Cyfarfodydd

Penderfyniad Blynyddol ar gyfer y Chweched Senedd

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 02/03/2023 - Bwrdd Taliadau (Eitem 3)

Adolygiad Blynyddol o'r Penderfyniad ar gyfer 2023-24 - Trafodaeth gychwynnol o'r ymatebion i'r ymgynghoriad (11.15 - 12.00)


Cyfarfod: 02/03/2023 - Bwrdd Taliadau (Eitem 2)

Adolygiad Blynyddol o'r Penderfyniad ar gyfer 2023-24 - Trafodaeth gychwynnol o'r ymatebion i'r ymgynghoriad (09.35 - 11.00)

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 4
  • Cyfyngedig 5

Cofnodion:

-            Trafododd y Bwrdd yr ymatebion i’r ymgynghoriad ynghylch yr Adolygiad Blynyddol o’r Penderfyniad, i lywio penderfyniadau ynghylch y Penderfyniad ar gyfer 2023/23 a gaiff eu gwneud yng nghyfarfod y Bwrdd ar 16 Mawrth.


Cyfarfod: 08/12/2022 - Bwrdd Taliadau (Eitem 4)

Eitem i wneud penderfyniad yn ei chylch: Adolygiad blynyddol o'r Penderfyniad (10:45 - 12:00)

·       Paper 4 - Cover paper

·       Paper 4a - Ways of working

·       Paper 4b – Allowances

·       Paper 4c - Salaries

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 8
  • Cyfyngedig 9
  • Cyfyngedig 10
  • Cyfyngedig 11

Cofnodion:

-       Bu'r Bwrdd yn ystyried newidiadau posibl i'r Penderfyniad ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf (2023-24) at ddibenion ymgynghori.

-       Cytunodd y Bwrdd ar ei ddull o ymgynghori a fydd yn cael ei gyhoeddi ar 9 Ionawr ac a fydd yn rhedeg tan 9 Chwefror.

-       Cytunodd y Bwrdd i gynnal cyfarfod rhithwir ychwanegol yn fuan ar ôl diwedd y cyfnod ymgynghori i ystyried yr ymatebion a ddaeth i law – ac unrhyw newidiadau sydd eu hangen i’w gynigion yn sgil ymatebion o’r fath – cyn cyfarfod ym mis Mawrth i gytuno ar newidiadau terfynol i’r Penderfyniad ar gyfer 2023-24.


Cyfarfod: 04/03/2021 - Bwrdd Taliadau (Eitem 2)

Adolygiad o'r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Senedd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1        Gwahoddodd y Cadeirydd y Clerc i gyflwyno papur yn crynhoi’r ymatebion a gafwyd i ymgynghoriad y Bwrdd ar newidiadau i'r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Senedd.  Yn ogystal, cyflwynodd y Clerc y Penderfyniad a’r adroddiad drafft ar yr adolygiad o'r Penderfyniad i’r Bwrdd i’w cymeradwyo.

 

2.2        Esgusododd y Cadeirydd ei hun o ail hanner y trafodion ar gyfer yr eitem hon. Cytunodd y Bwrdd y byddai Mike Redhouse yn  Cadeirio'r cyfarfod yn ei habsenoldeb.

 

2.3        Trafododd y Bwrdd newidiadau arfaethedig i'r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Senedd, a chytunodd arnynt. Roedd y newidiadau dan sylw yn cynnwys y canlynol:

 

·         Cytunodd y Bwrdd i ddefnyddio’r cyflog sydd wedi'i rewi ar gyfer 2020-21 fel y cyflog sylfaenol ar gyfer y Chweched Senedd;

·         Cytunodd y Bwrdd i gymhwyso'r cynnydd o 2.4 y cant sy’n gysylltiedig â mynegai’r Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion (mynegai ASHE), i'r cyflog sylfaenol hwnnw, a hynny o ddechrau'r Chweched Senedd; 

·         Cytunodd y Bwrdd i gyflwyno mecanwaith 'cap a choler' at ddibenion mynegeio cyflogau’r Aelodau. Byddai hyn yn cyflwyno terfyn uchaf blynyddol o 3 y cant o ran y cynnydd sy’n gysylltiedig â mynegai ASHE, ac yn diystyru unrhyw ostyngiad llai na sero y cant i godiadau cyflog Aelodau a deiliad swyddi ychwanegol yn y Chweched Senedd;

·         Cytunodd y Bwrdd fod y trefniadau cyfredol ar gyfer gwariant ar lety preswyl yn ddigonol;

·         Cytunodd y Bwrdd i ddileu cyfeiriadau at Frwsel mewn darpariaethau sy'n ymwneud â theithio i'r Undeb Ewropeaidd;

·         Cytunodd y Bwrdd ar gynigion ar gyfer trosglwyddo costau deunydd ysgrifennu a fyddai'n caniatáu i'r Aelodau hawlio yn ôl o’r lwfans hwn unrhyw gostau sy'n deillio o newid enw'r sefydliad;

·         Cytunodd y Bwrdd i gael gwared ar ganllawiau ychwanegol ar gyfer y Gronfa Polisi ac Ymchwil a Chyfathrebu, ac i gynnwys y terfyn amser ar gyfer defnydd o’r fath ym Mhennod 8 o'r Penderfyniad (cymorth i bleidiau). Yn ogystal, cytunodd y Bwrdd i fewnosod paragraff yn y Penderfyniad yn nodi'n glir na chaniateir defnyddio'r Gronfa Polisi ac Ymchwil a Chyfathrebu i dalu costau yn ymwneud ag argraffu ac arwyddion;

·         Cytunodd y Bwrdd ar gynigion i gyflwyno cyfraniadau cyfatebol gan y cyflogwr i'r cynllun pensiwn ar gyfer staff cymorth, ac i annog staff i fanteisio ar y ddarpariaeth newydd;

·         Cytunodd y Bwrdd ar gynigion i ddiwygio'r diffiniad o blaid wleidyddol;

·         Cytunodd y Bwrdd i fewnosod paragraffau newydd yn y Penderfyniad i alluogi staff cymorth i gael amser i ffwrdd o’r gwaith i gyflawni dyletswyddau cyhoeddus, fel gwasanaethu ar reithgor.

 

2.4        Trafododd y Bwrdd y Penderfyniad ar gyfer y Chweched Senedd a'r adroddiad cysylltiedig, a chytunodd arnynt, yn amodol ar y gwelliannau uchod.

 

2.5        Cytunodd y Bwrdd ar ei strategaeth gyhoeddi a chyfathrebu ynghylch y Penderfyniad ar gyfer y Chweched Senedd a'r adroddiad cysylltiedig.

 

2.6        Trafododd y Bwrdd yr ymatebion a gafwyd i’r ymgynghoriad ar y contract staff cymorth. Gwahoddodd y Cadeirydd Joanna Adams i gyflwyno’r materion a oedd yn weddill i'w datrys.

2.7        Trafododd y Bwrdd newidiadau arfaethedig i'r contract staff cymorth a chytunodd i anfon llythyr at yr holl  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2


Cyfarfod: 10/12/2020 - Bwrdd Taliadau (Eitem 2)

Adolygiad blynyddol o'r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Senedd

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 20
  • Cyfyngedig 21
  • Cyfyngedig 22
  • Cyfyngedig 23
  • Cyfyngedig 24

Cofnodion:

2.1      Cytunodd y bwrdd i ohirio’r drafodaeth ar gymorth mewn perthynas â diogelwch yr Aelodau tan y cyfarfod nesaf. Cytunwyd y byddai’r materion hyn yn cael eu trafod fel rhan o drafodaeth strategol ehangach ar y cymorth mewn perthynas â diogelwch a roddir i Aelodau o’r Chweched Senedd.

2.2      Trafododd y bwrdd gynigion ar gyfer cynnal ymgynghoriad fel rhan o’r adolygiad blynyddol o’r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Senedd. Cytunodd y bwrdd ar y cynigion a ganlyn:

·         O gofio’r amgylchiadau economaidd presennol, ar ôl rhewi cyflogau’r Aelodau yn 2019/20, mae’r bwrdd yn cynnig:

o   ar gyfer cyflogau 2020/21, fod penderfyniad y bwrdd i rewi cyflogau ar gyfradd 2019/20 yn parhau (hynny yw, peidio â chynyddu cyflogau 4.4 y cant, sef y cynnydd mewn enillion cyfartalog a gafwyd gan weithwyr eraill yng Nghymru yn y flwyddyn berthnasol);

o   ar gyfer cyflogau 2021/22, i gynyddu’r cyflogau sylfaenol a gafodd eu rhewi 2.4 y cant, sef y cynnydd a gafwyd gan weithwyr eraill yng Nghymru yn y flwyddyn berthnasol – mae hyn yn golygu mai cyflog sylfaenol Aelodau ar ddechrau’r Chweched Senedd fydd £69,273, yn hytrach na’r £72,321 a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2020; a

o   chyflwyno uchafswm o 3 y cant o ran cynnydd mewn cyflog blynyddol, yn gysylltiedig â mynegai’r Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion, a gwrthod unrhyw ostyngiad o dan sero y cant i gyflogau’r Aelodau a deiliaid unrhyw swyddi ychwanegol yn y Chweched Senedd.

·         Peidio â gwneud unrhyw newidiadau i’r lwfans Gwariant ar Lety Preswyl ar gyfer y Chweched Senedd.

·         Dileu unrhyw gyfeiriadau at yr Undeb Ewropeaidd, neu roi’r term priodol yn lle’r cyfeiriadau hyn yn ôl yr angen, yn narpariaethau’r Penderfyniad ynghylch teithiau gan Aelodau.

·         Symud costau deunyddiau ysgrifennu mewn ffordd niwtral o ran cost o Gomisiwn y Senedd at Gronfa Costau Swyddfa a Chysylltu ag Etholwyr. I adlewyrchu hyn, bydd lwfans y Gronfa Costau Swyddfa a Chysylltu ag Etholwyr yn cynyddu £1,800 i £20,060 (neu £6,712 lle bo Aelod yn gweithio o Dŷ Hywel yn unig) ar gyfer dechrau’r Chweched Senedd.

·         Bydd Aelodau sy’n dychwelyd yn gallu hawlio costau sy’n deillio o newid enw’r sefydliad i’r Senedd o’r Gronfa Costau Swyddfa a Chysylltu ag Etholwyr.

·         Gwella cynllun pensiwn staff cymorth drwy gyflwyno cyfraniad cyfatebol gan y cyflogwr, lle bydd y cyflogwr yn talu swm sy’n gyfatebol i gyfraniad y cyflogai hyd at uchafswm o 3 y cant o gyflog y cyflogai;

·         O ran cyflogau staff cymorth Aelodau o’r Senedd yn ystod y Chweched Senedd, cyflwyno uchafswm o 3 y cant o ran cynnydd mewn cyflog blynyddol, yn ôl mynegai’r Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion, a gwrthod unrhyw ostyngiad o dan sero y cant.

·         Dileu’r angen am ganllawiau ychwanegol gan y bwrdd ynghylch y Gronfa Polisi, Ymchwil a Chyfathrebu. Fel sy’n digwydd gyda’r holl wariant o dan y Penderfyniad, bydd Rheolau a Chanllawiau’r Swyddog Cyfrifyddu ynghylch Defnyddio Adnoddau’r Senedd yn berthnasol. Fel diwygiad canlyniadol, mae’r bwrdd yn cynnig cynnwys terfyn amser cyfatebol o bedwar mis cyn etholiad cyffredinol yn y Penderfyniad ynghylch polisi ac ymchwil o  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2