Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Bydd
y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif
Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Gofynnwyd y 10 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr
y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar
ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.22 |
|||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Cyllid: Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru i Hybu Twf a Swyddi – Adroddiad Blynyddol 2013 Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.33 |
|||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Datganiad Polisi ar Addysg Uwch Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.08 |
|||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Rheoliadau Prentisiaethau (Amodau Cwblhau Cymreig Amgen) 2013 NDM5261 Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â Rheol
Sefydlog 27.5: Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Rheoliadau
Prentisiaethau (Amodau Cwblhau Cymreig Amgen) 2013 yn cael ei lunio yn unol â’r
fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Mai 2013. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.51 NDM5261 Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â Rheol
Sefydlog 27.5: Yn
cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o’r Rheoliadau Prentisiaethau (Amodau Cwblhau Cymreig
Amgen) 2013 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 14 Mai 2013. Derbyniwyd y cynnig yn unol
â Rheol Sefydlog 12.36.
|
|||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Gorchymyn Cyrff Cyhoeddus (Diddymu’r Cyngor Cyfiawnder Gweinyddol a Thribiwnlysoedd) 2013 NDM5131
Carwyn Jones (Pen-y-Bont ar
Ogwr) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru yn cytuno, yn unol
ag adran 9(6) o Ddeddf Cyrff Cyhoeddus
2011, bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn gwneud Gorchymyn y Cyrff Cyhoeddus (Diddymu’r Cyngor Cyfiawnder Gweinyddol a Thribiwnlysoedd)
2013, yn unol â’r drafft a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Ionawr
2013. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.52 NDM5131
Carwyn Jones (Pen-y-Bont ar
Ogwr) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru yn cytuno, yn unol
ag adran 9(6) o Ddeddf Cyrff Cyhoeddus
2011, bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn gwneud Gorchymyn y Cyrff Cyhoeddus (Diddymu’r Cyngor Cyfiawnder Gweinyddol a Thribiwnlysoedd)
2013, yn unol â’r drafft a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Ionawr
2013. Derbyniwyd y cynnig yn unol
â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl: Y frech goch a phwysigrwydd rhaglenni brechu NDM5260 Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi’r ymateb i’r achosion diweddar o’r frech goch;
a 2. Yn cydnabod pwysigrwydd rhaglenni brechu plant. Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu fel pwynt 2 newydd ac ailrifo'n unol â hynny: Yn mynegi ei ddiolch i staff gweithgar Bwrdd Iechyd
Abertawe Bro Morgannwg a swyddogion cyhoeddus eraill yn Abertawe ac mewn mannau
eraill am y gwaith y maent wedi ei wneud wrth fynd i'r afael â'r achosion o'r
frech goch. Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw am ymholiad cyhoeddus llawn ac annibynnol er mwyn
dysgu gwersi yn sgîl yr achosion hyn, ac i leihau’r tebygrwydd o ragor o
achosion yn y dyfodol. Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn mynegi pryder ynghylch arferion rhai cwmnïau preifat o
ran marchnata brechlynnau heb eu trwyddedu a phresgripsiwn yn unig, ac am yr
honiadau camarweiniol a wnaethpwyd gan rai clinigau brechiad sengl ynghylch y
brechlyn MMR cyfun. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.59 NDM5260 Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi’r ymateb i’r achosion diweddar o’r frech goch;
a 2.
Yn cydnabod pwysigrwydd rhaglenni brechu plant. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu fel pwynt 2 newydd ac ailrifo'n unol â hynny: Yn
mynegi ei ddiolch i staff gweithgar Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg a
swyddogion cyhoeddus eraill yn Abertawe ac mewn mannau eraill am y gwaith y
maent wedi ei wneud wrth fynd i'r afael â'r achosion o'r frech goch. Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a gweddill y gwelliannau o dan yr eitem hon
tan y Cyfnod Pleidleisio. Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
galw am ymholiad cyhoeddus llawn ac annibynnol er mwyn dysgu gwersi yn sgîl yr
achosion hyn, ac i leihau’r tebygrwydd o ragor o achosion yn y dyfodol. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Gwrthodwyd gwelliant 2. Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
mynegi pryder ynghylch arferion rhai cwmnïau preifat o ran marchnata
brechlynnau heb eu trwyddedu a phresgripsiwn yn unig, ac am yr honiadau
camarweiniol a wnaethpwyd gan rai clinigau brechiad sengl ynghylch y brechlyn
MMR cyfun. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Derbyniwyd gwelliant 3. Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM5260 Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi’r ymateb i’r achosion diweddar o’r frech goch;
a 2.
Yn mynegi ei ddiolch i staff gweithgar Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg a
swyddogion cyhoeddus eraill yn Abertawe ac mewn mannau eraill am y gwaith y
maent wedi ei wneud wrth fynd i'r afael â'r achosion o'r frech goch. 3. Yn cydnabod pwysigrwydd rhaglenni brechu plant. 4. Yn mynegi pryder ynghylch arferion rhai cwmnïau preifat o ran marchnata brechlynnau heb eu trwyddedu a phresgripsiwn yn unig, ac am yr honiadau camarweiniol a wnaethpwyd gan rai clinigau brechiad sengl ynghylch y brechlyn MMR cyfun.
Derbyniwyd y cynnig
wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Dechreuodd yr eitem am 16.37 Cafodd y cyfarfod ei ohirio a’i ail-gynnull am 16.42 ar gyfer y Cyfnod
Pleidleisio. |
||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer - gohiriwyd o 8 Mai 2013 NDM5234
Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru) Gwybod am y Gwenyn: Rôl gwyddoniaeth o ran gwarchod iechyd gwenyn fel peillwyr. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16.44 NDM5234
Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru) Gwybod am y Gwenyn: Rôl gwyddoniaeth o ran gwarchod
iechyd gwenyn fel peillwyr. |
|||||||||||||||||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |