Bil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru)
Bil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru)
Bil Llywodraeth
Cymru a gyflwynwyd gan Huw
Irranca-Davies AS, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros
Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, ym mis Mehefin 2025. Mae’r Pwyllgor Busnes
wedi cyfeirio’r Bil i’r Pwyllgor
Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd, a Seilwaith.
Gwybodaeth am
y Bil
Yn ôl Llywodraeth
Cymru, nod y darpariaethau egwyddorion amgylcheddol yw sefydlu fframwaith
cadarn ar gyfer llywodraethu amgylcheddol yng Nghymru. Mae'r fframwaith hwn yn
ceisio mynd i'r afael â thair her graidd, sef: brwydro yn erbyn effaith gyfunol
yr argyfwng hinsawdd a’r argyfwng natur, diogelu'r amgylchedd rhag niwed, ac
ymateb i newidiadau o ran strwythurau llywodraethu amgylcheddol yn dilyn
ymadawiad y DU o'r UE.
Prif amcanion y
Bil yw:
>>>>
>>>Mae’r
Bil yn sefydlu amcan amgylcheddol ac egwyddorion amgylcheddol penodol. Bydd yn
ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru a CNC, wrth lunio polisi, a rhai
awdurdodau cyhoeddus eraill, wrth gynnal asesiadau amgylcheddol strategol,
igymhwyso’r egwyddorion, ac i integreiddio diogelu’r amgylchedd.
>>>Bydd
y Bil yn sefydlu corff llywodraethiant amgylcheddol annibynnol, Swyddfa
Llywodraethiant Amgylcheddol Cymru (“OEGW”) i ddarparu trosolwg strategol o
ofynion ar awdurdodau cyhoeddus i: gydymffurfio â chyfraith amgylcheddol;
llunio cyfraith amgylcheddol effeithiol; gweithredu/cymhwyso cyfraith
amgylcheddol yn effeithiol; a dwyn yr awdurdodau cyhoeddus hynny i gyfrif, mewn
modd tebyg i Swyddfa Diogelu’r Amgylchedd a sefydlwyd gan Ddeddf yr Amgylchedd
2021.
>>>Mae’r
Bil yn diwygio Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 i sefydlu fframwaith gosod
targedau bioamrywiaeth â’r nod o arafu a gwrthdroi’r dirywiad mewn
bioamrywiaeth yng Nghrymu, yn ogystal â gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i
hyrwyddo ymwybyddiaeth yng Nghymru o bwysigrwydd bioamrywiaeth, a’r bygythiadau
i fioamrywiaeth.
<<<
Mae rhagor o
fanylion am y Bil (PDF
700KB) yn y Memorandwm
Esboniadol (PDF 3MB) cysylltiedig.
Cyfnod
Presennol
BillStage1
Mae’r Bil yng
Nghyfnod 1 ar hyn o bryd. Mae eglurhad o gyfnodau amrywiol Biliau’r Senedd ar
gael yn y Canllaw
i Cyfnod Filiau a Deddfau Cyhoeddus.
Cofnod o daith
y Bil drwy Senedd Cymru
Mae’r tabl a
ganlyn yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o daith y Bil drwy Senedd.
¬¬¬Cyfnod 1,
Pwyllgor yn trafod yr egwyddorion cyffredinol (Cyfredol)
Bydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd, a
Seilwaith yn trafod ei ddull o ran ystyriaethau Cyfnod 1 ar 4 Mehefin 2025.
Dyddiadau’r
Pwyllgor
Bydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd, a
Seilwaith yn ystyried y Bil ar y dyddiadau canlynol:
|
Dyddiad Cyfarfod &
Agenda |
Pwrpas y cyfarfod |
Trawsgrifiad |
Senedd.TV |
|
Trafod y dull craffu ar
gyfer Cyfnod 1 |
Preifat |
Preifat |
|
|
Sesiwn dystiolaeth gyda'r y
Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a
Materion Gwledig |
|||
|
Sesiynau tystiolaeth |
|||
|
Sesiynau tystiolaeth |
|||
|
Sesiwn dystiolaeth gyda'r y
Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a
Materion Gwledig |
Gosododd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd, a
Seilwaith ei adroddiad ar
24 Hydref 2025 (PDF 2257MB)
Bydd y Pwyllgor Deddfwriaeth,
Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn ystyried y Bil ar y dyddiadau
canlynol:
|
Dyddiad Cyfarfod &
Agenda |
Pwrpas y cyfarfod |
Trawsgrifiad |
Senedd.TV |
|
Sesiwn dystiolaeth gyda'r y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y
Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig |
Cyhoeddodd y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad (PDF
2.1MB) ar 24 Hydref 2025.
Bydd y Pwyllgor Cyllid
yn ystyried y Bil ar y dyddiadau canlynol:
|
Dyddiad Cyfarfod &
Agenda |
Pwrpas y cyfarfod |
Trawsgrifiad |
Senedd.TV |
|
|
Sesiwn dystiolaeth gyda'r y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y
Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig |
|
|
Gosododd y
Pwyllgor Cyllid ei adroddiad
ar 21 Hydref 2025 (PDF 358KB). Ymatebodd
Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ar 31 Hydref 2025 (PDF 230KB).
Gohebiaeth
Cyfnod 1:
>>>>
<<<
zzz
¬¬¬Cyflwyno’r Bil
(2 Mehefin 2025)
>>>>
>>>Bil yr
Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru)
fel y’i cyflwynwyd (PDF 700KB)
>>>Memorandwm
Esboniadol (PDF 3MB)
>>>Datganiad
y Llywydd - 2 Mehefin 2025 (PDF 90KB)
>>>Datganiad
o Fwriad Polisi - 2 Mehefin 2025 (PDF 365KB)
>>>Adroddiad y
Pwyllgor Busnes ar yr amserlen ar gyfer trafod y Bil: 3 Mehefin 2025 (PDF
44KB)
<<<
zzz
Math o fusnes: Bil
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 30/05/2025
Cyswllt: Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith Clerk: Marc Wyn Jones E-bost: SeneddHinsawdd@senedd.cymru Tel: 0300 200 6565.
Dogfennau
- Hide the documents
- Datganiad o Fwriad Polisi - 2 Mehefin 2025 (PDF 365KB)
PDF 365 KB - 2025 10 31 - DFM letter to Chair of Finance Committee - response to committee report - CYM
PDF 230 KB
Ymgynghoriadau