Agenda a Phenderfyniadau

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(45 munud)

1.

Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy

Dogfennau ategol:

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd yr 11 cwestiwn cyntaf. Tynnwyd cwestiwn 12 yn ôl. Trosglwyddwyd cwestiwn 13 i’w ateb yn ysgrifenedig.

(45 munud)

2.

Cwestiynau i’r Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 14.12

Gofynnwyd y naw cwestiwn cyntaf.

(60 munud)

3.

Dadl ar ymchwiliad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i ofal preswyl i bobl hŷn yng Nghymru

NDM5165 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar ei ymchwiliad i ofal preswyl i bobl hŷn yng Nghymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Rhagfyr 2012.

Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Chwefror 2013.

Dogfennau Ategol:
Adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar ei ymchwiliad i ofal preswyl i bobl hŷn yng Nghymru

Ymateb Llywodraeth Cymru

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.00

NDM5165 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar ei ymchwiliad i ofal preswyl i bobl hŷn yng Nghymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Rhagfyr 2012.

Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Chwefror 2013.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(60 munud)

4.

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid, ‘Effeithiolrwydd Cyllid Strwythurol Ewropeaidd yng Nghymru’

NDM5166 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar Effeithiolrwydd Cyllid Strwythurol Ewropeaidd yng Nghymru a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Rhagfyr 2012.

Dogfennau Ategol:
Adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar Effeithiolrwydd Cyllid Strwythurol Ewropeaidd yng Nghymru

 

Ymateb Llywodraeth Cymru

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.45

NDM5166 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar Effeithiolrwydd Cyllid Strwythurol Ewropeaidd yng Nghymru a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Rhagfyr 2012.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(60 munud)

5.

Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

NDM5167 Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod Stats Cymru yn amcangyfrif bod 31,644 o gartrefi gwag yng Nghymru, gyda 23,287 wedi’u dosbarthu fel anheddau gwag tymor hir.

2. Yn croesawu bwriad cynllun ‘Troi Tai’n Gartrefi’ Llywodraeth Cymru, gan gynnwys y £5 miliwn ychwanegol a fuddsoddir yn y cynllun o ganlyniad i’r fargen ar y gyllideb gyda Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn 2012-13.

3. Yn croesawu’r cynnydd o ran lleihau nifer y cartrefi gwag yng Nghymru 2,000, ond yn credu bod angen gwneud rhagor i ddatblygu strategaeth tai gwag gydlynol, sy’n cynnwys:

a) creu gwefan Cartrefi Gwag Cymru i rannu cyngor a chyfarwyddyd ac i godi proffil y cynllun cartrefi gwag;

b) Swyddog Cartrefi Gwag cyfwerth ag amser llawn ym mhob awdurdod lleol i fynd â'r cynllun rhagddo;

c) symleiddio’r ddeddfwriaeth a’r gweithdrefnau sy’n ymwneud â Gorchmynion Rheoli Anheddau Gwag a Gorchmynion Prynu Gorfodol;

d) diweddaru canllawiau arfer da cartrefi gwag i awdurdodau lleol;

e) rhoi rhagor o hyblygrwydd i gynghorau osod cyfraddau’r dreth gyngor cosbol ar gartrefi gwag tymor hir;

f) hybu rhannu enghreifftiau o’r arfer gorau a hwyluso gwaith partneriaeth rhwng awdurdodau lleol; ac

g) edrych ar gynllun cymhellion i gynghorau lleol ar gyfer pob cartref sector preifat tymor hir sy’n cael ei ddefnyddio unwaith eto, yn debyg i gynllun ‘New Homes Bonus Scheme’ Llywodraeth y DU.

Ceir gwybodaeth am y cynllun Troi Tai’n Gartrefi drwy fynd i:

http://wales.gov.uk/topics/housingandcommunity/housing/private/emptyhomes/housestohomes/?skip=1&lang=cy

Ceir gwybodaeth am y New Homes Bonus Scheme drwy fynd i:

https://www.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/6004/1846530.pdf

https://www.gov.uk/government/policies/increasing-the-number-of-available-homes/supporting-pages/new-homes-bonus

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnwys pwynt 1 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

 

Yn nodi bod cartrefi gwag yn cynnig cyfle i adfywio tai sy'n rhoi hwb bwysig i'r economi.

 

Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Ychwanegu ar ddiwedd pwynt 1:

 

ac y gellid defnyddio eiddo o'r fath i liniaru ar yr angen nas diwallwyd am dai cymdeithasol'

 

Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnwys ar ddiwedd is-bwynt 3b:

 

gan gydnabod bod gan bob cartref gwag ei stori ei hun ac mai’r hyn sy’n bwysig yw bod Swyddogion Cartrefi Gwag yn deall pam ei fod yn wag, ac yn gweithio’n agos gyda’r perchennog i ddechrau ei ddefnyddio eto

 

Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnwys ar ddiwedd is-bwynt 3e:

 

drwy greu premiwm treth gyngor cartrefi gwag ar gyfer eiddo sy’n cael ei adael yn wag am dros ddwy flynedd, er mwyn bod yn sensitif i amgylchiadau unigolfel perchnogion sydd wedi cael profedigaeth neu berchnogion â phroblemau cymhleth y byddai modd, gyda chefnogaeth, ceisio’u datrys

 

Gwelliant 5 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Ychwanegu fel is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 3:

 

lobïo Llywodraeth y DU i ostwng TAW ar atgyweirio a gwneud gwelliannau i gartrefi i 5%.’

 

Gwelliant 6 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 3:

 

sicrhau bod cyllid ar gael i grwpiau cymunedol a gwirfoddol fel rhan o raglen i ddechrau defnyddio eiddo gwag eto fel tai fforddiadwy;’

 

Gwelliant 7 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 3:

 

caniatáu mwy o hyblygrwydd wrth ddefnyddio eiddo sy’n cael ei ariannu o dan y fenterTroi Tai’n Gartrefi’, er mwyn sicrhau cymaint o fudd â phosibl i’r rheini sydd mewn angen o ran tai;’

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.36

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5167 Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod Stats Cymru yn amcangyfrif bod 31,644 o gartrefi gwag yng Nghymru, gyda 23,287 wedi’u dosbarthu fel anheddau gwag tymor hir.

2. Yn croesawu bwriad cynllun ‘Troi Tai’n Gartrefi’ Llywodraeth Cymru, gan gynnwys y £5 miliwn ychwanegol a fuddsoddir yn y cynllun o ganlyniad i’r fargen ar y gyllideb gyda Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn 2012-13.

3. Yn croesawu’r cynnydd o ran lleihau nifer y cartrefi gwag yng Nghymru 2,000, ond yn credu bod angen gwneud rhagor i ddatblygu strategaeth tai gwag gydlynol, sy’n cynnwys:

a) creu gwefan Cartrefi Gwag Cymru i rannu cyngor a chyfarwyddyd ac i godi proffil y cynllun cartrefi gwag;

b) Swyddog Cartrefi Gwag cyfwerth ag amser llawn ym mhob awdurdod lleol i fynd â'r cynllun rhagddo;

c) symleiddio’r ddeddfwriaeth a’r gweithdrefnau sy’n ymwneud â Gorchmynion Rheoli Anheddau Gwag a Gorchmynion Prynu Gorfodol;

d) diweddaru canllawiau arfer da cartrefi gwag i awdurdodau lleol;

e) rhoi rhagor o hyblygrwydd i gynghorau osod cyfraddau’r dreth gyngor cosbol ar gartrefi gwag tymor hir;

f) hybu rhannu enghreifftiau o’r arfer gorau a hwyluso gwaith partneriaeth rhwng awdurdodau lleol; ac

g) edrych ar gynllun cymhellion i gynghorau lleol ar gyfer pob cartref sector preifat tymor hir sy’n cael ei ddefnyddio unwaith eto, yn debyg i gynllun ‘New Homes Bonus Scheme’ Llywodraeth y DU.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

29

0

17

46

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyfnod Pleidleisio

Dechreuodd yr eitem am 17.36

 

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol:

(30 munud)

6.

Dadl Fer

NDM5168 Lynne Neagle (Tor-faen):

Lleddfu’r Ergyd

Lliniaru Effaith y Dreth Ystafelloedd Gwely yng Nghymru

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 17.38

NDM5168 Lynne Neagle (Tor-faen):

Lleddfu’r Ergyd

Lliniaru Effaith y Dreth Ystafelloedd Gwely yng Nghymru

Cofnod y Trafodion

Dogfennau ategol: