ARFOR

ARFOR

Mae'r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol yn craffu ar Weinidogion Llywodraeth Cymru ar gyflawni cam cyntaf ac ail gam y rhaglen ARFOR.

 

Mae ARFOR yn fenter ar y cyd gan Gynghorau Sir Caerfyrddin, Ceredigion, Gwynedd ac Ynys Môn, gyda’r nod o ddefnyddio entrepreneuriaeth a datblygu economaidd yng nghadarnleoedd y Gymraeg a, thrwy hynny, gynnal yr iaith.

 

Bydd y sesiwn dystiolaeth yn ceisio deall barn y Gweinidogion ar ba elfennau o ARFOR y dylid eu cynnal neu eu hefelychu a sut y bydd dysgu o ARFOR yn llywio polisi economaidd a strategaethau'r Gymraeg yn y dyfodol yn nhymor nesaf y Senedd.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;