Cyfarfodydd

NDM7842 Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 01/12/2021 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 5)

Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) – Diagnosis a thriniaeth canser

NDM7842 Mabon ap Gwynfor (Dwyfor Meirionnydd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn croesawu dull gweithredu llwybr canser sengl Llywodraeth Cymru.

2. Yn cydnabod:

a) mai canser yw prif achos marwolaeth yng Nghymru a bod 19,600 o bobl yn cael diagnosis o ganser bob blwyddyn yng Nghymru (2016-2018).

b) bod COVID-19 wedi gwaethygu'r heriau sy'n wynebu gwasanaethau canser yng Nghymru, gyda thua 1,700 yn llai o bobl yn dechrau triniaeth canser rhwng Ebrill 2020 a Mawrth 2021.

c) bod amseroedd aros canser GIG Cymru ar gyfer mis Gorffennaf 2021 yn dangos mai 61.8 y cant o gleifion sy'n cael eu triniaeth gyntaf o fewn 62 diwrnod i'r dyddiad yr amheuir bod ganddynt ganser, canran llawer is na'r targed perfformiad llwybr canser tybiedig o 75 y cant.

d) hyd yn oed cyn y pandemig, fod Cymru'n profi bylchau sylweddol yn y gweithlu sy'n rhoi diagnosis o ganser ac yn ei drin, er enghraifft ym maes delweddu, endosgopi, patholeg, oncoleg nad yw'n lawfeddygol a nyrsys arbenigol.

e) heb fuddsoddiad aml-flwyddyn mewn hyfforddiant a chyflogi mwy o staff i lenwi swyddi gwag cyfredol, na fydd gan Gymru'r staff rheng flaen a'r arbenigwyr sydd eu hangen i fynd i'r afael â'r ôl-groniad canser, ymdopi â'r galw yn y dyfodol, neu wneud cynnydd tuag at uchelgeisiau i roi diagnosis a thrin mwy o ganserau yn gynnar.

f) bod Cynghrair Canser Cymru wedi beirniadu'r datganiad ansawdd ar gyfer canser, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2021, am beidio â darparu gweledigaeth glir i gefnogi gwasanaethau canser i adfer o effaith y pandemig a gwella cyfraddau goroesi ymhellach. 

g) mai Cymru fydd yr unig genedl yn y DU heb strategaeth ganser cyn bo hir, y mae Sefydliad Iechyd y Byd yn argymell bod un gan bob gwlad.

3. Yn croesawu'r cynlluniau peilot clinig diagnostig cyflym llwyddiannus ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, a bod Rhwydwaith Canser Cymru wedi darparu cyllid i bob bwrdd iechyd arall i ddatblygu clinigau diagnostig cyflym.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau nesaf ar gyfer y datganiad ansawdd ar gyfer canser, gan gynnwys targedau a mecanweithiau uchelgeisiol ar gyfer olrhain buddsoddiad cynnydd ar gyfer staff, offer a seilwaith;

b) mynd i'r afael â phrinder staff hirsefydlog o fewn gwasanaethau canser a diagnostig;

c) ystyried sut y gellid cymhwyso'r argymhellion yn adolygiad yr Athro Syr Mike Richards o wasanaethau diagnostig yn Lloegr yng Nghymru.

Cefnogwyr:
Altaf Hussain (Gorllewin De Cymru)
Cefin Campbell (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Heledd Fychan (Canol De Cymru)
James Evans (Brycheiniog a Sir Faesyfed)
Jane Dodds (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Janet Finch-Saunders (Aberconwy)
Joel James (Canol De Cymru)
Laura Anne Jones (Dwyrain De Cymru)
Luke Fletcher (Gorllewin De Cymru)
Mark Isherwood (Gogledd Cymru)
Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Peter Fox (Mynwy)
Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Rhys ab Owen (Canol De Cymru)
Sam Rowlands (Gogledd Cymru)
Siân Gwenllian (Arfon)
Sioned Williams (Gorllewin De Cymru)

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.53

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

39

15

0

54

Derbyniwyd y cynnig.