Manylion y penderfyniad

Atal hunanladdiad: Sesiwn dystiolaeth â chynrychiolwyr Byrddau Iechyd Lleol a Iechyd Cyhoeddus Cymru

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd

Statws: I'w ystyried

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Diben:

Inquiry5

Roedd ymchwiliad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yn canolbwyntio ar atal hunanladdiad ymhlith pobl 15 oed a hŷn yng Nghymru. Cyhoeddodd Pwyllgor y Pumed Senedd ei adroddiad ym mis Rhagfyr 2018. Ymatebodd Llywodraeth Cymru ym mis Ionawr 2019.

Fel rhan o’i waith ar anghydraddoldebau iechyd meddwl, ysgrifennodd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Chweched Senedd at y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant ar 11 Gorffennaf 2022 i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am argymhellion Pwyllgor y Pumed Senedd. Ymatebodd y Dirprwy Weinidog ar 26 Awst 2022.

Yn y dystiolaeth i ymchwiliad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon i unigrwydd ac unigedd eleni, gyfeiriwyd at broblem hunanladdiad yng Nghymru.

Bob blwyddyn yng Nghymru, mae rhwng 300 a 350 o bobl yn lladd eu hunain; hunanladdiad yw prif achos marwolaeth ymhlith pobl 15-44 oed. Mae tua thri o bob pedwar o'r bobl sy'n cyflawni hunanladdiad yng Nghymru a ledled y DU yn ddynion. Mae'r ystadegau diweddaraf ar hunanladdiad (a gyhoeddwyd ar 7 Medi 2017) yn dangos gwelliant yng Nghymru yn y gyfradd hunanladdiadau wedi'i safoni yn ôl oedran ar gyfer dynion a menywod o 13.0 yn 2015 i 11.8 fesul 100,000 o bobl yn 2016. Ym mis Gorffennaf 2015, lansiodd Llywodraeth Cymru Siarad â fi 2 - Cynllun gweithredu atal hunanladdiad a hunan-niwed Cymru 2015-2020. Daeth hyn yn sgil Siarad â fi. Cynllun Gweithredu Cenedlaethol i Leihau Hunanladdiad a Hunan-niwed yng Nghymru 2009-2014. Noda Siarad â fi 2 fod hunanladdiad yn un o brif heriau iechyd cyhoeddus. 

Mae gan wasanaethau iechyd meddwl rôl bwysig i'w chwarae o ran atal hunanladdiad. Nodir blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru yn y cynllun cyflawni Law yn Llaw at Iechyd Meddwl a Law yn Llaw at Iechyd Meddwl: Cynllun Cyflawni: 2016-19; ategir y ddarpariaeth o wasanaethau iechyd meddwl gan Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 sydd ag ethos ataliol.

Cylch gorchwyl

Archwilio i ba raddau y mae hunanladdiad yn broblem yng Nghymru a'r hyn y gellir ei wneud i fynd i'r afael â hi. 

I gynnwys:

  • Faint o broblem yw hunanladdiad yng Nghymru a thystiolaeth am ei achosion - gan gynnwys nifer y bobl sy'n marw trwy hunanladdiad, tueddiadau a phatrymau yn yr achosion o hunanladdiad, bregusrwydd grwpiau penodol, a ffactorau risg sy'n dylanwadu ar ymddygiad hunanladdol.
  • Effeithiau cymdeithasol ac economaidd hunanladdiad.
  • Effeithiolrwydd dull Llywodraeth Cymru at gyfer atal hunanladdiad - gan gynnwys y cynllun cyflawni i atal hunanladdiad Siarad â fi 2 a'i effaith yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol; effeithiolrwydd dulliau amlasiantaeth o ran atal hunanladdiad; ymgyrchoedd ymwybyddiaeth y cyhoedd; a lleihau mynediad at foddau o gyflawni hunanladdiad.
  • Cyfraniad y gwasanaethau cyhoeddus o ran atal hunanladdiad, a gwasanaethau iechyd meddwl yn arbennig.
  • Cyfraniad cymunedau lleol a'r gymdeithas sifil i atal hunanladdiad.
  • Strategaethau a mentrau perthnasol eraill Llywodraeth Cymru - er enghraifft Law yn Llaw at Iechyd Meddwl, casglu data, polisïau yn ymwneud â gwytnwch a diogelwch cymunedol.
  • Dulliau arloesol o ran atal hunanladdiad.

 

Sesiynau tystiolaeth

 

Sesiwn dystiolaeth

Dyddiad, Agenda a Chofnodion

Trawsgrifiad

Fideo

1. Grŵp Cynghori Cenedlaethol ar Atal Hunanladdiad a Hunan-niwed

Yr Athro Ann John, Athro ym maes Iechyd y Cyhoedd a Seiciatreg, Prifysgol Abertawe, a Chadeirydd y Grŵp Cynghori Cenedlaethol ar Atal Hunanladdiad a Hunan-niwed

21 Mawrth 2018

Darllenwch y trawsgrifiad

Gwyliwch ar Senedd.tv

2. Mind Cymru a Connecting with People

Sara Moseley, Cyfarwyddwr, Mind Cymru

Glenn Page, Uwch Swyddog Polisi ac Ymgyrchoedd, Mind Cymru

Alys Cole-King, Connecting with People

Alex Cotton, Connecting with People

21 Mawrth 2018

Darllenwch y trawsgrifiad

Gwyliwch ar Senedd.tv

3. ProMo-Cymru a Papyrus

Stephanie Hoffman, Pennaeth Gweithredu Cymdeithasol, ProMo-Cymru

Nicola Simms, Arweinydd Llinell Gymorth - Ymarfer, Ansawdd a Gweithrediadau, ProMo-Cymru

Ged Flynn, Prif Weithredwr, Papyrus

21 Mawrth 2018

Darllenwch y trawsgrifiad

Gwyliwch ar Senedd.tv

4. Coleg Brenhinol y Therapyddion Galwedigaethol a Chymdeithas Seicolegol Prydain

Genevieve Smyth, Cynghorydd Proffesiynol, Coleg Brenhinol y Therapyddion Galwedigaethol

Peter Hewin, Uwch Therapydd Galwedigaethol

Dr Kathryn Walters, Seicolegydd Clinigol Ymgynghorol, Cymdeithas Seicolegol Prydain

17 Mai 2018

Darllenwch y trawsgrifiad

Gwyliwch ar Senedd.tv

5. Lleng Brydeinig Frenhinol a Combat Stress

Antony Metcalfe, Rheolwr Ardal Cymru, y Lleng Brydeinig Frenhinol

Paula Berry, Rheolwr Gweithrediadau Rhanbarthol – Canolog, Combat Stress

17 Mai 2018

Darllenwch y trawsgrifiad

Gwyliwch ar Senedd.tv

6. Dr Sallyanne Duncan, Prifysgol Strathclyde, a Dr Ann Luce, Prifysgol Bournemouth

Dr Sallyanne Duncan, Prifysgol Strathclyde

Dr Ann Luce, Prifysgol Bournemouth

17 Mai 2018

Darllenwch y trawsgrifiad

Gwyliwch ar Senedd.tv

7. Dr Rhiannon Evans, Prifysgol Caerdydd

Dr Rhiannon Evans, Prifysgol Caerdydd

17 Mai 2018

Darllenwch y trawsgrifiad

Gwyliwch ar Senedd.tv

8. Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol Cymru

Dr Rebecca Payne, Cadeirydd, Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol Cymru

Dr Jane Fenton-May, Is-gadeirydd, Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol Cymru

17 Mai 2018

Darllenwch y trawsgrifiad

Gwyliwch ar Senedd.tv

9. Samariaid

Sarah Stone, Cyfarwyddwr Gweithredol y Samariaid yng Nghymru

Emma Harris, Swyddog Polisi a Chyfathrebu

Susan Francis, Swyddog Prosiect Samariaid Cymoedd De Cymru

23 Mai 2018

Darllenwch y trawsgrifiad

Gwyliwch ar Senedd.tv

10. Coleg Brenhinol y Seiciatryddion yng Nghymru

Yr Athro Keith Lloyd, Cadeirydd, Coleg Brenhinol y Seiciatryddion yng Nghymru

23 Mai 2018

Darllenwch y trawsgrifiad

Gwyliwch ar Senedd.tv

11. Fforymau hunanladdiad aml-asiantaeth rhanbarthol

Dr Gwenllian Parry, Cadeirydd, Gweithgor Hunanladdiad a Hunan-niweidio Gogledd Cymru

Avril Bracey, Cadeirydd, Fforwm Rhanbarthol Canolbarth a De-orllewin Cymru

23 Mai 2018

Darllenwch y trawsgrifiad

Gwyliwch ar Senedd.tv

12. Survivors of Bereavement by Suicide (SOBS)

Angela Samata, Llysgennad SOBS

23 Mai 2018

Darllenwch y trawsgrifiad

Gwyliwch ar Senedd.tv

13. Cynrychiolwyr Byrddau Iechyd Lleol a Iechyd Cyhoeddus Cymru

Nadine Morgan, Pennaeth Nyrsio Dros Dro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Rhiannon Jones, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymunedol ac Iechyd Meddwl, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

Will Beer, Meddyg Ymgynghorol ym maes Iechyd Cyhoeddus, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Su Mably, Meddyg Ymgynghorol ym maes Iechyd Cyhoeddus, Iechyd Cyhoeddus Cymru

7 Mehefin 2018

Darllenwch y trawsgrifiad

Gwyliwch ar Senedd.tv

14. Cynrychiolwyr y gwasanaethau brys

Y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Jonathan Drake (Heddlu De Cymru), Prif Swyddog Arweiniol Cymru ym maes Iechyd Meddwl, Grŵp Prif Swyddogion Cymru

Alison Kibblewhite, Pennaeth Lleihau Risg, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru

Bleddyn Jones, Pennaeth Gorsaf, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru

7 Mehefin 2018

Darllenwch y trawsgrifiad

Gwyliwch ar Senedd.tv

15. Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Claire Bevan, Cyfarwyddwr Ansawdd, Diogelwch, Profiad Cleifion a Nyrsio, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Stephen Clarke, Pennaeth Iechyd Meddwl, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Nigel Rees, Pennaeth Ymchwil ac Arloesedd, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

7 Mehefin 2018

Darllenwch y trawsgrifiad

Gwyliwch ar Senedd.tv

16. Gwasanaeth Carchardai a Gwasanaeth Prawf EM

Kenny Brown, Cyfarwyddwr Carchardai Sector Cyhoeddus yn Ne Cymru, Gwasanaeth Carchardai a Phrofiannaeth EM

Sophie Lozano, Arweinydd Diogelwch Grŵp Carchardai, Gwasanaeth Carchardai a Phrofiannaeth EM

7 Mehefin 2018

Darllenwch y trawsgrifiad

Gwyliwch ar Senedd.tv

17. Network Rail

Ian Stevens, Rheolwr Rhaglen - Atal Hunanladdiad, Network Rail

Yr Uwch-arolygydd Mark Cleland, Heddlu Trafnidiaeth Prydain

7 Mehefin 2018

Darllenwch y trawsgrifiad

Gwyliwch ar Senedd.tv

18. Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Vaughan Gething AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Ainsley Bladon,  Arweinydd Strategaeth Iechyd Meddwl, Llywodraeth Cymru

Liz Davies, Uwch Swyddog Meddygol/ Dirprwy Gyfarwyddwr Iechyd Meddwl a Grwpiau Agored i Niwed, Llywodraeth Cymru

27 Mehefin 2018

Darllenwch y trawsgrifiad

Gwyliwch ar Senedd.tv

 

Cymorth a chefnogaeth

 

Os ydych yn ei chael yn anodd ymdopi, angen siarad â rhywun neu’n teimlo fel eich lladd eich hun, gallwch gysylltu â’r Samariaid.  

 

Rhadffôn 24 awr y dydd o unrhyw ffôn ar 116 123.

Llinell Gymraeg: 0808 164 0123 (7pm-11pm, 7 diwrnod yr wythnos)

E-bost: jo@samaritans.org

Gwefan: Samariaid Cymru

 

Penderfyniadau:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Fyrddau Iechyd Lleol ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.

2.2 Cytunodd Nadine Morgan i roi enghreifftiau o arfer gorau o ran hyfforddiant staff. Cytunodd Rhiannon Jones, Will Beer a Nadine Morgan i roi data ar gyfran y cleifion a welir o fewn pum diwrnod yn unol â chynllun cyflawni 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' ar gyfer 2016-19.

 

Dyddiad cyhoeddi: 15/06/2018

Dyddiad y penderfyniad: 07/06/2018

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 07/06/2018 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd

Dogfennau Cefnogol: