Agenda item
Adolygiad blynyddol o'r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Senedd
- Cyfarfod Bwrdd Taliadau (Preifat), Dydd Iau, 10 Rhagfyr 2020 09.30 (Item 2.)
- Gwybodaeth gefndir i eitem 2.
Cofnodion:
2.1 Cytunodd
y bwrdd i ohirio’r drafodaeth ar gymorth mewn perthynas â diogelwch yr Aelodau
tan y cyfarfod nesaf. Cytunwyd y byddai’r materion hyn yn cael eu trafod fel
rhan o drafodaeth strategol ehangach ar y cymorth mewn perthynas â diogelwch a
roddir i Aelodau o’r Chweched Senedd.
2.2
Trafododd y bwrdd gynigion ar gyfer cynnal ymgynghoriad
fel rhan o’r adolygiad blynyddol o’r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Senedd.
Cytunodd y bwrdd ar y cynigion a ganlyn:
·
O gofio’r amgylchiadau economaidd presennol, ar ôl rhewi
cyflogau’r Aelodau yn 2019/20, mae’r bwrdd yn cynnig:
o
ar gyfer cyflogau 2020/21, fod penderfyniad y bwrdd i
rewi cyflogau ar gyfradd 2019/20 yn parhau (hynny yw, peidio â chynyddu
cyflogau 4.4 y cant, sef y cynnydd mewn enillion cyfartalog a gafwyd gan
weithwyr eraill yng Nghymru yn y flwyddyn berthnasol);
o
ar gyfer cyflogau 2021/22, i gynyddu’r cyflogau sylfaenol
a gafodd eu rhewi 2.4 y cant, sef y cynnydd a gafwyd gan weithwyr eraill yng
Nghymru yn y flwyddyn berthnasol – mae hyn yn golygu mai cyflog sylfaenol
Aelodau ar ddechrau’r Chweched Senedd fydd £69,273, yn hytrach na’r £72,321 a
gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2020; a
o
chyflwyno uchafswm o 3 y cant o ran cynnydd mewn cyflog
blynyddol, yn gysylltiedig â mynegai’r Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion, a
gwrthod unrhyw ostyngiad o dan sero y cant i gyflogau’r Aelodau a deiliaid
unrhyw swyddi ychwanegol yn y Chweched Senedd.
·
Peidio â gwneud unrhyw newidiadau i’r lwfans Gwariant ar
Lety Preswyl ar gyfer y Chweched Senedd.
·
Dileu unrhyw gyfeiriadau at yr Undeb Ewropeaidd, neu
roi’r term priodol yn lle’r cyfeiriadau hyn yn ôl yr angen, yn narpariaethau’r
Penderfyniad ynghylch teithiau gan Aelodau.
·
Symud costau deunyddiau ysgrifennu mewn ffordd niwtral o
ran cost o Gomisiwn y Senedd at Gronfa Costau Swyddfa a Chysylltu ag Etholwyr.
I adlewyrchu hyn, bydd lwfans y Gronfa Costau Swyddfa a Chysylltu ag Etholwyr
yn cynyddu £1,800 i £20,060 (neu £6,712 lle bo Aelod yn gweithio o Dŷ
Hywel yn unig) ar gyfer dechrau’r Chweched Senedd.
·
Bydd Aelodau sy’n dychwelyd yn gallu hawlio costau sy’n deillio
o newid enw’r sefydliad i’r Senedd o’r Gronfa Costau Swyddfa a Chysylltu ag
Etholwyr.
·
Gwella cynllun pensiwn staff cymorth drwy gyflwyno
cyfraniad cyfatebol gan y cyflogwr, lle bydd y cyflogwr yn talu swm sy’n
gyfatebol i gyfraniad y cyflogai hyd at uchafswm o 3 y cant o gyflog y
cyflogai;
·
O ran cyflogau staff cymorth Aelodau o’r Senedd yn ystod
y Chweched Senedd, cyflwyno uchafswm o 3 y cant o ran cynnydd mewn cyflog
blynyddol, yn ôl mynegai’r Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion, a gwrthod
unrhyw ostyngiad o dan sero y cant.
·
Dileu’r angen am ganllawiau ychwanegol gan y bwrdd
ynghylch y Gronfa Polisi, Ymchwil a Chyfathrebu. Fel sy’n digwydd gyda’r holl
wariant o dan y Penderfyniad, bydd Rheolau a Chanllawiau’r Swyddog Cyfrifyddu
ynghylch Defnyddio Adnoddau’r Senedd yn berthnasol. Fel diwygiad canlyniadol,
mae’r bwrdd yn cynnig cynnwys terfyn amser cyfatebol o bedwar mis cyn etholiad
cyffredinol yn y Penderfyniad ynghylch polisi ac ymchwil o dan y lwfans Cymorth
i Bleidiau Gwleidyddol (mae’r terfyn amser hwn eisoes wedi’i gynnwys fel rheol
yng Nghronfa Polisi, Ymchwil a Chyfathrebu yr Aelodau, ond mae’r un terfyn
amser wedi’i nodi fel canllaw yn unig yn y lwfans Cymorth i Bleidiau
Gwleidyddol).
·
Gall Aelodau ond talu am gostau argraffu ac arwyddion o’r
Gronfa Costau Swyddfa a Chysylltu ag Etholwyr, nid y Gronfa Polisi, Ymchwil a
Chyfathrebu.
·
Mewn ymateb i’r chwyddiant mewn costau a amlygwyd yn yr
Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion a’r mynegai prisiau defnyddwyr, cynyddu’r
lwfans Cymorth i Bleidiau Gwleidyddol 1.94 y cant i £1,018,500 ar gyfer
dechrau’r Chweched Senedd.
·
Newid y diffiniad o bleidiau gwleidyddol yn yr adran
‘Dehongli’ yn y Penderfyniad fel a ganlyn:
o
“Ystyr “Plaid Wleidyddol” yw (i) grŵp o Aelodau sy’n
perthyn i’r un blaid wleidyddol sydd wedi’i chofrestru â’r Comisiwn Etholiadol
neu (ii) sydd wedi’i chydnabod fel grŵp o dan Reol Sefydlog 1.3 (ii), neu
(iii) Aelod unigol sydd wedi rhoi gwybod i’r Tîm Cymorth Busnes i’r Aelodau ei
fod yn aelod o Blaid Wleidyddol gofrestredig.”
2.3
Cytunodd y bwrdd ar amserlen ar gyfer yr ymgynghoriad.
2.4
Cytunodd y bwrdd ar y rhestr o randdeiliaid ar gyfer yr
ymgynghoriad, fel y’i trafodwyd. At hynny, nododd y bwrdd ei awydd i ymgysylltu
â Senedd Ieuenctid Cymru eto yn y dyfodol. Cytunwyd y dylid trafod hyn fel rhan
o’r trafodaethau strategol yn y dyfodol.
2.5
Cytunodd y bwrdd i gynnwys fersiwn gryno o’r hysbysiad
preifatrwydd yn y ddogfen ymgynghori, gyda linc i’r hysbysiad preifatrwydd
llawn ar ei wefan.
2.6
Cytunodd y bwrdd i’r diwygiadau i’r ddogfen ymgynghori
ddrafft.
2.7
Cytunodd y Cadeirydd i adolygu fersiwn derfynol y
datganiad i’r wasg ynghylch y ddogfen ymgynghori yn dilyn y cyfarfod.
Camau gweithredu:
- Yr
ysgrifenyddiaeth i lunio dogfen ymgynghori i’w chyhoeddi.
- Yr
ysgrifenyddiaeth i lunio llythyr ymgynghori a datganiad i’r cyfryngau i’w
cyhoeddi.