Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Lles Plant ac Ysgolion

Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Lles Plant ac Ysgolion

Cafodd y Bil Lles Plant ac Ysgolion (y Bil) ei gyflwyno yn Nhŷr Cyffredin ar 17 Rhagfyr 2024.

 

Mae enw hir y Bil yn nodi mai diben y Bil yw gwneud darpariaeth ynghylch diogelu a lles plant; ynghylch cymorth i blant mewn gofal neu’n gadael gofal; ynghylch rheoleiddio gweithwyr gofal; ynghylch rheoleiddio sefydliadau ac asiantaethau o dan Ran 2 o Deddf Safonau Gofal 2000; ynghylch cyflogi plant; ynghylch darpariaeth clybiau brecwast a gwisg ysgol; ynghylch presenoldeb plant yn yr ysgol; ynghylch rheoleiddio sefydliadau addysgol annibynnol; ynghylch arolygiadau ysgolion a cholegau; ynghylch camymddwyn gan athrawon; ynghylch Academïau ac athrawon mewn Academïau; diddymu adran 128 o Ddeddf Addysg 2002; ynghylch lleoedd mewn ysgolion a derbyniadau; ynghylch sefydlu ysgolion newydd; ac at ddibenion cysylltiedig.

 

Mae’r Bil yn ddarostyngedig i’r broses cydsyniad deddfwriaethol o dan Reol Sefydlog 29. Dyma pan fo Llywodraeth y DU yn ceisio cydsyniad Senedd Cymru i ddeddfu ar fater sy’n dod o fewn cymhwysedd y Senedd.

 

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 4) – Ionawr 2026

 

Ar 16 Ionawr 2026, gosododd Llywodraeth Cymru Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (PDF 272KB).

 

Ar 20 Ionawr 2026 cytunodd (PDF 76KB) y Pwyllgor Busnes ar ddyddiad cau i’r pwyllgorau gyflwyno adroddiad ar y memoranda sy'n ymwneud â'r Bil, sef 3 Chwefror 2026.

 

Gosododd (PDF 216KB) y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ei adroddiad ar 3 Chwefror 2026.

 

Ar 3 Chwefror 2026, cytunodd y Pwyllgor Busnes ar ddyddiad cau newydd i’r pwyllgorau gyflwyno adroddiad ar y memoranda sy'n ymwneud â'r Bil, sef 2 Mawrth 2026 (PDF 53KB).

 

Ar 24 Chwefror 2026, cytunodd y Pwyllgor Busnes ar ddyddiad cau newydd i’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyflwyno adroddiad ar y memoranda sy'n ymwneud â'r Bil, sef 16 Mawrth 2026.

 

 

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3) – Mehefin 2025

 

Ar 12 Mehefin 2025, gosododd Llywodraeth Cymru Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (PDF 76KB).

 

Ar 17 Mehefin 2025, cytunodd (42KB PDF) y Pwyllgor Busnes ar ddyddiad cau i’r pwyllgorau gyflwyno adroddiad ar y memoranda sy'n ymwneud â'r Bil, sef 19 Medi 2025.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad ar 19 Medi 2025 (PDF 375KB). Ymatebodd (PDF 40KB) Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ym mis Hydref 2025.

 

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2) – Mai 2025

 

Ar 28 Mai 2025, gosododd Llywodraeth Cymru Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (PDF 173KB).

 

Ar 3 Mehefin 2025, cytunodd (41KB PDF) y Pwyllgor Busnes ar ddyddiad cau i’r pwyllgorau gyflwyno adroddiad ar y memoranda sy'n ymwneud â'r Bil, sef 11 Gorffennaf 2025.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad ar 19 Medi 2025 (PDF 375KB). Ymatebodd (PDF 40KB) Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ym mis Hydref 2025.

 

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol – Mawrth 2025

 

Gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil gerbron y Senedd ar 24 Mawrth 2025 (PDF 220KB).

 

Mae'r Pwyllgor Busnes wedi cyfeirio'r Memorandwm at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a bydd angen cyflwyno adroddiad arno erbyn 16 Mai 2025 (PDF 41KB).

 

Ar 29 Ebrill 2025 (PDF 53KB), cytunodd y Pwyllgor Busnes i ymestyn y dyddiad cau ar gyfer adrodd tan 11 Gorffennaf 2025.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad ar 19 Medi 2025 (PDF 375KB). Ymatebodd (PDF 40KB) Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ym mis Hydref 2025.

 

Gosododd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ei adroddiad ar 19 Medi 2025. (PDF 302KB)

Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 24/03/2025

Dogfennau