon i’r economïau lleol. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 3:
Derbyniwyd
gwelliant 3. Gwelliant 4 -
Nick Ramsay (Mynwy) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd ati’n ddi-oed i egluro sefyllfa ei
swyddfeydd rhanbarthol mewn datganiad ysgrifenedig i Gynulliad Cenedlaethol
Cymru. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 4:
Derbyniwyd
gwelliant 4. Gwelliant 5 -
Nick Ramsay (Mynwy) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgynghori â’r undebau yn ei hadolygiad o
anghenion staffio mewn swyddfeydd rhanbarthol. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 5:
Derbyniwyd
gwelliant 5. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM4789
Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod pwysigrwydd cyflogaeth yn y sector cyhoeddus i gymunedau
ledled y wlad; ac 2. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i barhau â’r Strategaeth Leoli, sy’n ei gwneud yn bosibl i
Lywodraeth Cymru ddarparu swyddi a gwasanaethau o fewn adeiladau effeithlon a
hygyrch ar draws Cymru. 3. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ei hystâd yn cael ei defnyddio i’r eithaf i
gefnogi cymunedau ledled Cymru. 4. Yn cydnabod pwysigrwydd swyddi Llywodraeth Cymru yn Llandrindod, y
Drenewydd, Caerfyrddin a Chaernarfon i’r economïau lleol. 5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd ati’n ddi-oed i egluro sefyllfa ei
swyddfeydd rhanbarthol mewn datganiad ysgrifenedig i Gynulliad Cenedlaethol
Cymru. 6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgynghori â’r undebau yn ei hadolygiad
o anghenion staffio mewn swyddfeydd rhanbarthol.
Derbyniwyd y
cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru NDM4788 Peter Black (Gorllewin De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi bod busnesau bach yn hanfodol i adferiad economaidd Cymru ac yn chwarae rôl mewn economïau lleol ledled Cymru; 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad llawn o ardrethi busnes er mwyn: a) Osgoi sefyllfa lle mae gwneud gwelliannau i eiddo yn cynyddu ei werth ac felly’n golygu bod ardreth y busnes yn uwch; b) Newid y rôl y dylai awdurdodau lleol ei chwarae o ran casglu a chadw ardrethi busnes, er mwyn rhoi sylw i anghenion lleol; c) Rhoi’r gorau i godiadau anferth mewn ardrethi busnes pan fo gwerthoedd yn cynyddu a chostau’n codi rhwng blynyddoedd fel sydd wedi digwydd i lawer o fusnesau gwely a brecwast yn ddiweddar; d) Ehangu’r rhyddhad ardrethi busnes i helpu mwy o gyfleusterau cymunedol fel swyddfeydd post, tafarndai, mentrau cymdeithasol a siopau annibynnol; e) Penderfynu a fyddai Cymru’n elwa o fabwysiadu’r un trefniadau cyfrifo ardrethi busnes ag sydd gan yr Alban a Gogledd Iwerddon gyda Llywodraeth y DU. 3. Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i: a) Rhewi ardrethi busnes nes caiff argymhellion yr adolygiad hwn eu rhoi ar waith; b) Amlinellu manylion ei chynlluniau i lunio cynllun cynhwysfawr i leihau’r beichiau rheoleiddio ar fusnesau bach; a 4. Yn galw ar y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth i asesu effaith ei pholisïau ar fusnesau bach yn rheolaidd. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: [os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2,3 a 4 yn cael eu dad-ddethol] Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu pwyntiau 2 a 3 o’r cynnig gwreiddiol a rhoi yn eu lle bwyntiau newydd 2 a 3, a nodir isod. 2. Yn cydnabod bod cynnwys y cyfrifoldeb arweiniol am bolisi ardrethi busnes o fewn portffolio y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth yn rhoi arwydd clir ynghylch effaith bosibl ardrethi busnes ar fusnesau Cymru. 3. Yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn adolygu polisïau ynghylch ardrethi busnes er mwyn cyflwyno ardrethi teg a chymesur ar gyfer busnesau Cymru er mwyn bodloni amcanion economaidd a chymdeithasol y Llywodraeth. Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain
