Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(60 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 13.30. Gofynnwyd cwestiynau 1-3, 5 a 7-15. Tynnwyd cwestiynau 4 ac 6 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14:22. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Lansio’r Ymgynghoriad ar Ddiwygio’r Fframwaith Deddfwriaethol ar gyfer Anghenion Addysgol Arbennig Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14:33. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol: Hygyrchedd i Gyfreithiau Cymru a Datblygu Llyfr Statud i Gymru – y wybodaeth ddiweddaraf Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15:17. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Rheoliadau Seibiannau i Ofalwyr Plant Anabl (Cymru) 2012 NDM5019 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Rheoliadau Seibiannau i Ofalwyr Plant
Anabl (Cymru) 2012 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 29 Mai 2012. Dogfennau Ategol Penderfyniad: Dechreuodd
yr eitem am 16:01 NDM5019 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: Yn
cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Rheoliadau Seibiannau i Ofalwyr Plant Anabl
(Cymru) 2012 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa
Gyflwyno ar 29 Mai 2012. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Cyllid Llywodraeth Leol NDM5002 Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn
cytuno y dylai darpariaethau’r Bil Cyllid Llywodraeth Leol i’r graddau y meant
yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cael eu
hystyried gan Senedd y DU. Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno
ar 28 Mai 2012 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii). Dogfennau Ategol Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16:14. NDM5002 Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai darpariaethau’r Bil Cyllid Llywodraeth Leol i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cael eu hystyried gan Senedd y DU. Mae Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa
Gyflwyno ar 28 Mai 2012 yn unol â Rheol
Sefydlog 29.2(iii) Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Canlyniad y bleidlais:
Derbyniwyd y
cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar Ddiwygio Gwasanaethau Cyhoeddus NDM5018 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi Agenda Diwygio’r Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod y pwysigrwydd bod Awdurdodau Lleol yn ymgysylltu â’r sector
cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector i hybu ymhellach y broses o
gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus cynaliadwy, effeithlon ac o ansawdd, sy’n cael
eu harwain gan ddefnyddwyr ledled Cymru. Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod y manteision o symleiddio gwasanaethau cyhoeddus o dan un
cynllun integredig, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau nad yw darpariaeth
gwasanaeth yn cael ei lleihau na’i hisraddio drwy’r broses hon. Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydnabod pwysigrwydd tryloywder ac
atebolrwydd ym mhob agwedd ar gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio dulliau o gynyddu hyder y cyhoedd
yng nghyswllt cyflenwi holl ddarpariaeth gwasanaethau cyhoeddus Cymru. Gwelliant 5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i leihau nifer y grantiau sydd wedi’u neilltuo
ac i drosglwyddo’r cyllid hwn i’r Grant Cymorth Refeniw ar gyfer awdurdodau
lleol fel rhan o’i Hagenda Diwygio Gwasanaethau Cyhoeddus. Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y costau i gyflenwi’r Compact ar
gyfer Newid yn cael eu talu gan Lywodraeth Cymru ac nid gan awdurdodau lleol. Gwelliant 7 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio tuag at sefydlu gwasanaeth cyhoeddus
penodol i Gymru. Dogfen Ategol Penderfyniad: Dechreuodd
yr eitem am 16:38 NDM5018 Jane Hutt
(Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn nodi
Agenda Diwygio’r Gwasanaethau
Cyhoeddus yng Nghymru. Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r
gwelliannau o dan yr eitem hon
tan y Cyfnod Pleidleisio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain
De Cymru) Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod y pwysigrwydd bod Awdurdodau Lleol yn ymgysylltu â’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector i hybu ymhellach y broses o gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus cynaliadwy, effeithlon ac o ansawdd, sy’n cael eu harwain gan ddefnyddwyr ledled Cymru. Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a gweddill y gwelliannau o dan yr eitem hon
tan y Cyfnod Pleidleisio Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain
De Cymru) Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod y manteision o symleiddio gwasanaethau cyhoeddus o dan un cynllun integredig, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau nad yw darpariaeth gwasanaeth yn cael ei lleihau na’i hisraddio drwy’r broses hon. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Gwrthodwyd gwelliant 2. Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain
De Cymru) Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydnabod pwysigrwydd tryloywder ac atebolrwydd ym mhob agwedd ar gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Derbyniwyd gwelliant 3. Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain
De Cymru) Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio dulliau o gynyddu hyder y cyhoedd yng nghyswllt cyflenwi holl ddarpariaeth gwasanaethau cyhoeddus Cymru. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
Derbyniwyd gwelliant 4. Gwelliant 5 - Aled Roberts (Gogledd
Cymru) Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i leihau nifer y grantiau sydd wedi’u neilltuo ac i drosglwyddo’r cyllid hwn i’r Grant Cymorth Refeniw ar gyfer awdurdodau lleol fel rhan o’i Hagenda Diwygio Gwasanaethau Cyhoeddus. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
Derbyniwyd gwelliant 5. Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd
Cymru) Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y costau i gyflenwi’r Compact ar gyfer Newid yn cael eu talu gan Lywodraeth Cymru ac nid gan awdurdodau lleol. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
Gwrthodwyd gwelliant 6. Gwelliant 7 - Jocelyn Davies (Dwyrain
De Cymru) Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio tuag at sefydlu gwasanaeth cyhoeddus penodol i Gymru. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
Derbyniwyd gwelliant 7. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM5018 Jane Hutt
(Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi Agenda Diwygio’r Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru. Yn cydnabod y pwysigrwydd bod Awdurdodau Lleol yn ymgysylltu â’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector i hybu ymhellach y broses o gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus cynaliadwy, effeithlon ac o ansawdd, sy’n cael eu harwain gan ddefnyddwyr ledled Cymru. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydnabod pwysigrwydd tryloywder ac atebolrwydd ym mhob agwedd ar gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio dulliau o gynyddu hyder y cyhoedd yng nghyswllt cyflenwi holl ddarpariaeth gwasanaethau cyhoeddus Cymru. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i leihau nifer y grantiau sydd wedi’u neilltuo ac i drosglwyddo’r cyllid hwn i’r Grant Cymorth Refeniw ar gyfer awdurdodau lleol fel rhan o’i Hagenda Diwygio Gwasanaethau Cyhoeddus. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio tuag at sefydlu gwasanaeth cyhoeddus penodol i Gymru.
Derbyniwyd y
cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Dechreuodd y Cyfnod Pleidleisio am 17.30 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |