Adolygiad o Brotocol Proses y Gyllideb

Adolygiad o Brotocol Proses y Gyllideb

Mae'r Pwyllgor Cyllid yn cynnal ymchwiliad i adolygu Protocol Proses y Gyllideb.

 

Protocol Proses y Gyllideb

Mae’r Senedd a Llywodraeth Cymru wedi cytuno ar brotocol proses y gyllideb (PDF, 310KB).

 

Mae’r protocol yn ofynnol o dan Reol Sefydlog 20.1A ac mae’n ategu gweithdrefnau cyllid y Senedd, a nodir o dan Reol Sefydlog 19 a Rheol Sefydlog 20.

 

Cytunodd y Cynulliad ar y pryd ar y protocol cyfredol ar 21 Mehefin 2017.

 

Adolygiad o Brotocol Proses y Gyllideb

Mae paragraff 41 o’r protocol yn nodi y gall Llywodraeth Cymru neu’r Pwyllgor Cyllid gynnig newidiadau iddo.

 

Mae trafodaethau ynghylch adolygu’r Protocol a gweithdrefnau cyllidebol y Senedd yn ehangach wedi bod yn nodwedd reolaidd o drafodaethau’r Pwyllgor Cyllid yn ystod y Chweched Senedd hyd yma, ac yn destun gohebiaeth â Llywodraeth Cymru a Chyrff a Ariennir yn Uniongyrchol.

 

Ar 24 Mehefin 2022, ysgrifennodd y Pwyllgor at y Gweinidog yn cadarnhau y byddai’r Pwyllgor yn adolygu’r Protocol yn ystod y Senedd bresennol i sicrhau ei fod yn parhau i fod yn addas at y diben, a chafodd cynigion manwl i newid y Protocol eu cynnwys mewn llythyr at y Gweinidog ar 9 Rhagfyr 2022.

 

Cafwyd ymateb gan y Gweinidog, yn amlinellu cynigion manwl ar gyfer newid, ar 20 Gorffennaf 2023. 

 

Ymgynghorwyd â’r cyrff a ariennir yn uniongyrchol ar y newidiadau arfaethedig i’r Protocol ar 23 Chwefror 2024. Ar 26 Mehefin 2024 cytunodd y Pwyllgor mewn egwyddor i lunio adroddiad yn ddiweddarach yn nhymor y Senedd, yn amodol ar farn Llywodraeth Cymru, yn ymgorffori argymhellion yn ymwneud â newid y protocol, diwygio Rheolau Sefydlog y gyllideb atodol ac adolygu'r Datganiad o Egwyddorion, o ystyried y rhyngberthynas rhwng y tri llinyn.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 02/08/2024

Dogfennau