Dyfodol rygbi yng Nghymru

Dyfodol rygbi yng Nghymru

Bydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol yn cynnal sesiwn dystiolaeth lafar gydag Undeb Rygbi Cymru (WRU) ar 26 Chwefror 2026 i drafod cynigion ar gyfer dyfodol rygbi yng Nghymru.

 

Ym mis Hydref 2025, cyhoeddodd Bwrdd yr Undeb gyfres o ddiwygiadau mawr i'r gêm broffesiynol. Roedd y rhain yn cynnwys ailstrwythuro nifer y timau proffesiynol, contractio chwaraewyr a hyfforddwyr yn uniongyrchol, a sefydlu academi genedlaethol newydd i ganoli datblygiad chwaraewyr ifanc i gyrraedd safon rygbi elitaidd. Yn ôl Undeb Rygbi Cymru, mae'r cynigion wedi'u cynllunio i sicrhau cynaliadwyedd ariannol hirdymor y gêm broffesiynol a gwella perfformiad Cymru ar y maes rygbi.

 

Yn y sesiwn sydd i ddod, bydd y Pwyllgor yn holi Richard Collier-Keywood, Cadeirydd Undeb Rygbi Cymru a Geraint John, y Cyfarwyddwr Cymunedol ar y cynigion. Bydd yr Aelodau yn edrych yn fanwl ar effaith debygol y diwygiadau, ac a allant gyflawni amcanion datganedig yr Undeb ar gyfer sefydlogrwydd ariannol, datblygu talent, a pherfformiad elitaidd.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;