Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Gofynnwyd cwestiynau 1 i 2, 4 i 11 a 13 i 15.
Cafodd cwestiynau 2 a 10 eu grwpio. Tynnwyd cwestiwnnau 3
a 12 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r
Gweinidog Cyfoeth Naturiol a’r Dirprwy Wenidog Ffermio a Bwyd ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.18 Gofynnwyd y 10 cwestiwn
cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r
Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar ei Ymchwiliad i Gynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer yr M4 o amgylch Casnewydd NDM5601
Alun Ffred Jones (Arfon) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd
ar ei Ymchwiliad i gynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer yr M4 o amgylch
Casnewydd, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Gorffennaf 2014. Nodyn: Gosodwyd yr ymateb gan Lywodraeth Cymru ar 14
Hydref 2014. Dogfennau
Ategol Adroddiad
y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd Penderfyniad: Dechreuodd
yr eitem am 15.04 NDM5601 Alun Ffred Jones (Arfon) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor
Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar ei Ymchwiliad i gynigion Llywodraeth Cymru ar
gyfer yr M4 o amgylch Casnewydd, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21
Gorffennaf 2014. Derbyniwyd y cynnig yn unol â
Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM5604
Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi, er gwaethaf y cyllid ychwanegol ar gyfer
prentisiaethau yn y ddau gytundeb diwethaf ar y gyllideb, fod toriadau yn ystod
y flwyddyn o £10.7 miliwn wedi gadael darparwyr dysgu yn nhir neb. 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i nodi nifer y
prentisiaethau a grëwyd ers 2011. 3. Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i sicrhau y bydd
yr astudiaeth derfynol o gylch gorchwyl Twf Swyddi Cymru yn cynnwys gwerthusiad
o'r sgiliau a ddatblygodd cyfranogwyr. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le: Yn croesawu cyhoeddiad cyllidebol Democratiaid
Rhyddfrydol Cymru a Llywodraeth Cymru o £10 miliwn ychwanegol i ddarparu tua
5,000 o brentisiaethau newydd dros y ddwy flynedd nesaf. Gwelliant 2 - Elin Jones (Ceredigion) Cynnwys pwynt 2 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny: Yn cydnabod yr effaith sylweddol a chadarnhaol a gafodd y
cytundeb ar gyllideb 2013/14 rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru ar bobl
ifanc ac yn gresynu at benderfyniad y Llywodraeth i gymryd cam yn ôl a thorri'r
Rhaglen Recriwtiaid Newydd. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.46 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM5604 Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi, er gwaethaf y
cyllid ychwanegol ar gyfer prentisiaethau yn y ddau gytundeb diwethaf ar y
gyllideb, fod toriadau yn ystod y flwyddyn o £10.7 miliwn wedi gadael darparwyr
dysgu yn nhir neb. 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i nodi nifer y prentisiaethau a grëwyd ers 2011. 3. Yn galw ymhellach ar
Lywodraeth Cymru i sicrhau y bydd yr astudiaeth derfynol o gylch gorchwyl Twf
Swyddi Cymru yn cynnwys gwerthusiad o'r sgiliau a ddatblygodd cyfranogwyr.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le: Yn croesawu cyhoeddiad cyllidebol Democratiaid
Rhyddfrydol Cymru a Llywodraeth Cymru o £10 miliwn ychwanegol i ddarparu tua
5,000 o brentisiaethau newydd dros y ddwy flynedd nesaf. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gwelliant
2 - Elin Jones (Ceredigion) Cynnwys pwynt 2 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny: Yn cydnabod yr effaith sylweddol a chadarnhaol a gafodd y
cytundeb ar gyllideb 2013/14 rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru ar bobl
ifanc ac yn gresynu at benderfyniad y Llywodraeth i gymryd cam yn ôl a thorri'r
Rhaglen Recriwtiaid Newydd. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 2:
Gwrthodwyd gwelliant 2. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM5604 Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn
croesawu cyhoeddiad cyllidebol Democratiaid Rhyddfrydol Cymru a Llywodraeth
Cymru o £10 miliwn ychwanegol i ddarparu tua 5,000 o brentisiaethau newydd dros
y ddwy flynedd nesaf. 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i nodi nifer y prentisiaethau a grëwyd ers 2011. 3. Yn galw ymhellach ar
Lywodraeth Cymru i sicrhau y bydd yr astudiaeth derfynol o gylch gorchwyl Twf
Swyddi Cymru yn cynnwys gwerthusiad o'r sgiliau a ddatblygodd cyfranogwyr.
