R -
Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn
cromfachau)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
Gofyn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
1. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y ddarpariaeth o ofal iechyd meddwl? OAQ(4)0652(HSS)W
2. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fesurau arbennig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr? OAQ(4)0644(HSS)
3. Mick Antoniw (Pontypridd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am driniaeth a gwasanaethau adsefydlu ar gyfer clefyd yr ymennydd sy'n gysylltiedig ag alcohol? OAQ(4)0641(HSS)
4. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y Cynllun Gwên? OAQ(4)0640(HSS)
5. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynnydd yn nifer presgripsiynau’r GIG? OAQ(4)0645(HSS)
6. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am rôl y sector gwirfoddol yn y broses o ddarparu gwasanaethau canser? OAQ(4)0647(HSS)
7. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wasanaethau iechyd trawsffiniol? OAQ(4)0650(HSS)
8. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith sy'n cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru i amddiffyn plant ifanc rhag ffliw y gaeaf hwn? OAQ(4)0648(HSS)
9. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella mynediad trigolion yng Nghanol De Cymru at feddygon teulu? OAQ(4)0643(HSS)
10. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wasanaethau iechyd yng ngogledd Cymru? OAQ(4)0654(HSS)
11. Elin Jones (Ceredigion): Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer y gwasanaeth iechyd yng Ngheredigion? OAQ(4)0653(HSS)W
12. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â chanser pancreatig yng Nghymru cyn etholiad nesaf y Cynulliad? OAQ(4)0649(HSS)
13. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am strategaeth awtistiaeth Llywodraeth Cymru? OAQ(4)0646(HSS)
14. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am amseroedd aros ysbytai yn ne-orllewin Cymru? OAQ(4)0651(HSS)
15. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella amseroedd aros ar gyfer triniaeth yng Nghanol De Cymru? OAQ(4)0642(HSS)
Gofyn i'r Gweinidog Addysg a Sgiliau
1. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol addysg grefyddol yng Nghymru? OAQ(4)0539(HSS)
2. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am hyfforddiant cychwynnol athrawon yng Nghymru? OAQ(4)0639(ESK)
3. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth ariannol ar gyfer adeiladau ysgol newydd yng Nghymru? OAQ(4)0641(ESK)
4. Gwenda Thomas (Castell-nedd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarpariaeth addysgol ar gyfer plant sydd â chynlluniau gofal a chymorth? OAQ(4)0643(ESK)
5. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Pa ddylanwad sydd gan y Gweinidog ar faint o athrawon cyflenwi sy'n cael eu talu i gyflenwi ar ran cydweithwyr sy'n absennol? OAQ(4)0646(ESK)
6. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am raglen Ysgolion y 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ(4)0635(ESK)
7. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am addysg ôl-16 yn Abertawe? OAQ(4)0634(ESK)
8. Jeff Cuthbert (Caerffili):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarpariaethau ar gyfer addysgu pynciau STEM yn y ddogfen, 'Cwricwlwm i Gymru, Cwricwlwm am Oes'? OAQ(4)0638(ESK)
9. Lynne Neagle (Torfaen): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am amserlenni mewn perthynas â darpariaeth ôl-16 yn Nhorfaen? OAQ(4)0645(ESK)
10. Janet Haworth (Gogledd Cymru):A wnaiff y Gweinidog roi manylion yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hwyluso profiad gwaith effeithiol i ddisgyblion ysgol? OAQ(4)0636(ESK)
11. Russell George (Sir Drefaldwyn):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y newidiadau arfaethedig i ddyddiadau derbyn i ysgolion cynradd yng nghanolbarth Cymru? OAQ(4)0640(ESK)
12. Keith Davies (Llanelli): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am absenoldeb athrawon? OAQ(4)0642(ESK)
13. Altaf Hussain (Gorllewin De Cymru):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cwricwlwm newydd arfaethedig yng Nghymru? OAQ(4)0644(ESK)