Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Tybaco a Fêps (2024 - 2025)

Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Tybaco a Fêps (2024 - 2025)

Cyflwynwyd y Bil Tybaco a Fêps (y Bil) yn Nhŷr Cyffredin ar 5 Tachwedd 2024.

Mae enw hir y Bil yn dweud mai diben y Bil “i wneud darpariaeth ynghylch cyflenwi tybaco, fêps a chynhyrchion eraill, gan gynnwys darpariaeth sy'n gwahardd gwerthu tybaco i bobl a anwyd ar neu ar ôl 1 Ionawr 2009 a darpariaeth ynghylch trwyddedu gwerthiannau manwerthu a chofrestru manwerthwyr; i’w gwneud yn bosibl gosod gofynion cynnyrch a gwybodaeth mewn cysylltiad â thybaco, fêps a chynhyrchion eraill; i reoli hysbysebu a hyrwyddo tybaco, fêps a chynhyrchion eraill; ac i wneud darpariaeth ynghylch mannau lle na chaniateir ysmygu, fepio na defnyddio dyfeisiau cynhesu tybaco.”

 

Mae’r Bil yn ddarostyngedig i’r broses cydsyniad deddfwriaethol o dan Reol Sefydlog 29. Dyma pan fo Llywodraeth y DU yn ceisio cydsyniad Senedd Cymru i ddeddfu ar fater sy’n dod o fewn cymhwysedd y Senedd.

 

Derbyniwyd y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil yn y Cyfarfod Llawn ar 9 Rhagfyr 2025.

 

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3) – Hydref 2025

 

Ar 31 Hydref 2025, gosododd Llywodraeth Cymru Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (PDF 194KB).

 

Mae'r Pwyllgor Busnes wedi cyfeirio'r Memorandwm Atodol at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a bydd angen cyflwyno adroddiad arno erbyn 2 Rhagfyr 2025 (PDF 78KB).

 

Ar 21 Tachwedd 2025, ysgrifennodd y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn tynnu Memorandwm Rhif 3 yn ôl.

 

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2) – Ebrill 2025

 

Ar 4 Ebrill 2025, gosododd Llywodraeth Cymru Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (PDF 156KB).

 

Mae'r Pwyllgor Busnes wedi cyfeirio'r Memorandwm Atodol at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a bydd angen cyflwyno adroddiad arno erbyn 6 Mehefin 2025 (PDF 43KB).

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad (PDF 206KB) ar 23 Mai 2025. Ymatebodd (PDF 44KB) Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ar 3 Gorffennaf 2025.

 

Gosododd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ei adroddiad (PDF 118KB) ar 6 Mehefin 2025.

 

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol – Tachwedd 2024

 

Gosododd Llywodraeth Cymru Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol (PDF 396KB) ar y Bil gerbron y Senedd ar 20 Tachwedd 2024.

 

Mae'r Pwyllgor Busnes wedi cyfeirio'r Memorandwm at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a bydd angen cyflwyno adroddiad arno erbyn 7 Chwefror 2025 (PDF 27KB).

 

Ar 3 Rhagfyr 2024, cytunodd (PDF 48.4KB) y Pwyllgor Busnes ar ddyddiad cau newydd i’r sef 21 Chwefror 2025.

 

Ar 14 Ionawr 2025, cytunodd (PDF 29.4KB) y Pwyllgor Busnes ar ddyddiad cau newydd i’r sef 28 Chwefror 2025.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad (PDF 340KB) ar 25 Chwefror 2025. Ymatebodd Llywodraeth Cymru i'r adroddiad ar 7 Ebrill 2025 (PDF 74KB).

 

Gosododd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ei adroddiad (PDF 373KB) ar 28 Chwefror 2025. Ymatebodd Llywodraeth Cymru i'r adroddiad ar 7 Ebrill 2025 (PDF 708KB).

Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol

Cyhoeddwyd gyntaf: 20/11/2024

Dogfennau