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru NDM5606
Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi'r amodau economaidd sy'n gynyddol anodd i
ffermwyr; 2. Yn gresynu at benderfyniad Llywodraeth Cymru i
drosglwyddo'r uchafswm o 15% o golofn 1 i golofn 2 o'r Polisi Amaethyddol
Cyffredin. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) cynyddu ei hymdrechion i leihau biwrocratiaeth yn y
diwydiant; b) cymryd camau ymarferol a chyflym i gefnogi'r sectorau
cig coch a llaeth yng Nghymru; ac c) cyflwyno cynllun Ardaloedd â Chyfyngiadau
Naturiol i helpu'r rhai sy'n ffermio o
dan yr amgylchiadau mwyaf heriol. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys pwynt 1 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny: Yn nodi proffil oedran uchel ffermwyr Cymru ac yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gymryd camau i wella prosesau cynllunio ar gyfer olyniaeth a
ffermio ar y cyd. Gwelliant
2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys pwynt 2 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny: Yn gresynu at y ffaith nad oes Ardal â Chyfyngiadau
Naturiol benodedig yn rhan o'r Cynllun Datblygu Gwledig; penderfyniad sydd â'i
wreiddiau mewn dewisiadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru'n Un. Gwelliant
3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu at benderfyniad Llywodraeth Cymru i dorri'r
gyllideb Amaethyddiaeth a Bwyd o 17.8% a'r gyllideb Iechyd Anifeiliaid o 20.7%
yng Nghyllideb Ddrafft 2015-16. Gwelliant
4 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adfer swydd benodol yn y
Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros Amaethyddiaeth a Bwyd. Gwelliant
5 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i gefnogi cod
ymarfer gwirfoddol ar gyfer archfarchnadoedd i neilltuo rhan amlwg o'u
harwynebedd llawr ar gyfer cig ansawdd uchel o Gymru sydd â statws Dynodiad
Daearyddol Gwarchodedig a chig Tractor Coch Prydeinig. Gwelliant
6 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn credu y byddai lleoli lladd-dy cig eidion a chig oen
yng ngogledd Cymru yn sicrhau cynaliadwyedd cynhyrchu cig coch yng ngogledd
Cymru. Gwelliant
7 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y
DU i ddiwygio'r ardoll hybu cig er mwyn sicrhau bod yr ardoll yn daladwy i'r
wlad lle cafodd yr anifail ei eni. Gwelliant
8 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod canran uwch o'r
cynnyrch a brynir drwy brosesau caffael cyhoeddus yn dod o Gymru. Gwelliant
9 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar gylch gorchwyl yr adolygiad annibynnol o'r
diwydiant llaeth yng Nghymru i gynnwys datblygu cynllun gweithredu strategol
cynhwysfawr i gefnogi'r diwydiant llaeth. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16.36 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM5606 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi'r amodau economaidd
sy'n gynyddol anodd i ffermwyr; 2. Yn gresynu at benderfyniad
Llywodraeth Cymru i drosglwyddo'r uchafswm o 15% o golofn 1 i golofn 2 o'r
Polisi Amaethyddol Cyffredin. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i: a) cynyddu ei hymdrechion i
leihau biwrocratiaeth yn y diwydiant; b) cymryd camau ymarferol a
chyflym i gefnogi'r sectorau cig coch a llaeth yng Nghymru; ac c) cyflwyno cynllun Ardaloedd
â Chyfyngiadau Naturiol i helpu'r rhai
sy'n ffermio o dan yr amgylchiadau mwyaf heriol.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys pwynt 1 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny: Yn nodi proffil oedran uchel ffermwyr Cymru ac yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gymryd camau i wella prosesau cynllunio ar gyfer olyniaeth a
ffermio ar y cyd. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gwelliant
2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys pwynt 2 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny: Yn gresynu at y ffaith nad oes Ardal â Chyfyngiadau
Naturiol benodedig yn rhan o'r Cynllun Datblygu Gwledig; penderfyniad sydd â'i
wreiddiau mewn dewisiadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru'n Un. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 2:
Gwrthodwyd gwelliant 2. Gwelliant
3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu at benderfyniad Llywodraeth Cymru i dorri'r
gyllideb Amaethyddiaeth a Bwyd o 17.8% a'r gyllideb Iechyd Anifeiliaid o 20.7%
yng Nghyllideb Ddrafft 2015-16. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 3:
Gwrthodwyd gwelliant 3. Gwelliant
4 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adfer swydd benodol yn y
Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros Amaethyddiaeth a Bwyd. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 4:
Gwrthodwyd gwelliant 4. Gwelliant
5 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i gefnogi cod
ymarfer gwirfoddol ar gyfer archfarchnadoedd i neilltuo rhan amlwg o'u
harwynebedd llawr ar gyfer cig ansawdd uchel o Gymru sydd â statws Dynodiad
Daearyddol Gwarchodedig a chig Tractor Coch Prydeinig. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 5:
Gwrthodwyd gwelliant 5. Gwelliant
6 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn credu y byddai lleoli lladd-dy cig eidion a chig oen
yng ngogledd Cymru yn sicrhau cynaliadwyedd cynhyrchu cig coch yng ngogledd
Cymru. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 6:
Gwrthodwyd gwelliant 6. Gwelliant
7 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y
DU i ddiwygio'r ardoll hybu cig er mwyn sicrhau bod yr ardoll yn daladwy i'r
wlad lle cafodd yr anifail ei eni. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 7:
Derbyniwyd gwelliant 7. Gwelliant
8 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod canran uwch o'r
cynnyrch a brynir drwy brosesau caffael cyhoeddus yn dod o Gymru. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 8:
Derbyniwyd gwelliant 8. Gwelliant
9 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar gylch gorchwyl yr adolygiad annibynnol o'r
diwydiant llaeth yng Nghymru i gynnwys datblygu cynllun gweithredu strategol
cynhwysfawr i gefnogi'r diwydiant llaeth. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 9:
Gwrthodwyd gwelliant 9. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM5606 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi proffil oedran uchel ffermwyr Cymru ac yn galw
ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau i wella prosesau cynllunio ar gyfer
olyniaeth a ffermio ar y cyd. 2. Yn nodi'r amodau economaidd
sy'n gynyddol anodd i ffermwyr; 3. Yn gresynu at benderfyniad
Llywodraeth Cymru i drosglwyddo'r uchafswm o 15% o golofn 1 i golofn 2 o'r
Polisi Amaethyddol Cyffredin. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i: a) cynyddu ei hymdrechion i
leihau biwrocratiaeth yn y diwydiant; b) cymryd camau ymarferol a
chyflym i gefnogi'r sectorau cig coch a llaeth yng Nghymru; ac c) cyflwyno cynllun Ardaloedd
â Chyfyngiadau Naturiol i helpu'r rhai
sy'n ffermio o dan yr amgylchiadau mwyaf heriol. 5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth
y DU i ddiwygio'r ardoll hybu cig er mwyn sicrhau bod yr ardoll yn daladwy i'r
wlad lle cafodd yr anifail ei eni. 6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod canran uwch
o'r cynnyrch a brynir drwy brosesau caffael cyhoeddus yn dod o Gymru.
Gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM5603
Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod pwysigrwydd porthladdoedd i economi Cymru. 2. Yn nodi y gallai cynnydd mewn morgludiant byr ym
mhorthladdoedd Cymru sicrhau manteision yn y tymor hir. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu'r wybodaeth
ddiweddaraf am ei gwaith gyda WEFO ar ddatblygiadau isadeiledd a rôl
porthladdoedd yn y gadwyn gyflenwi ynni adnewyddadwy. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys pwynt 2 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny: Yn nodi'r pryderon a fynegwyd gan Borthladdoedd
Cysylltiedig Prydain y gallai llwybr du arfaethedig yr M4 gael effaith
ddifrifol ar fasnach yn Nociau Casnewydd. Gwelliant
2 - Elin Jones (Ceredigion) Cynnwys pwynt 3 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny: Yn croesawu argymhelliad y Comisiwn ar Ddatganoli yng
Nghymru bod y cyfrifoldeb dros borthladdoedd yn cael ei ddatganoli i'r
Cynulliad Cenedlaethol. Gwelliant 3 - Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi statws Caergybi yn rhaglen TEN-T yr Undeb
Ewropeaidd fel porthladd cynhwysfawr yn hytrach na phorthladd Ewropeaidd
craidd, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried pob opsiwn er mwyn sicrhau
nad yw'r statws eilradd hwn yn ei rwystro rhag tyfu. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 17.36 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM5603 Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod pwysigrwydd
porthladdoedd i economi Cymru. 2. Yn nodi y gallai cynnydd
mewn morgludiant byr ym mhorthladdoedd Cymru sicrhau manteision yn y tymor hir.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf am ei gwaith gyda WEFO ar ddatblygiadau
isadeiledd a rôl porthladdoedd yn y gadwyn gyflenwi ynni adnewyddadwy.
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 18.30 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer Lynne
Neagle (Torfaen) Ffrindiau Dementia - Gweithio tuag at gymunedau sy'n
ystyriol o ddementia ledled Cymru Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 18.36 NDM5607 Lynne Neagle (Torfaen) Ffrindiau Dementia - Gweithio
tuag at gymunedau sy'n ystyriol o ddementia ledled Cymru |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol:
|