Manylion y penderfyniad
Consideration of information from HMRC in relation to Welsh Rates of Income Tax
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd
Statws: Wedi’i gwblhau
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Mae’r Pwyllgor
Cyllid yn ystyried unrhyw gynigion ar gyfer datganoli
pwerau cyllidol i Gymru, a chynnydd yn hyn o beth.
Cododd y cynigion ar gyfer datganoli pwerau cyllidol i
Gymru gan y Comisiwn
ar Ddatganoli yng Nghymru (a adwaenir hefyd fel y Comisiwn Silk), yr oedd
ei adroddiad cyntaf yn gwneud argymhellion o ran datganoli trethi penodol.
Roedd Deddf
Cymru 2014 yn rhoi rhai o argymhellion y Comisiwn ar waith, gan gynnwys
rhoi pwerau i’r Senedd wneud cyfreithiau sy’n gosod treth ar drafodiadau tir ac
ar waredu i safleoedd tirlenwi. Sefydlodd y Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru)
2016 Awdurdod Cyllid Cymru
i gasglu a rheoli trethi a ddatganolwyd yn sgîl Deddf Cymru.
Mae cyfrifoldebau’r Pwyllgor hefyd yn cynnwys ystyried yr adroddiadau blynyddol
ar waith a gweithrediad Rhan 2 (Cyllid) o Ddeddf Cymru 2014 a osodir bob
blwyddyn gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.
Cyhoeddwyd Bil Cymru Llywodraeth y DU yn 2016, a bu’r
Pwyllgor hefyd yn trafod goblygiadau ariannol y Bil hwn.
Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad
ar weithredu datganoli cyllidol yng Nghymru (PDF, 1MB) ym mis Mawrth 2018.
Anfonodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid ymateb
i adroddiad y Pwyllgor Cyllid (PDF, 77KB) yn Mai 2018.
Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad, Rhoi
datganoli cyllidol ar waith yng Nghymru (2019) (PDF, 334KB) ar 27 Mawrth
2019.
Gellir gweld dogfennau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r
Pwyllgor Cyllid yn y meysydd hyn isod.
Penderfyniadau:
7.1 Nododd y Pwyllgor Adroddiad Blynyddol Cyllid a
Thollau EM ar Gyfraddau Treth Incwm Cymru
a’r Cytundeb Lefel Gwasanaeth
Dyddiad cyhoeddi: 20/10/2020
Dyddiad y penderfyniad: 12/10/2020
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 12/10/2020 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd