Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am
13.30 Gofynnwyd y 6 chwestiwn
cyntaf. Atebwyd cwestiwn 2, 3 a 6 gan y Dirprwy Weinidog Iechyd. Gwahoddodd y
Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg a Sgiliau Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.18 Yn unol â Rheol Sefydlog 12.58, atebodd y Dirprwy
Weinidog Sgiliau a Thechnoleg cwestiynau ar ran y Gweinidog Addysg a Sgiliau. Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd
y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM5862 Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi gwerth cyfleoedd prentisiaeth amrywiol i
Gymru. 2. Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod
cyfleoedd ar gyfer cynlluniau lleoliad gwaith ar gael i bobl ar draws
cymdeithas yng Nghymru i gynorthwyo ailhyfforddi a chaniatáu ar gyfer
cyflogaeth gynaliadwy a blaengar. 3. Yn cydnabod pwysigrwydd cydweithio rhwng pob sector
o'r system addysg a busnesau yng Nghymru i helpu i baratoi pobl ifanc ar gyfer
y byd gwaith. Cyflwynwyd y gwelliant a
ganlyn: Gwelliant 1 – Aled
Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i edrych ar fframwaith
cymwysterau ar gyfer pobl rhwng 14 a 18 oed a fyddai'n darparu mwy o ddewis ar
gyfer llwybrau academaidd a galwedigaethol a'i gwneud yn haws i symud
rhyngddynt er mwyn cefnogi unigolion i wireddu eu potensial llawn. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.05 Gohiriwyd
y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliant o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar
y Cynnig heb ei ddiwygio: NDM5862 Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn
nodi gwerth cyfleoedd prentisiaeth amrywiol i Gymru. 2. Yn
credu y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod cyfleoedd ar gyfer cynlluniau
lleoliad gwaith ar gael i bobl ar draws cymdeithas yng Nghymru i gynorthwyo
ailhyfforddi a chaniatáu ar gyfer cyflogaeth gynaliadwy a blaengar. 3. Yn
cydnabod pwysigrwydd cydweithio rhwng pob sector o'r system addysg a busnesau
yng Nghymru i helpu i baratoi pobl ifanc ar gyfer y byd gwaith.
Derbyniwyd y Cynnig heb ei ddiwygio. |
|||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru NDM5864 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella perfformiad o ran
mynd i'r afael â thlodi tanwydd. Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn: Gwelliant 1 – Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn credu y dylai tlodi tanwydd fod yn ganolog i gynllun
gweithredu Llywodraeth Cymru ar gyfer trechu tlodi; Gwelliant 1 – Aled
Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymestyn Cymru Effeithlon i
gynnig cynllun cynhwysfawr, yn debyg i Resource Efficient Scotland, i wella
effeithlonrwydd adnoddau a mynd i'r afael â thlodi tanwydd a newid hinsawdd. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16.06 Gohiriwyd
y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar
y Cynnig heb ei ddiwygio: NDM5864 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i wella perfformiad o ran mynd i'r afael â thlodi
tanwydd.
Derbyniwyd y Cynnig heb ei ddiwygio. |
|||||||||
(60 munud) |
Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru NDM5865
Aled Roberts (Gogledd Cymru): Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol
Cymru: 1. Yn credu bod gan stryd fawr
fywiog ac amrywiol rôl allweddol i'w chwarae yng Nghymru o ran adeiladu
cymunedau cynaliadwy ar gyfer y dyfodol, cefnogi swyddi a menter lleol a gwella
cynhwysiant a chydlyniant cymdeithasol; 2. Yn cydnabod yr angen i fynd
i'r afael â rhwystrau i dwf canol trefi, sy'n cynnwys: a) y cynnydd mewn adwerthu
ar-lein ac ar gyrion trefi; b) colli gwasanaethau lleol neu
asedau cymunedol a'r gyfres ddiweddaraf o fanciau a gafodd eu cau; c) y gyfradd siopau gwag ar y
stryd fawr sy'n gyson yn uwch na chyfartaledd y DU; d) y diffyg ystyriaeth gynnar o
drafnidiaeth gynaliadwy mewn prosiectau adfywio; ac e) methiant y system gynllunio i
hwyluso datblygu ac annog buddsoddiad mewn ymateb i'r newidiadau yn yr hyn y
mae cwsmeriaid yn galw amdano. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i
ystyried cynigion arloesol ar gyfer adfywio'r stryd fawr yng Nghymru, gan gynnwys
datblygu rhwydwaith dysgu cenedlaethol i gynnig hyfforddiant ac adnoddau,
hwyluso rhwydweithio i gael ysbrydoliaeth ar arfer gorau a chasglu a rhannu
mynediad i ymchwil o bob cwr o'r byd ar adfywio canol trefi. Cyflwynwyd y gwelliant a
ganlyn: Gwelliant 1 – Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnwys pwynt 1 newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn cydnabod polisïau'r Ceidwadwyr Cymreig a nodir yn
'Gweledigaeth ar gyfer y Stryd Fawr yng Nghymru’. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16.47 Gohiriwyd
y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliant o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar
y Cynnig heb ei ddiwygio: NDM5865 Aled Roberts (Gogledd Cymru): Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn credu bod gan stryd
fawr fywiog ac amrywiol rôl allweddol i'w chwarae yng Nghymru o ran adeiladu
cymunedau cynaliadwy ar gyfer y dyfodol, cefnogi swyddi a menter lleol a gwella
cynhwysiant a chydlyniant cymdeithasol; 2. Yn cydnabod yr angen i
fynd i'r afael â rhwystrau i dwf canol trefi, sy'n cynnwys: a) y cynnydd mewn
adwerthu ar-lein ac ar gyrion trefi; b) colli gwasanaethau
lleol neu asedau cymunedol a'r gyfres ddiweddaraf o fanciau a gafodd eu cau; c) y gyfradd siopau gwag
ar y stryd fawr sy'n gyson yn uwch na chyfartaledd y DU; d) y diffyg ystyriaeth
gynnar o drafnidiaeth gynaliadwy mewn prosiectau adfywio; ac e) methiant y system
gynllunio i hwyluso datblygu ac annog buddsoddiad mewn ymateb i'r newidiadau yn
yr hyn y mae cwsmeriaid yn galw amdano. 3. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i ystyried cynigion arloesol ar gyfer adfywio'r stryd fawr yng Nghymru,
gan gynnwys datblygu rhwydwaith dysgu cenedlaethol i gynnig hyfforddiant ac
adnoddau, hwyluso rhwydweithio i gael ysbrydoliaeth ar arfer gorau a chasglu a
rhannu mynediad i ymchwil o bob cwr o'r byd ar adfywio canol trefi.
Derbyniwyd y Cynnig heb ei ddiwygio. |
|||||||||
Cyfnod pleidleisio Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 17.39 |
||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM5863 Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)
Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 17.41 NDM5863 Jenny
Rathbone (Canol Caerdydd) |
|||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |