Manylion y penderfyniad
Atal hunanladdiad: Sesiwn dystiolaeth â chynrychiolwyr Byrddau Iechyd Lleol a Iechyd Cyhoeddus Cymru
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd
Statws: I'w ystyried
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Inquiry5
Roedd ymchwiliad y Pwyllgor
Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yn canolbwyntio ar atal hunanladdiad
ymhlith pobl 15 oed a hŷn yng Nghymru. Cyhoeddodd Pwyllgor y Pumed Senedd
ei adroddiad
ym mis Rhagfyr 2018. Ymatebodd
Llywodraeth Cymru ym mis Ionawr 2019.
Fel rhan o’i waith ar anghydraddoldebau
iechyd meddwl, ysgrifennodd
Pwyllgor
Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Chweched Senedd at y Dirprwy Weinidog Iechyd
Meddwl a Llesiant ar 11 Gorffennaf 2022 i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am
argymhellion Pwyllgor y Pumed Senedd. Ymatebodd
y Dirprwy Weinidog ar 26 Awst 2022.
Yn y dystiolaeth i ymchwiliad y Pwyllgor Iechyd,
Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon i unigrwydd ac
unigedd eleni, gyfeiriwyd
at broblem hunanladdiad yng Nghymru.
Bob blwyddyn yng
Nghymru, mae rhwng 300
a 350 o bobl yn lladd eu
hunain; hunanladdiad yw prif achos marwolaeth ymhlith pobl
15-44 oed. Mae tua thri o bob pedwar o'r bobl sy'n cyflawni hunanladdiad yng
Nghymru a ledled y DU yn ddynion. Mae'r ystadegau
diweddaraf ar hunanladdiad (a gyhoeddwyd ar 7 Medi 2017) yn dangos gwelliant yng Nghymru yn y
gyfradd hunanladdiadau wedi'i safoni yn ôl oedran ar gyfer dynion a menywod o
13.0 yn 2015 i 11.8 fesul 100,000 o bobl yn 2016. Ym mis Gorffennaf 2015,
lansiodd Llywodraeth Cymru Siarad
â fi 2 - Cynllun gweithredu atal hunanladdiad a hunan-niwed Cymru 2015-2020. Daeth hyn yn sgil Siarad
â fi. Cynllun Gweithredu Cenedlaethol i Leihau Hunanladdiad a Hunan-niwed yng
Nghymru 2009-2014. Noda Siarad â fi 2 fod
hunanladdiad yn un o brif heriau iechyd cyhoeddus.
Mae gan
wasanaethau iechyd meddwl rôl bwysig i'w chwarae o ran atal hunanladdiad. Nodir
blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl yng
Nghymru yn y cynllun cyflawni Law yn Llaw at Iechyd Meddwl a Law yn Llaw at Iechyd Meddwl:
Cynllun Cyflawni: 2016-19; ategir y ddarpariaeth o wasanaethau iechyd meddwl gan Fesur
Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 sydd ag ethos ataliol.
Cylch gorchwyl
Archwilio i ba raddau y mae hunanladdiad yn broblem yng
Nghymru a'r hyn y gellir ei wneud i fynd i'r afael â hi.
I gynnwys:
- Faint o broblem yw hunanladdiad yng
Nghymru a thystiolaeth am ei achosion - gan gynnwys nifer y bobl sy'n marw
trwy hunanladdiad, tueddiadau a phatrymau yn yr achosion o hunanladdiad,
bregusrwydd grwpiau penodol, a ffactorau risg sy'n dylanwadu ar ymddygiad
hunanladdol.
- Effeithiau cymdeithasol ac economaidd
hunanladdiad.
- Effeithiolrwydd dull Llywodraeth Cymru
at gyfer atal hunanladdiad - gan gynnwys y cynllun cyflawni i atal
hunanladdiad Siarad â fi 2 a'i effaith yn lleol, yn rhanbarthol ac
yn genedlaethol; effeithiolrwydd dulliau amlasiantaeth o ran atal
hunanladdiad; ymgyrchoedd ymwybyddiaeth y cyhoedd; a lleihau mynediad at
foddau o gyflawni hunanladdiad.
- Cyfraniad y gwasanaethau cyhoeddus o ran
atal hunanladdiad, a gwasanaethau iechyd meddwl yn arbennig.
- Cyfraniad cymunedau lleol a'r gymdeithas
sifil i atal hunanladdiad.
- Strategaethau a mentrau perthnasol
eraill Llywodraeth Cymru - er enghraifft Law yn Llaw at Iechyd Meddwl,
casglu data, polisïau yn ymwneud â gwytnwch a diogelwch cymunedol.
- Dulliau arloesol o
ran atal hunanladdiad.
Sesiynau
tystiolaeth
Sesiwn
dystiolaeth |
Dyddiad, Agenda a Chofnodion |
Trawsgrifiad |
Fideo |
1. Grŵp Cynghori Cenedlaethol ar
Atal Hunanladdiad a Hunan-niwed Yr Athro Ann John, Athro ym maes Iechyd y Cyhoedd a Seiciatreg,
Prifysgol Abertawe, a Chadeirydd y Grŵp Cynghori Cenedlaethol ar Atal
Hunanladdiad a Hunan-niwed |
|||
2. Mind Cymru a Connecting
with People Sara Moseley, Cyfarwyddwr, Mind Cymru Glenn Page, Uwch Swyddog Polisi ac Ymgyrchoedd, Mind Cymru Alys Cole-King, Connecting with People Alex Cotton, Connecting with People |
|||
3. ProMo-Cymru a Papyrus Stephanie Hoffman, Pennaeth Gweithredu Cymdeithasol, ProMo-Cymru Nicola Simms, Arweinydd Llinell Gymorth - Ymarfer, Ansawdd a
Gweithrediadau, ProMo-Cymru Ged Flynn, Prif Weithredwr, Papyrus |
|||
4. Coleg Brenhinol y
Therapyddion Galwedigaethol a Chymdeithas Seicolegol Prydain Genevieve Smyth, Cynghorydd Proffesiynol, Coleg Brenhinol y
Therapyddion Galwedigaethol Peter Hewin, Uwch Therapydd Galwedigaethol Dr Kathryn Walters, Seicolegydd Clinigol Ymgynghorol, Cymdeithas
Seicolegol Prydain |
|||
5. Lleng Brydeinig Frenhinol
a Combat Stress Antony Metcalfe, Rheolwr Ardal Cymru, y Lleng Brydeinig Frenhinol Paula Berry, Rheolwr Gweithrediadau Rhanbarthol – Canolog, Combat
Stress |
|||
6. Dr Sallyanne Duncan,
Prifysgol Strathclyde, a Dr Ann Luce, Prifysgol Bournemouth Dr Sallyanne Duncan, Prifysgol Strathclyde Dr Ann Luce, Prifysgol Bournemouth |
|||
7. Dr Rhiannon Evans,
Prifysgol Caerdydd Dr Rhiannon Evans, Prifysgol Caerdydd |
|||
8. Coleg Brenhinol yr
Ymarferwyr Cyffredinol Cymru Dr Rebecca Payne, Cadeirydd, Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol
Cymru Dr Jane Fenton-May, Is-gadeirydd, Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr
Cyffredinol Cymru |
|||
9. Samariaid Sarah Stone, Cyfarwyddwr Gweithredol y Samariaid yng Nghymru Emma Harris, Swyddog Polisi a Chyfathrebu Susan Francis, Swyddog Prosiect Samariaid Cymoedd De Cymru |
|||
10. Coleg Brenhinol y
Seiciatryddion yng Nghymru Yr Athro Keith Lloyd, Cadeirydd, Coleg Brenhinol y Seiciatryddion yng
Nghymru |
|||
11. Fforymau hunanladdiad
aml-asiantaeth rhanbarthol Dr Gwenllian Parry, Cadeirydd, Gweithgor Hunanladdiad a Hunan-niweidio
Gogledd Cymru Avril Bracey, Cadeirydd, Fforwm Rhanbarthol Canolbarth a De-orllewin
Cymru |
|||
12. Survivors of Bereavement
by Suicide (SOBS) Angela Samata, Llysgennad SOBS |
|||
13. Cynrychiolwyr Byrddau
Iechyd Lleol a Iechyd Cyhoeddus Cymru Nadine Morgan, Pennaeth Nyrsio Dros Dro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel
Dda Rhiannon Jones, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymunedol ac Iechyd Meddwl,
Bwrdd Iechyd Addysgu Powys Will Beer, Meddyg Ymgynghorol ym maes Iechyd Cyhoeddus, Bwrdd Iechyd
Prifysgol Aneurin Bevan Su Mably, Meddyg Ymgynghorol ym maes Iechyd Cyhoeddus, Iechyd
Cyhoeddus Cymru |
|||
14. Cynrychiolwyr y
gwasanaethau brys Y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Jonathan Drake (Heddlu De Cymru), Prif
Swyddog Arweiniol Cymru ym maes Iechyd Meddwl, Grŵp Prif Swyddogion Cymru Alison Kibblewhite, Pennaeth Lleihau Risg, Gwasanaeth Tân ac Achub De
Cymru Bleddyn Jones, Pennaeth Gorsaf, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru |
|||
15. Ymddiriedolaeth GIG
Gwasanaethau Ambiwlans Cymru Claire Bevan, Cyfarwyddwr Ansawdd, Diogelwch, Profiad Cleifion a
Nyrsio, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru Stephen Clarke, Pennaeth Iechyd Meddwl, Ymddiriedolaeth GIG
Gwasanaethau Ambiwlans Cymru Nigel Rees, Pennaeth Ymchwil ac Arloesedd, Ymddiriedolaeth GIG
Gwasanaethau Ambiwlans Cymru |
|||
16. Gwasanaeth Carchardai a
Gwasanaeth Prawf EM Kenny Brown, Cyfarwyddwr Carchardai Sector Cyhoeddus yn Ne Cymru,
Gwasanaeth Carchardai a Phrofiannaeth EM Sophie Lozano, Arweinydd Diogelwch Grŵp Carchardai, Gwasanaeth Carchardai a Phrofiannaeth EM |
|||
17. Network Rail Ian Stevens, Rheolwr Rhaglen - Atal Hunanladdiad, Network Rail Yr Uwch-arolygydd Mark Cleland, Heddlu Trafnidiaeth Prydain |
|||
18. Ysgrifennydd y Cabinet
dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Vaughan Gething AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol Ainsley Bladon, Arweinydd
Strategaeth Iechyd Meddwl, Llywodraeth Cymru Liz Davies, Uwch Swyddog Meddygol/ Dirprwy Gyfarwyddwr Iechyd Meddwl a
Grwpiau Agored i Niwed, Llywodraeth Cymru |
Cymorth a chefnogaeth
Os ydych yn ei chael yn anodd ymdopi, angen siarad â
rhywun neu’n teimlo fel eich lladd eich hun, gallwch gysylltu â’r
Samariaid.
Rhadffôn 24 awr y dydd o unrhyw ffôn ar 116 123.
Llinell Gymraeg: 0808 164 0123 (7pm-11pm, 7 diwrnod yr
wythnos)
E-bost: jo@samaritans.org
Gwefan: Samariaid
Cymru
Penderfyniadau:
2.1
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Fyrddau Iechyd Lleol ac
Iechyd Cyhoeddus Cymru.
2.2
Cytunodd Nadine Morgan i roi enghreifftiau o arfer gorau o ran hyfforddiant
staff. Cytunodd Rhiannon Jones, Will Beer a Nadine Morgan i roi data ar gyfran
y cleifion a welir o fewn pum diwrnod yn unol â chynllun cyflawni 'Law yn Llaw
at Iechyd Meddwl' ar gyfer 2016-19.
Dyddiad cyhoeddi: 15/06/2018
Dyddiad y penderfyniad: 07/06/2018
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 07/06/2018 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd
Dogfennau Cefnogol:
- Cyfyngedig Gweld rhesymau dros gyfyngu
- Papur 1 – Conffederasiwn GIG Cymru (Saesneg yn unig) PDF 1 MB
- Papur 2 – Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd ar Fro (Saesneg yn unig) PDF 375 KB Gweld fel HTML (3) 33 KB
- Papur 3 – Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg (Saesneg yn unig) PDF 247 KB Gweld fel HTML (4) 27 KB
- Papur 4 – Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (Saesneg yn unig) PDF 2 MB
- Papur 5 – Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (Saesneg yn unig) PDF 300 KB Gweld fel HTML (6) 57 KB
- Papur 6 – Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (Saesneg yn unig) PDF 194 KB Gweld fel HTML (7) 29 KB
- Papur 7 – Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf (Saesneg yn unig) PDF 502 KB Gweld fel HTML (8) 35 KB
- Papur 8 – Partneriaeth Cynllunio a Datblygu Iechyd Meddwl Powys a Phartneriaeth Plant a Phobl Ifanc Powys (Saesneg yn unig) PDF 137 KB Gweld fel HTML (9) 10 KB