Ymchwiliad i ddylanwadu ar y broses o foderneiddio polisi caffael Ewrop
Ymchwiliad i ddylanwadu ar y broses o foderneiddio polisi caffael Ewrop
Ar ôl i’r Comisiwn Ewropeaidd
gyhoeddi ei gynigion ar gyfer diwygio deddfwriaeth ynghylch caffael cyhoeddus
ym mis Rhagfyr 2011, bu’r grŵp gorchwyl a gorffen yn trafod sut y
gallai'r newidiadau arfaethedig hyn effeithio ar gaffael cyhoeddus yng Nghymru
a sut y gallent fynd i'r afael â materion fel:
- cynyddu nifer y busnesau bach a chanolig, gan gynnwys
mentrau cymdeithasol, sy’n ymgysylltu â’r maes caffael cyhoeddus;
- defnyddio caffael cyhoeddus i ddiwallu amcanion
polisi eraill, fel polisïau cymdeithasol ac amgylcheddol;
- cymhlethdodau a hyblygrwydd y system gaffael
gyhoeddus.
Roedd y Pwyllgor wedi gwahoddi
sylwadau ar y materion canlynol:
- pa mor effeithiol yw’r rheoliadau caffael presennol o
ran y modd y maent yn cael eu gweithredu yng Nghymru, a hynny o safbwynt
cyflenwyr/contractwyr ac o safbwynt awdurdodau prynu?
- sut y byddai’r newidiadau arfaethedig i Gyfarwyddebau
perthnasol yr UE yn effeithio ar y broses caffael cyhoeddus yng Nghymru,
gan gynnwys y materion a ganlyn:
· ymgysylltiad busnesau bach a
chanolig (gan gynnwys mentrau cymdeithasol) yn y broses caffael cyhoeddus;
· defnyddio caffael cyhoeddus i
ddiwallu amcanion polisi eraill (fel polisïau cymdeithasol ac amgylcheddol);
· cymhlethdodau a hyblygrwydd
rheolau caffael presennol;
· gwerth am arian i’r awdurdod
prynu?
- sut ddylid moderneiddio cyfarwyddebau caffael yr UE
a’r rheoliadau gweithredu a’r codau ymarfer yng Nghymru, er mwyn cwrdd ag
anghenion cyflenwyr/contractwyr ac awdurdodau prynu Cymreig, ac er mwyn
gwneud y mwyaf o gapasiti cwmnïau Cymreig i gwrdd â’r heriau sydd ynghlwm
â rheolau caffael? Yn benodol, sut
ddylid ail-lunio rheoliadau a/neu ganllawiau ar gyfer contractau nad ydynt
yn cyrraedd y trothwyon caffael a bennir gan gyfarwyddebau’r UE?
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Cyhoeddwyd gyntaf: 14/04/2016
Dogfennau
- Adroddiad Dylanwadu ar y Broses o Foderneiddio Polisi Caffael Ewrop - Mai 2012 PDF 601 KB
- * Ymateb Llywodraeth Cymru ar adroddiad Dylanwadu ar y Broses o Foderneiddio Polisi Caffael Ewrop - Gorffennaf 2012 PDF 96 KB Gweld fel HTML (2) 51 KB
- Ymateb i'r ymgynghoriad - EPP01 - The Institution of Civil Engineers (Saesneg yn Unig) PDF 67 KB Gweld fel HTML (3) 16 KB
- Ymateb i'r ymgynghoriad - EPP02 - Richard Gaunt (Saesneg yn Unig) PDF 153 KB Gweld fel HTML (4) 49 KB
- Ymateb i'r Ymgynghoriad - EPP03 - Cymdeithas Feddygol Prydain (Saesneg yn Unig) PDF 3 MB
- Ymateb i'r ymgynghoriad - EPP04 - The Wales Construction Federation Alliance (Saesneg yn Unig) PDF 76 KB Gweld fel HTML (6) 17 KB
- Ymateb i'r Ymgynghoriad - EPP05 - Canolfan Cydweithredol Cymru (Saesneg yn Unig) PDF 93 KB Gweld fel HTML (7) 17 KB
- Ymateb i'r Ymgynghoriad - EPP06 - Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (Saesneg yn Unig) PDF 90 KB Gweld fel HTML (8) 21 KB
- Ymateb i'r Ymgynghoriad - EPP07 - Bwrdd yr Iaith Gymraeg PDF 2 MB
- Ymateb i'r Ymgynghoriad - EPP08 - Peter Davies (Saesneg yn Unig) PDF 42 KB Gweld fel HTML (10) 9 KB
- Ymateb i'r Ymgynghoriad - EPP09 - Fforwm Adeiladu Gogledd Cymru (Saesneg yn Unig) PDF 47 KB
- Ymateb i'r Ymgynghoriad - EPP10 - Rathbone Cymru (Saesneg yn Unig) PDF 113 KB Gweld fel HTML (12) 11 KB
- Ymateb i'r Ymgynghoriad - EPP11 - Fforwm Adeiladu De-ddwyrain Cymru (Saesneg yn Unig) PDF 78 KB Gweld fel HTML (13) 14 KB
- Ymateb i'r Ymgynghoriad - EPP12 - I2I (Saesneg yn Unig) PDF 2 MB
- Ymateb i'r Ymgynghoriad - EPP13 - Y Panel Adfywio Cenedlaethol (Saesneg yn Unig) PDF 616 KB
- Nodyn y Cyfarfod - 8 Rhagfyr 2011 PDF 121 KB Gweld fel HTML (16) 37 KB
- Nodyn y Cyfarfod - 19 Ionawr 2012 PDF 118 KB Gweld fel HTML (17) 37 KB
- Nodyn y Cyfarfod - 2 Chwefror 2012 PDF 132 KB Gweld fel HTML (18) 48 KB
- Nodyn y Cyfarfod - 8 Chwefror 2012 PDF 139 KB Gweld fel HTML (19) 48 KB
- Nodyn y Cyfarfod - 23 Chwefror 2012 PDF 125 KB Gweld fel HTML (20) 55 KB
- Nodyn y Cyfarfod - 14 Mawrth 2012 PDF 120 KB Gweld fel HTML (21) 39 KB