Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Cŵn (Diogelu Da Byw) (Diwygio)

Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Cŵn (Diogelu Da Byw) (Diwygio)

Cyflwynwyd y Bil Cŵn (Diogelu Da Byw) (Diwygio) (y Bil) yn Nhŷr Cyffredin ar 11 Rhagfyr 2023.

 

Mae enw hir y Bil yn nodi mai Bil yw hwn i wneud darpariaeth sy’n newid y gyfraith ynghylch y drosedd o aflonyddu ar dda byw, gan gynnwys newidiadau i’r hyn sy’n cyfrif fel trosedd a rhagor o bwerau i ymchwilio i droseddau a amheuir; ac at ddibenion cysylltiedig.

 

Mae’r Bil yn ddarostyngedig i’r broses cydsyniad deddfwriaethol o dan Reol Sefydlog 29. Dyma pan fo Llywodraeth y DU yn ceisio cydsyniad Senedd Cymru i ddeddfu ar fater sy’n dod o fewn cymhwysedd y Senedd.

 

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol – Mai 2024

 

Gosododd Llywodraeth Cymru Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol (PDF 196KB) ar y Bil gerbron y Senedd ar 8 Mai 2024.

 

Mae'r Pwyllgor Busnes wedi cyfeirio'r Memorandwm at y Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a bydd angen cyflwyno adroddiad arno erbyn 5 Gorffennaf 2024 (PDF 27KB).

Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol

Cyhoeddwyd gyntaf: 07/05/2024