Penderfyniad Blynyddol ar gyfer y Chweched Senedd

Penderfyniad Blynyddol ar gyfer y Chweched Senedd

Adolygiad o’r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Senedd


Cefndir


Mae Bwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd (y Bwrdd) yn gorff annibynnol sy’n gyfrifol am sicrhau bod
y taliadau a'r adnoddau cywir ar gael i Aelodau o’r Senedd (yr Aelodau) fel y gallant ymgymryd â'u rôl gan ddangos gwerth am arian i'r pwrs cyhoeddus. Mae manylion llawn am swyddogaethau a chyfrifoldebau'r Bwrdd wedi'u nodi yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 ac ym Mesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau) 2010.

Mae cyfres o egwyddorion a ddiffiniwyd yn glir yn sail i waith y Bwrdd:

  • dylai'r cymorth ariannol a'r taliadau i'r Aelodau gefnogi diben strategol y Senedd a hwyluso gwaith ei Aelodau;
  • mae'n rhaid i benderfyniadau fod yn briodol yng nghyd-destun enillion yng Nghymru ac amgylchiadau ariannol ehangach Cymru;
  • rhaid i'r system cymorth ariannol i'r Aelodau fod yn gadarn, yn glir, yn dryloyw ac yn gynaliadwy, a rhaid iddi gynnig gwerth am arian i drethdalwyr.

 

Cyhoeddodd y Bwrdd ei Benderfyniad ar gyfer y Chweched Senedd ar 4 Mehefin 2020, tua blwyddyn cyn etholiad cyffredinol Cymru yn 2021, i roi gwybod i ddarpar ymgeiswyr am y cyflog, y cymorth a'r lwfansau a fyddai ar gael iddynt pe baent yn cael eu hethol.

Mae'r Bwrdd yn adolygu'r Penderfyniad bob blwyddyn i sicrhau bod y darpariaethau a amlinellir yn parhau i fod yn berthnasol os bydd yr amgylchiadau'n newid (er enghraifft, uwchraddio lwfansau ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf), a’u bod yn adlewyrchu’r profiad a fagwyd gan y Bwrdd wrth weithredu ei benderfyniadau. Mae'r adolygiad hwn yn adlewyrchu'r broses flynyddol a gynhelir gan y Bwrdd, ond mae hefyd yn trafod materion na chawsant eu datrys yn yr adolygiad blaenorol ar gyfer y Chweched Senedd, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad ar yr adolygiad hwnnw. Mae effaith pandemig COVID-19 wedi dylanwadu ymhellach ar y trafodaethau hyn.

Nodir isod y cylch gorchwyl ar gyfer yr adolygiad hwn o'r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Senedd:

  • pa mor addas yw lefel y cymorth a ddarperir yn y Penderfyniad;
  • hyblygrwydd, rhagnodoldeb a hygyrchedd y darpariaethau;
  • gonestrwydd, atebolrwydd, rhesymoldeb a thryloywder y gwariant sydd ar gael.

 

 

Methodoleg

Er mwyn sicrhau bod pob penderfyniad yn dryloyw, yn atebol ac yn adlewyrchu amgylchiadau ariannol ehangach Cymru, trafododd y Bwrdd ddarpariaethau penodol yn y Penderfyniad ar gyfer y Chweched Senedd ar y cyflogau, y cymorth a’r lwfansau a ddarperir i’r Aelodau o’u cymharu â ffynonellau gwybodaeth eraill, gan gynnwys:

  • sut y mae Aelodau wedi defnyddio'r lwfansau amrywiol hyd yn hyn yn y Pumed Senedd;
  • cymariaethau â'r cymorth sydd ar gael i gynrychiolwyr etholedig yn neddfwrfeydd eraill y DU; a
  • chymariaethau ag amryw fesurau eraill yn y sector cyhoeddus yng Nghymru ac economi ehangach Cymru. 

 

Mae gweddill y ddogfen hon yn amlinellu trafodaethau’r Bwrdd ynghylch y darpariaethau a’r cynigion ar gyfer ymgynghoriad.

 

 

Sut i gyflwyno ymateb

Os hoffech gyflwyno ymateb i ymgynghoriad y Bwrdd Taliadau, gallwch wneud hynny drwy anfon eich ymatebion i’r cyfeiriad a ganlyn:

Post:

Clerc y Bwrdd Taliadau,
Senedd Cymru,
Bae Caerdydd,
Caerdydd CF99 1SN

E-bost: taliadau@senedd.cymru

Mae'r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ymatebion bellach wedi mynd heibio.



Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Bwrdd Taliadau;

Cyhoeddwyd gyntaf: 16/12/2020

Dogfennau

Ymgynghoriadau