P-06-1524 Codi cerflun o Rachel Williams i goffáu’r effaith a gafodd ar addysg Gymraeg ym Mro Morgannwg
P-06-1524 Codi cerflun o Rachel Williams i goffáu’r effaith a gafodd ar addysg Gymraeg ym Mro Morgannwg
Petitions4
Cyflwynwyd y
ddeiseb hon gan Ffion Newland, ar ôl casglu 293 lofnodion.
Geiriad y
ddeiseb:
Dechreuodd Rachel
Williams ei gyrfa fel athrawes mewn ysgol Saesneg. Cafodd alwad ffôn , lle
gofynnwyd iddi ddechrau gweithio drannoeth fel athrawes mewn meithrinfa
Gymraeg.
Wrth ddechrau yn
y rôl, clywodd y byddai swyddog addysg o'r enw Mr Angel yn ymweld â'r ysgol er
mwyn profi Cymraeg y plant. Roedd rhai o'r plant yn dod o gartrefi Saesneg eu
hiaith, ac felly nid oeddent yn gallu siarad Cymraeg. Dysgodd Rachel ychydig o
Gymraeg i'r plant hyn, er mwyn iddynt allu pasio'r prawf a pheidio â gorfod
gadael yr ysgol.
Dyfarnwyd MBE
iddi flynyddoedd yn ddiweddarach, er mwyn diolch iddi am ei gwaith dros y
Gymraeg yn y Barri a Bro Morgannwg.
Gwybodaeth
Ychwanegol:
Heb waith Rachel
Williams, ni fyddai’r Gymraeg wedi ffynnu cymaint yn y Barri a Bro Morgannwg.
Erbyn hyn, mae
saith ysgol gynradd Gymraeg ym Mro Morgannwg, yn ogystal ag un ysgol uwchradd
Gymraeg. Ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl heb Rachel Williams, gan mai dim ond
plant o deuluoedd Cymraeg eu hiaith fyddai wedi cael mynd i ysgolion Cymraeg.
Yn ogystal, i
lawer o blant Ysgol Gymraeg Sant Baruc, byddai ein hunaniaeth yn wahanol gan na
fyddem wedi cael y cyfle i ddysgu Cymraeg.
Dylid codi
cerflun o Rachel Williams yn y Barri er mwyn dathlu, coffáu a rhannu ei hanes
a’r effaith aruthrol a gafodd ar y Gymraeg. A wyddoch chi mai dim ond pedwar
cerflun o fenywod sydd yng Nghymru gyfan? Byddai cerflun o Rachel Williams yn
ysbrydoli plant a phobl ifanc i sefyll dros yr hyn sy’n iawn a thros y Gymraeg.
Statws
Yn ei gyfarfod ar
16/06/2025 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon
wedi'i chwblhau.
Gellir gweld
manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau
cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod
gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 16/06/2025.

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Caerffili
- Canol De Cymru
[PetitionFooter]
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 22/05/2025