Agenda item

Adolygiad o'r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Senedd

Cofnodion:

2.1        Gwahoddodd y Cadeirydd y Clerc i gyflwyno papur yn crynhoi’r ymatebion a gafwyd i ymgynghoriad y Bwrdd ar newidiadau i'r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Senedd.  Yn ogystal, cyflwynodd y Clerc y Penderfyniad a’r adroddiad drafft ar yr adolygiad o'r Penderfyniad i’r Bwrdd i’w cymeradwyo.

 

2.2        Esgusododd y Cadeirydd ei hun o ail hanner y trafodion ar gyfer yr eitem hon. Cytunodd y Bwrdd y byddai Mike Redhouse yn  Cadeirio'r cyfarfod yn ei habsenoldeb.

 

2.3        Trafododd y Bwrdd newidiadau arfaethedig i'r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Senedd, a chytunodd arnynt. Roedd y newidiadau dan sylw yn cynnwys y canlynol:

 

·         Cytunodd y Bwrdd i ddefnyddio’r cyflog sydd wedi'i rewi ar gyfer 2020-21 fel y cyflog sylfaenol ar gyfer y Chweched Senedd;

·         Cytunodd y Bwrdd i gymhwyso'r cynnydd o 2.4 y cant sy’n gysylltiedig â mynegai’r Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion (mynegai ASHE), i'r cyflog sylfaenol hwnnw, a hynny o ddechrau'r Chweched Senedd; 

·         Cytunodd y Bwrdd i gyflwyno mecanwaith 'cap a choler' at ddibenion mynegeio cyflogau’r Aelodau. Byddai hyn yn cyflwyno terfyn uchaf blynyddol o 3 y cant o ran y cynnydd sy’n gysylltiedig â mynegai ASHE, ac yn diystyru unrhyw ostyngiad llai na sero y cant i godiadau cyflog Aelodau a deiliad swyddi ychwanegol yn y Chweched Senedd;

·         Cytunodd y Bwrdd fod y trefniadau cyfredol ar gyfer gwariant ar lety preswyl yn ddigonol;

·         Cytunodd y Bwrdd i ddileu cyfeiriadau at Frwsel mewn darpariaethau sy'n ymwneud â theithio i'r Undeb Ewropeaidd;

·         Cytunodd y Bwrdd ar gynigion ar gyfer trosglwyddo costau deunydd ysgrifennu a fyddai'n caniatáu i'r Aelodau hawlio yn ôl o’r lwfans hwn unrhyw gostau sy'n deillio o newid enw'r sefydliad;

·         Cytunodd y Bwrdd i gael gwared ar ganllawiau ychwanegol ar gyfer y Gronfa Polisi ac Ymchwil a Chyfathrebu, ac i gynnwys y terfyn amser ar gyfer defnydd o’r fath ym Mhennod 8 o'r Penderfyniad (cymorth i bleidiau). Yn ogystal, cytunodd y Bwrdd i fewnosod paragraff yn y Penderfyniad yn nodi'n glir na chaniateir defnyddio'r Gronfa Polisi ac Ymchwil a Chyfathrebu i dalu costau yn ymwneud ag argraffu ac arwyddion;

·         Cytunodd y Bwrdd ar gynigion i gyflwyno cyfraniadau cyfatebol gan y cyflogwr i'r cynllun pensiwn ar gyfer staff cymorth, ac i annog staff i fanteisio ar y ddarpariaeth newydd;

·         Cytunodd y Bwrdd ar gynigion i ddiwygio'r diffiniad o blaid wleidyddol;

·         Cytunodd y Bwrdd i fewnosod paragraffau newydd yn y Penderfyniad i alluogi staff cymorth i gael amser i ffwrdd o’r gwaith i gyflawni dyletswyddau cyhoeddus, fel gwasanaethu ar reithgor.

 

2.4        Trafododd y Bwrdd y Penderfyniad ar gyfer y Chweched Senedd a'r adroddiad cysylltiedig, a chytunodd arnynt, yn amodol ar y gwelliannau uchod.

 

2.5        Cytunodd y Bwrdd ar ei strategaeth gyhoeddi a chyfathrebu ynghylch y Penderfyniad ar gyfer y Chweched Senedd a'r adroddiad cysylltiedig.

 

2.6        Trafododd y Bwrdd yr ymatebion a gafwyd i’r ymgynghoriad ar y contract staff cymorth. Gwahoddodd y Cadeirydd Joanna Adams i gyflwyno’r materion a oedd yn weddill i'w datrys.

2.7        Trafododd y Bwrdd newidiadau arfaethedig i'r contract staff cymorth a chytunodd i anfon llythyr at yr holl Aelodau a’u staff yn amlinellu’r newidiadau i'r contract, gan gynnwys manylion ynghylch sut a phryd y byddant yn dod i rym.