De Cymru) Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le: 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad llawn o ardrethi busnes a pharhau â’r cynllun rhyddhad ardrethi busnes cyfredol i fusnesau bach wrth i’r adolygiad fynd rhagddo. [os derbynnir gwelliant 3, bydd gwelliant 4 yn cael ei ddad-ddethol] Gwelliant 3 - Nick Ramsay (Mynwy) Dileu is-bwynt 3a) a rhoi yn ei le: Dileu’r holl ardrethi busnes ar gyfer busnesau sydd â gwerth ardrethol o £12000 neu lai a thapro ardrethi busnes ar gyfer busnesau sydd â gwerth ardrethol rhwng £12000 a £15000. Gwelliant 4 - Jocelyn Davies (Dwyrain
De Cymru) Dileu is-bwynt 3a) ac ailrifo’r pwyntiau sy'n dilyn. Penderfyniad: Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM4788 Peter Black (Gorllewin De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi bod busnesau bach yn hanfodol i adferiad economaidd Cymru ac
yn chwarae rôl mewn economïau lleol ledled Cymru; 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad llawn o ardrethi busnes
er mwyn: a) Osgoi sefyllfa lle mae gwneud gwelliannau i eiddo yn cynyddu ei werth ac
felly’n golygu bod ardreth y busnes yn uwch; b) Newid y rôl y dylai awdurdodau lleol ei chwarae o ran casglu a chadw
ardrethi busnes, er mwyn rhoi sylw i anghenion lleol; c) Rhoi’r gorau i godiadau anferth mewn ardrethi busnes pan fo gwerthoedd
yn cynyddu a chostau’n codi rhwng blynyddoedd fel sydd wedi digwydd i lawer o
fusnesau gwely a brecwast yn ddiweddar; d) Ehangu’r rhyddhad ardrethi busnes i helpu mwy o gyfleusterau cymunedol
fel swyddfeydd post, tafarndai, mentrau cymdeithasol a siopau annibynnol; e) Penderfynu a fyddai Cymru’n elwa o fabwysiadu’r un trefniadau cyfrifo
ardrethi busnes ag sydd gan yr Alban a Gogledd Iwerddon gyda Llywodraeth y DU. 3. Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i: a) Rewi ardrethi busnes nes caiff argymhellion yr adolygiad hwn eu rhoi
ar waith; b) Amlinellu manylion ei chynlluniau i lunio cynllun cynhwysfawr i
leihau’r beichiau rheoleiddio ar fusnesau bach; a 4. Yn galw ar y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth i
asesu effaith ei pholisïau ar fusnesau bach yn rheolaidd.
Gwrthodwyd y
cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu pwyntiau 2
a 3 o’r cynnig gwreiddiol a rhoi yn eu lle bwyntiau newydd 2 a 3, a nodir isod. 2. Yn cydnabod
bod cynnwys y cyfrifoldeb arweiniol am bolisi ardrethi busnes o fewn portffolio
y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth yn rhoi arwydd clir
ynghylch effaith bosibl ardrethi busnes ar fusnesau Cymru. 3. Yn nodi y bydd
Llywodraeth Cymru yn adolygu polisïau ynghylch ardrethi busnes er mwyn cyflwyno
ardrethi teg a chymesur ar gyfer busnesau Cymru er mwyn bodloni amcanion
economaidd a chymdeithasol y Llywodraeth. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd
gwelliant 1. Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd
gwelliannau 2, 3 a 4 eu dad-ddethol. Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain De
Cymru) Dileu pwynt 2 a
rhoi yn ei le: 2. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad llawn o ardrethi busnes a pharhau â’r
cynllun rhyddhad ardrethi busnes cyfredol i fusnesau bach wrth i’r adolygiad
fynd rhagddo. Gwelliant 3 -
Nick Ramsay (Mynwy) Dileu is-bwynt 3a) a rhoi yn ei le: Dileu’r holl ardrethi busnes ar gyfer busnesau sydd â gwerth ardrethol o
£12000 neu lai a thapro ardrethi busnes ar gyfer busnesau sydd â gwerth
ardrethol rhwng £12000 a £15000. Gwelliant 4 -
Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Dileu is-bwynt 3a) ac ailrifo’r pwyntiau sy'n dilyn. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM4788 Peter Black (Gorllewin De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi bod busnesau bach yn hanfodol i adferiad economaidd Cymru ac
yn chwarae rôl mewn economïau lleol ledled Cymru; 2. Yn cydnabod
bod cynnwys y cyfrifoldeb arweiniol am bolisi ardrethi busnes o fewn portffolio
y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth yn rhoi arwydd clir
ynghylch effaith bosibl ardrethi busnes ar fusnesau Cymru. 3. Yn nodi y bydd
Llywodraeth Cymru yn adolygu polisïau ynghylch ardrethi busnes er mwyn cyflwyno
ardrethi teg a chymesur ar gyfer busnesau Cymru er mwyn bodloni amcanion
economaidd a chymdeithasol y Llywodraeth. 4. Yn galw ar y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth i
asesu effaith ei pholisïau ar fusnesau bach yn rheolaidd.
Derbyniwyd y
cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |