Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Gofynnwyd yr 11 cwestiwn
cyntaf. |
|||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.16 Gofynnwyd cwestiynau 1 – 5 a 7 - 9. Tynnwyd cwestiwn 6 yn ôl. |
|||||||||
Pwynt o Drefn Dechreuodd yr eitem am 15.00 Cododd Ken Skates bwynt
o drefn o dan Reol Sefydlog 17.22 ynghylch penodi cadeirydd dros dro mewn pwyllgor
a pha mor
hir y dylai’r pwyllgor aros cyn
gwneud hynny yn absenoldeb y Cadeirydd. Dywedodd y Llywydd nad yw hyn yn bwynt
o drefn iddi hi gan fod y pwyllgorau
yn gyfrifol am eu gweithdrefnau eu hunain, gan
gynnwys penodi cadeirydd dros dro yn absenoldeb
y Cadeirydd o dan Reol Sefydlog 17.22. Nododd hefyd y dylai’r Aelodau roi gwybod
i’r clerc, fel mater o gwrteisi, os na allant fod yn
bresennol mewn pwyllgor. |
||||||||||
Cynnig i atal y Rheolau Sefydlog Dechreuodd yr eitem am 15.02 NNDM5045
Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau
Sefydlog 33.6 a 33.8: Yn atal Rheol Sefydlog 11.16 sy’n ei gwneud
yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog
11.11 yn darparu’r amserlen ar gyfer
busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol,
er mwyn caniatáu
i’r cynigion o dan eitemau 3, 4 a 5 gael eu hystyried
yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher,
18 Gorffennaf 2012. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol
Sefydlog 12.36. |
||||||||||
(15 munud) |
Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012 NDM5038 Jane Hutt
(Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: Yn cymeradwyo bod
y fersiwn drafft o’r Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012 yn
cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30
Mai 2012. Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol – Saesneg yn unig Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.02 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan
yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Mai 2012. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||
(15 munud) |
Gorchymyn Cyrff Cyhoeddus (Diddymu Arolygiaeth Gweinyddiaeth Llysoedd Ei Mawrhydi a Bwrdd y Gwarcheidwad Cyhoeddus) 2012 NDM4988 Lesley
Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru yn cytuno, yn unol ag adran 9(6) o Ddeddf Cyrff Cyhoeddus
2011, bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn gwneud y Gorchymyn Cyrff Cyhoeddus
(Diddymu Arolygiaeth Gweinyddiaeth Llysoedd Ei Mawrhydi a Bwrdd y Gwarcheidwad
Cyhoeddus) 2012 yn unol â’r drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Mai
2012. Dogfennau Ategol Dogfen
Esboniadol – Saesneg yn unig Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.17
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cytuno, yn unol ag adran 9(6) o Ddeddf Cyrff Cyhoeddus 2011, bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn gwneud y Gorchymyn Cyrff Cyhoeddus (Diddymu Arolygiaeth Gweinyddiaeth Llysoedd Ei Mawrhydi a Bwrdd y Gwarcheidwad Cyhoeddus) 2012 yn unol â’r drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Mai 2012. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. |
|||||||||
(15 munud) |
Rheoliadau Hysbysebu a Hyrwyddo Tybaco (Arddangos Prisiau) (Cymru) 2012 NDM5037 Jane Hutt
(Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: Yn cymeradwyo bod y fersiwn
drafft o’r Rheoliadau Hysbysebu a Hyrwyddo Tybaco (Arddangos Prisiau) (Cymru)
2012 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa
Gyflwyno ar 15 Mai 2012. Dogfennau Atgol Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.20 NDM5037 Jane Hutt
(Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Rheoliadau Hysbysebu a Hyrwyddo Tybaco (Arddangos Prisiau) (Cymru) 2012 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Mai 2012. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol
Sefydlog 12.36. |
|||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad Grŵp Gorchwyl a Gorffen y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar Ragolygon ar Gyfer Dyfodol y Cyfryngau yng Nghymru NDM5041 Ann Jones (Dyffryn Clwyd) Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn: Nodi adroddiad grŵp gorchwyl a gorffen y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar ragolygon ar gyfer dyfodol y cyfryngau yng Nghymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Mai 2012. Er gwybodaeth, gosodwyd ymateb y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth i’r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Gorffennaf 2012. Dogfennau ategol: Adroddiad grŵp gorchwyl a gorffen y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol Ymateb y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.26
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn: Nodi adroddiad grŵp gorchwyl a gorffen y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar ragolygon ar gyfer dyfodol y cyfryngau yng Nghymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Mai 2012. Er gwybodaeth, gosodwyd ymateb y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth i’r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Gorffennaf 2012. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol
Sefydlog 12.36. |
|||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes: Dylanwadu ar y Broses o Foderneiddio Polisi Caffael Ewrop NDM5042 Nick Ramsay (Mynwy) Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi Adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes: Dylanwadu ar y broses o Foderneiddio Polisi Caffael Ewrop, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Mai 2012. Yn nodi: Ymateb y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ i’r adroddiad a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Gorffennaf 2012. Dogfennau ategol: Adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes Penderfyniad: Dechreuodd yr
eitem am 16.20 Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi Adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes: Dylanwadu ar y broses o Foderneiddio Polisi Caffael Ewrop, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Mai 2012. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. |
|||||||||
(60 munud) |
Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru NDM5043 Aled Roberts (Gogledd Cymru) William Graham (Dwyrain De Cymru) Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Nid oes gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru hyder yn y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 17.06 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan
yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Aled Roberts (Gogledd Cymru) William Graham (Dwyrain De Cymru) Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Nid oes gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru hyder yn y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
Gwrthodwyd y cynnig. |
|||||||||
Cyfnod Pleidleisio Dechreuodd y Cyfnod Pleidleisio am 18.04 |
||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM5044 Aled Roberts
(Gogledd Cymru): Dyslecsia ac Ysgolion:
Cydweithio i Wneud Gwahaniaeth. Mae angen cefnogaeth ar holl
ddisgyblion Cymru i ddatblygu
eu sgiliau llythrennedd, ac mae’n hanfodol bod pobl ifanc sydd â dyslecsia
yn gallu cael yr asesiadau,
yr ymyriadau a’r cymorth ychwanegol
priodol y bydd eu hangen arnynt
yn ystod eu cyfnod yn
yr ysgol. Mae’r ffordd y mae athrawon
yn defnyddio eu sgiliau, eu
dulliau a’u cymwyseddau gyda phobl ifanc sydd
â dyslecsia yn hollbwysig a gall wneud byd o wahaniaeth i gyfleoedd bywyd plentyn. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 18.06
Mae angen cefnogaeth ar holl ddisgyblion Cymru i ddatblygu eu sgiliau llythrennedd, ac mae’n hanfodol bod pobl ifanc sydd â dyslecsia yn gallu cael yr asesiadau, yr ymyriadau a’r cymorth ychwanegol priodol y bydd eu hangen arnynt yn ystod eu cyfnod yn yr ysgol. Mae’r ffordd y mae athrawon yn defnyddio eu sgiliau, eu dulliau a’u cymwyseddau gyda phobl ifanc sydd â dyslecsia yn hollbwysig a gall wneud byd o wahaniaeth i gyfleoedd bywyd plentyn. |
|||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |