Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg a Sgiliau Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Gofynnwyd yr 11 cwestiwn cyntaf. Cafodd cwestiynau 2 a
6 eu grwpio. Atebwyd cwestiynau 4, 7 a 10 gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau a
Thechnoleg. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.16 Gofynnwyd y 15 cwestiwn. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan y Prif Weinidog: Ymgyrch Jasmine Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.56 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) NNDM5358
Joyce
Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Mark
Isherwood (Gogledd Cymru) Suzy
Davies (Gorllewin De Cymru) Jenny
Rathbone (Canol Caerdydd) Aled
Roberts (Gogledd Cymru) Rhodri
Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi â phryder difrifol: a) yr achosion o droseddwyr yn targedu plant agored i niwed
er mwyn cam-fanteisio’n rhywiol arnynt; b) bod plant sydd ar goll o ofal yn wynebu perygl penodol o
gam-fanteisio rhywiol; c) y dystiolaeth nad yw awdurdodau lleol yng Nghymru hyd yma
yn gweithredu’n llawn ganllawiau Llywodraeth Cymru i ddiogelu plant sy'n mynd
ar goll o ofal; d) y gall yr arfer o leoli y tu allan i ardal olygu bod plant
sy'n derbyn gofal yn wynebu mwy o berygl o gamdriniaeth a cham-fanteisio. 2. Yn cymeradwyo gwaith Prosiect Plant ar Goll Gwent ac yn
nodi'r angen am ddata cymaradwy, cyson a dibynadwy ar yr achosion o blant sy'n
derbyn gofal sy'n mynd ar goll o gartrefi plant a gofal maeth. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.10 NNDM5358 Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Mark Isherwood (Gogledd Cymru) Suzy Davies (Gorllewin De Cymru) Jenny Rathbone (Canol Caerdydd) Aled Roberts (Gogledd Cymru) Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi â phryder difrifol: a) yr achosion o droseddwyr yn targedu plant agored i
niwed er mwyn cam-fanteisio’n rhywiol arnynt; b) bod plant sydd ar goll o ofal yn wynebu perygl
penodol o gam-fanteisio rhywiol; c) y dystiolaeth nad yw awdurdodau lleol yng Nghymru hyd
yma yn gweithredu’n llawn ganllawiau Llywodraeth Cymru i ddiogelu plant sy'n
mynd ar goll o ofal; d) y gall yr arfer o leoli y tu allan i ardal olygu bod
plant sy'n derbyn gofal yn wynebu mwy o berygl o gamdriniaeth a cham-fanteisio. 2. Yn cymeradwyo gwaith Prosiect Plant ar Goll Gwent ac
yn nodi'r angen am ddata cymaradwy, cyson a dibynadwy ar yr achosion o blant
sy'n derbyn gofal sy'n mynd ar goll o gartrefi plant a gofal maeth. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM5380
William Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod: a) pwysigrwydd y BBC ym mywyd Cymru fel rhan o’r cyfryngau
amrywiol; b) yr angen i adnewyddu'r siarter sy'n adlewyrchu'r setliad datganoli
presennol a'r setliad datganoli sy'n datblygu; a c) y cyfraniad arloesol y mae'r BBC a darlledwyr cyhoeddus
eraill yn ei wneud i ddiwylliant Cymru, y Gymraeg a'r economi. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: NDM5380 Gwelliant
1 - Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 1: yr angen i ddiogelu cyllid priodol ar gyfer S4C Gwelliant
2 - Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 1: yr angen i ddatganoli pwerau darlledu pellach i Gymru. Gwelliant
3 - Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gwahodd BBC Cymru Wales i roi tystiolaeth yn flynyddol i'r
Cynulliad Cenedlaethol ynghylch sut y mae'n gofalu am fuddiannau pobl Cymru, a sut
y mae'n adlewyrchu'r setliad datganoli presennol sy’n newid. Gwelliant
4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn credu mai Llywodraeth Cymru ddylai fod yn gyfrifol am
benodi aelodau Cymru y BBC ac Ofcom. Gwelliant
5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru gael mwy o ran yn y broses
o benodi pobl i swyddi uwch yn S4C. Gwelliant
6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn credu y dylai trwyddedu radio cymunedol gael ei ddatganoli
i Gymru. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.54 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr
eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM5380 William Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod: a) pwysigrwydd y BBC ym mywyd Cymru fel rhan o’r
cyfryngau amrywiol; b) yr angen i adnewyddu'r siarter sy'n adlewyrchu'r
setliad datganoli presennol a'r setliad datganoli sy'n datblygu; a c) y cyfraniad arloesol y mae'r BBC a darlledwyr cyhoeddus
eraill yn ei wneud i ddiwylliant Cymru, y Gymraeg a'r economi.
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru NDM5379
Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi: a) mai'r bwlch cyllido a amcangyfrifir rhwng y galw am gyllid
gan fusnesau Cymru a'r cyflenwad presennol o'r sector bancio yw £500 miliwn; b) bod ardrethi annomestig yn cyfrif am gyfran sylweddol o
gostau gweithredu ar gyfer microfusnesau a busnesau bach; c) bod cynnydd o 1% yng nghyfradd contractau caffael y sector
cyhoeddus sy'n mynd i fusnesau Cymru yn creu 2,000 o swyddi newydd; a d) bod adnoddau naturiol Cymru yn cynnig cryn botensial ar
gyfer budd economaidd. 2. Yn gresynu: a) mai’r GYC y pen yng Nghymru yw'r isaf o blith pob un o
wledydd y DU sef cyfradd o 75.2% o ffigur y DU; b) bod dulliau macro-economaidd yn aros yn nwylo Aelodau
Seneddol yn Senedd y DU ond yn cydnabod bod gan Lywodraeth Cymru rôl sylweddol
i'w chwarae o ran tyfu economi Cymru; c) absenoldeb dangosyddion economaidd cyfredol i Gymru; d) methiant Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â diweithdra a
thangyflogaeth; a e) methiant cyrff y sector cyhoeddus i weithredu Polisi
Llywodraeth Cymru ar gaffael. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) cyhoeddi cynllun cynhwysfawr a hirdymor ar gyfer tyfu
economi Cymru; b) bwysleisio i’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yr angen i ddarparu
dangosyddion economaidd rheolaidd a mynych i Gymru; c) mabwysiadu polisi Plaid Cymru i estyn rhyddhad ardrethi
busnesau bach i bob busnes â gwerth ardrethol o £15,000 neu lai; a d) archwilio manteision sefydlu banc datblygu busnes
cyhoeddus, hyd braich, nid er elw i'w ddosbarthu. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys is-bwynt 1a) newydd ac ailrifo yn unol â hynny: y twf yng Nghynnyrch Mewnwladol Crynswth y DU yn 2013; Gwelliant
2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys is-bwynt 1a) newydd ac ailrifo yn unol â hynny: bod 29.8% o bobl Cymru yn cael eu cyflogi yn y sector
cyhoeddus, sy’n uwch na 23.5%, sef cyfartaledd y DU. Gwelliant
3 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnwys is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 1: bod economi’r DU wedi cynyddu 0.8% yn ystod trydydd chwarter
2013, sy’n pwysleisio llwyddiant polisi economaidd Llywodraeth y DU. Gwelliant
4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys is-bwynt 2a) newydd ac ailrifo yn unol â hynny: bod oddeutu 200,000 o fusnesau bach a chanolig yng Nghymru yn
cael trafferth cael gafael ar gyllid, yn ôl adroddiad Cam 1 o’r ‘Adolygiad o’r
Cyllid sydd ar gael i Fusnesau yng Nghymru’ gan yr Athro Dylan Jones-Evans. Gellir gweld yr ‘Adolygiad o’r Cyllid sydd ar gael i Fusnesau
yng Nghymru’ yn: http://wales.gov.uk/topics/businessandeconomy/publications/accesstofinance/?skip=1&lang=cy Gwelliant
5 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Dileu is-bwynt 2b) a rhoi yn ei le: methiant Llywodraeth Cymru i ddefnyddio’r ysgogiadau
economaidd sylweddol sydd ar gael iddi er mwyn sbarduno twf yn economi Cymru; Gwelliant
6 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Dileu is-bwynt 2e). Gwelliant
7 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Dileu is-bwynt 3c) a rhoi yn ei le: mabwysiadu polisi’r Ceidwadwyr Cymreig i ymestyn rhyddhad
ardrethi i fusnesau bach sydd â gwerth ardrethol o hyd at £12,000, a darparu
rhyddhad sy’n lleihau’n raddol i’r rheini sydd â gwerth ardrethol o hyd at
£15,000; [Os
derbynnir gwelliant 7, bydd gwelliant 8 yn cael ei ddad-ddethol] Gwelliant
8 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Dileu is-bwynt 3c) a rhoi yn ei le: ymestyn rhyddhad ardrethi busnes i bob busnes sydd â gwerth
ardrethol o £15,000 neu lai, ac i fwy o gyfleusterau cymunedol fel swyddfeydd
post, tafarndai a siopau annibynnol; a Gwelliant
9 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys is-bwynt 3d) newydd ac ailrifo yn unol â hynny: rhoi cyfle i awdurdodau lleol gadw cyfran o’r ardrethi busnes
y maent yn eu casglu er mwyn ysgogi twf economaidd lleol; Gwelliant
10 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Dileu is-bwynt 3d) a rhoi yn ei le: ymateb cyn gynted â phosibl i adroddiad yr Adolygiad o'r
Cyllid sydd ar gael i Fusnesau yng Nghymru – Cam 2, ac ystyried yr achos dros
ddatblygu banciau busnes rhanbarthol fel yr amlinellwyd yn ‘Buddsoddi Cymru’. Gellir gweld adroddiad yr ‘Adolygiad o’r Cyllid sydd ar gael
i Fusnesau yng Nghymru – Cam 2’ yn: http://wales.gov.uk/docs/det/publications/131121accesstofund2en.pdf Gellir gweld ‘Buddsoddi Cymru’ yn: http://yourvoiceintheassembly.co.uk/wp-content/uploads/2013/01/Buddsoddi-Cymru-FINAL1.pdf Gwelliant
11 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 3: ystyried y posibilrwydd o rannu lluosydd Cymru yn fusnesau
bach a mawr, a fyddai'n sicrhau bod y system ardrethi busnes yn deg a bod Cymru
ar yr un lefel â Lloegr a'r Alban. Gwelliant
12 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 3: sicrhau bod polisïau’r llywodraeth yn symleiddio ein
rheoliadau a’n prosesau caffael ar gyfer y sector cyhoeddus. Gwelliant
13 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 3: cefnogi mentrau cymdeithasol a busnesau llai a'u galluogi i
dyfu drwy ddadfwndelu contractau'r sector cyhoeddus yn rhannau mwy hylaw, gan
ei gwneud yn haws i'r busnesau hyn gyflwyno cynigion a chystadlu. Gwelliant
14 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 3: gweithio i godi ymwybyddiaeth ymysg busnesau o gyfleoedd
cyllid sy’n bodoli ar hyn o bryd, a gwrando ar y gymuned fusnes ynghylch ffyrdd
o wella cymorth. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16.49 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr
eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM5379 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi: a) mai'r bwlch cyllido a amcangyfrifir rhwng y galw am
gyllid gan fusnesau Cymru a'r cyflenwad presennol o'r sector bancio yw £500
miliwn; b) bod ardrethi annomestig yn cyfrif am gyfran sylweddol
o gostau gweithredu ar gyfer microfusnesau a busnesau bach; c) bod cynnydd o 1% yng nghyfradd contractau caffael y
sector cyhoeddus sy'n mynd i fusnesau Cymru yn creu 2,000 o swyddi newydd; a d) bod adnoddau naturiol Cymru yn cynnig cryn botensial
ar gyfer budd economaidd. 2. Yn gresynu: a) mai’r GYC y pen yng Nghymru yw'r isaf o blith pob un
o wledydd y DU sef cyfradd o 75.2% o ffigur y DU; b) bod dulliau macro-economaidd yn aros yn nwylo Aelodau
Seneddol yn Senedd y DU ond yn cydnabod bod gan Lywodraeth Cymru rôl sylweddol
i'w chwarae o ran tyfu economi Cymru; c) absenoldeb dangosyddion economaidd cyfredol i Gymru; d) methiant Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â
diweithdra a thangyflogaeth; a e) methiant cyrff y sector cyhoeddus i weithredu Polisi
Llywodraeth Cymru ar gaffael. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) cyhoeddi cynllun cynhwysfawr a hirdymor ar gyfer tyfu
economi Cymru; b) bwysleisio i’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yr angen i
ddarparu dangosyddion economaidd rheolaidd a mynych i Gymru; c) mabwysiadu polisi Plaid Cymru i estyn rhyddhad
ardrethi busnesau bach i bob busnes â gwerth ardrethol o £15,000 neu lai; a d) archwilio manteision sefydlu banc datblygu busnes
cyhoeddus, hyd braich, nid er elw i'w ddosbarthu.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd
Cymru) Cynnwys
is-bwynt 1a) newydd ac ailrifo yn unol â hynny: y twf
yng Nghynnyrch Mewnwladol Crynswth y DU yn 2013; Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd
Cymru) Cynnwys
is-bwynt 1a) newydd ac ailrifo yn unol â hynny: bod
29.8% o bobl Cymru yn cael eu cyflogi yn y sector cyhoeddus, sy’n uwch na
23.5%, sef cyfartaledd y DU. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 2:
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy
Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly,
gwrthodwyd y gwelliant. Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De
Cymru) Cynnwys
is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 1: bod
economi’r DU wedi cynyddu 0.8% yn ystod trydydd chwarter 2013, sy’n pwysleisio
llwyddiant polisi economaidd Llywodraeth y DU. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 3:
Gwrthodwyd gwelliant 3. Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd
Cymru) Cynnwys
is-bwynt 2a) newydd ac ailrifo yn unol â hynny: bod
oddeutu 200,000 o fusnesau bach a chanolig yng Nghymru yn cael trafferth cael
gafael ar gyllid, yn ôl adroddiad Cam 1 o’r ‘Adolygiad o’r Cyllid sydd ar gael
i Fusnesau yng Nghymru’ gan yr Athro Dylan Jones-Evans. Gellir
gweld yr ‘Adolygiad o’r Cyllid sydd ar gael i Fusnesau yng Nghymru’ yn: http://wales.gov.uk/topics/businessandeconomy/publications/accesstofinance/?skip=1&lang=cy Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 4:
Derbyniwyd gwelliant 4. Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De
Cymru) Dileu
is-bwynt 2b) a rhoi yn ei le: methiant
Llywodraeth Cymru i ddefnyddio’r ysgogiadau economaidd sylweddol sydd ar gael
iddi er mwyn sbarduno twf yn economi Cymru; Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 5:
Gwrthodwyd gwelliant 5. Gwelliant 6 - William Graham (Dwyrain De
Cymru) Dileu
is-bwynt 2e). Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 6:
Derbyniwyd gwelliant 6. Gwelliant 7 - William Graham (Dwyrain De
Cymru) Dileu
is-bwynt 3c) a rhoi yn ei le: mabwysiadu
polisi’r Ceidwadwyr Cymreig i ymestyn rhyddhad ardrethi i fusnesau bach sydd â
gwerth ardrethol o hyd at £12,000, a darparu rhyddhad sy’n lleihau’n raddol i’r
rheini sydd â gwerth ardrethol o hyd at £15,000; Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 7:
Gwrthodwyd gwelliant 7. Gwelliant 8 - Aled Roberts (Gogledd
Cymru) Dileu
is-bwynt 3c) a rhoi yn ei le: ymestyn
rhyddhad ardrethi busnes i bob busnes sydd â gwerth ardrethol o £15,000 neu
lai, ac i fwy o gyfleusterau cymunedol fel swyddfeydd post, tafarndai a siopau
annibynnol; a Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 8:
Gwrthodwyd gwelliant 8. Gwelliant 9 - Aled Roberts (Gogledd
Cymru) Cynnwys
is-bwynt 3d) newydd ac ailrifo yn unol â hynny: rhoi
cyfle i awdurdodau lleol gadw cyfran o’r ardrethi busnes y maent yn eu casglu
er mwyn ysgogi twf economaidd lleol; Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 9:
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog
6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn
y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant. Gwelliant 10 - William Graham (Dwyrain
De Cymru) Dileu
is-bwynt 3d) a rhoi yn ei le: ymateb
cyn gynted â phosibl i adroddiad yr Adolygiad o'r Cyllid sydd ar gael i
Fusnesau yng Nghymru – Cam 2, ac ystyried yr achos dros ddatblygu banciau
busnes rhanbarthol fel yr amlinellwyd yn ‘Buddsoddi Cymru’. Gellir
gweld adroddiad yr ‘Adolygiad o’r Cyllid sydd ar gael i Fusnesau yng Nghymru –
Cam 2’ yn: http://wales.gov.uk/docs/det/publications/131121accesstofund2en.pdf Gellir
gweld ‘Buddsoddi Cymru’ yn: http://yourvoiceintheassembly.co.uk/wp-content/uploads/2013/01/Buddsoddi-Cymru-FINAL1.pdf Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 10:
Derbyniwyd gwelliant 10. Gwelliant 11 - William Graham (Dwyrain
De Cymru) Ychwanegu
is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 3: ystyried
y posibilrwydd o rannu lluosydd Cymru yn fusnesau bach a mawr, a fyddai'n
sicrhau bod y system ardrethi busnes yn deg a bod Cymru ar yr un lefel â Lloegr
a'r Alban. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 11:
Derbyniwyd gwelliant 11. Gwelliant 12 - William Graham (Dwyrain
De Cymru) Ychwanegu
is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 3: sicrhau
bod polisïau’r llywodraeth yn symleiddio ein rheoliadau a’n prosesau caffael ar
gyfer y sector cyhoeddus. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 12:
Derbyniwyd gwelliant 12. Gwelliant 13 - Aled Roberts (Gogledd
Cymru) Ychwanegu
is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 3: cefnogi
mentrau cymdeithasol a busnesau llai a'u galluogi i dyfu drwy ddadfwndelu
contractau'r sector cyhoeddus yn rhannau mwy hylaw, gan ei gwneud yn haws i'r
busnesau hyn gyflwyno cynigion a chystadlu. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 13:
Derbyniwyd gwelliant 13. Gwelliant 14 - Aled Roberts (Gogledd
Cymru) Ychwanegu
is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 3: gweithio
i godi ymwybyddiaeth ymysg busnesau o gyfleoedd cyllid sy’n bodoli ar hyn o
bryd, a gwrando ar y gymuned fusnes ynghylch ffyrdd o wella cymorth. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 14:
Derbyniwyd gwelliant 14. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM5379
Elin Jones (Ceredigion) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn
nodi: a) y
twf yng Nghynnyrch Mewnwladol Crynswth y DU yn 2013; b) mai'r
bwlch cyllido a amcangyfrifir rhwng y galw am gyllid gan fusnesau Cymru a'r
cyflenwad presennol o'r sector bancio yw £500 miliwn; c)
bod ardrethi annomestig yn cyfrif am gyfran sylweddol o gostau gweithredu ar
gyfer microfusnesau a busnesau bach; d) bod
cynnydd o 1% yng nghyfradd contractau caffael y sector cyhoeddus sy'n mynd i
fusnesau Cymru yn creu 2,000 o swyddi newydd; ac e)
bod adnoddau naturiol Cymru yn cynnig cryn botensial ar gyfer budd economaidd. 2. Yn
gresynu: a)
bod oddeutu 200,000 o fusnesau bach a chanolig yng Nghymru yn cael trafferth
cael gafael ar gyllid, yn ôl adroddiad Cam 1 o’r ‘Adolygiad o’r Cyllid sydd ar
gael i Fusnesau yng Nghymru’ gan yr Athro Dylan Jones-Evans. b)
mai’r GYC y pen yng Nghymru yw'r isaf o blith pob un o wledydd y DU sef cyfradd
o 75.2% o ffigur y DU; c)
bod dulliau macro-economaidd yn aros yn nwylo Aelodau Seneddol yn Senedd y DU
ond yn cydnabod bod gan Lywodraeth Cymru rôl sylweddol i'w chwarae o ran tyfu
economi Cymru; d)
absenoldeb dangosyddion economaidd cyfredol i Gymru; ac e)
methiant Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â diweithdra a thangyflogaeth; a 3. Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i: a)
cyhoeddi cynllun cynhwysfawr a hirdymor ar gyfer tyfu economi Cymru; b)
bwysleisio i’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yr angen i ddarparu dangosyddion
economaidd rheolaidd a mynych i Gymru; c)
mabwysiadu polisi Plaid Cymru i estyn rhyddhad ardrethi busnesau bach i bob
busnes â gwerth ardrethol o £15,000 neu lai; d)
ymateb cyn gynted â phosibl i adroddiad yr Adolygiad o'r Cyllid sydd ar gael i
Fusnesau yng Nghymru – Cam 2, ac ystyried yr achos dros ddatblygu banciau
busnes rhanbarthol fel yr amlinellwyd yn ‘Buddsoddi Cymru’; e)
ystyried y posibilrwydd o rannu lluosydd Cymru yn fusnesau bach a mawr, a
fyddai'n sicrhau bod y system ardrethi busnes yn deg a bod Cymru ar yr un lefel
â Lloegr a'r Alban; f)
sicrhau bod polisïau’r llywodraeth yn symleiddio ein rheoliadau a’n prosesau
caffael ar gyfer y sector cyhoeddus; g)
cefnogi mentrau cymdeithasol a busnesau llai a'u galluogi i dyfu drwy
ddadfwndelu contractau'r sector cyhoeddus yn rhannau mwy hylaw, gan ei gwneud
yn haws i'r busnesau hyn gyflwyno cynigion a chystadlu; a h)
gweithio i godi ymwybyddiaeth ymysg busnesau o gyfleoedd cyllid sy’n bodoli ar
hyn o bryd, a gwrando ar y gymuned fusnes ynghylch ffyrdd o wella cymorth.
Gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Dechreuodd yr eitem am 17.47 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM5378 Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Yr “hun-lun”
cenedlaethol: pam mae geiriadur cenedlaethol Cymraeg yn helpu
i ddiffinio’r genedl Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 17.55 NDM5378 Simon Thomas (Canolbarth a
Gorllewin Cymru): Yr “hun-lun”
cenedlaethol: pam mae geiriadur cenedlaethol Cymraeg yn helpu i ddiffinio’r
genedl |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |